(Llun hanesyddol)
Mae arbenigwr ar emynau wedi croesawu digwyddiad yn y Cynulliad i gofio am William Williams Pantycelyn ond wedi beirniadu’r Llywodraeth eto am fethu â gwneud dim o bwys i ddathlu ei 300 mlwyddiant.

Mae E. Wyn James, a fydd yn siarad yn y digwyddiad fory, hefyd wedi cefnogi galwad am greu pwyllgor i gynghori’r Llywodraeth ar benblwyddi o bwys yn hanes Cymru.

Yn yr achos yma, meddai, roedden nhw wedi colli cyfle i ddathlu bywyd dyn sy’n adnabyddus ar draws  byd ac a fyddai wedi denu sylw rhyngwladol.

“Rhan o’r broblem yw ydyn nhw’n gweld Pantycelyn yn ddigon o ffigwr i allu marchnata Cymru,” meddai Wyn James wrth Golwg360. “Falle nad ydyn nhw’n sylweddol i fod yn ffigwr rhyngwladol mor bwysig.

“Mae ei eiriau e, yn enwedig ‘Guide Me, O Thou Great Jehovah’ yn cael eu canu ar draws y byd – mae’n bosib mae ei eirie fe yw’r geiriau mwya’ adnabyddus gan Gymro neu Gymraes.”

Ateb y Llywodraeth – neb wedi holi

Mewn ateb yn y Cynulliad ychydig ddyddiau’n ôl, fe ddywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates, ei fod yn siomedig iawn nad oedd yr un corff arall wedi dod at y Llywodraeth i ofyn am gefnogaeth i ddigwyddiadau i ddathlu Pantycelyn.

Roedd hynny wedi digwydd yn achos yr awduron Saesneg eu hiaith, Dylan Thomas a Roald Dahl, ac roedd yr Ysgrifennydd wedi dweud ddechrau’r flwyddyn y bydden nhw’n croesawu trafodaeth.

“Piti na fydden nhw’n fwy rhagweithiol,” meddai Wyn James. “Ond mae hyn hefyd yn awgrymu nad oedd yr un o asiantaethau’r Llywodraeth wedi gofyn am ddim.

“Mae yna elfen yn y Gymru amlddiwylliannol yma sydd braidd yn swil o roi sylw i Gristnogaeth – rhai yn filwiriaethus a rhai’n anwybodus.

“Rhwng hynny a’r ffaith fod hyn yn ymwneud â llenyddiaeth Gymraeg, mae peryg fod Pantycelyn wedi diodde’ o double whammy,”

Hanner milwn yn canu geiriau Pantycelyn

Er bod Cristnogaeth ar drai yng Nghymru, ar draws y byd roedd ar gynnydd, yn ôl Wyn James, a 500,000 o bobol wedi dod i wasanaeth i ddathlu 150 mlwyddiant y genhadaeth Gymraeg ym Mryniau Khasia yn India.

“Mae pob un o’r rheina yn canu geiriau Pantycelyn,” meddai.

  • Y Llyfrgell Genedlaethol sydd y tu cefn i’r digwyddiad yn y Cynulliad fory, gydag arddangosfa fechan a sgwrs gan E. Wyn James. Y Cynulliad ei hun sy’n ei drefnu, nid y Llywodraeth, ond mae disgwyl i’r Prif Weinidog, Carwyn Jones, gymryd rhan.