Mae band Y Trŵbz wedi rhyddhau eu sengl gyntaf heddiw fel rhan gyfres o ganeuon gan artistiaid newydd i gael eu rhyddhau gan gylchgrawn Y Selar.

Bwriad y cynllun Clwb Senglau’r Selar yw rhyddhau sengl cyntaf gan artist newydd bob mis, a ‘Tyrd yn Ôl’ gan Y Trŵbz yw’r ail gân i gael ei ryddhau drwy’r cynllun.

Mae’r sengl ddiweddaraf gan y grŵp ifanc o’r gogledd ar gael i’w lawr lwytho o heddiw ymlaen.

Coroni blwyddyn

Dywedodd prif leisydd Y Trŵbz eu bod yn falch iawn o allu cydweithio â chylchgrawn cerddoriaeth Cymraeg cyfoes Y Selar i ryddhau’r trac.

“Rydan ni’n falch iawn i allu rhyddhau ein cynnyrch cyntaf fel rhan o Glwb Senglau’r Selar,” Mared Williams.

“Mae wedi bod yn flwyddyn gofiadwy i ni rhwng ennill Brwydr y Bandiau C2 Radio Cymru a chael cyfle i chwarae ar lwyfan Maes B ar nos Sadwrn olaf y Steddfod. Mae rhyddhau ein sengl gyntaf yn ffordd berffaith i orffen y flwyddyn.

“Fe gawsom ni ymateb gwych i’r gân a gafodd ei recordio ar gyfer Brwydr y Bandiau, ac rydan ni’n edrych ymlaen at weld sut ymateb geith hon sydd ychydig bach yn wahanol.”

Syniad Clwb Senglau’r Selar ydy rhyddhau cynnyrch cyntaf artistiaid addawol, yn y gobaith y  bydd labeli’n cymryd sylw ac yn cynnig cytundeb recordio iddynt.

‘C-C-CARIAD!’ gan Estrons oedd sengl gyntaf y Clwb Senglau fis Tachwedd, gyda’r trac yn denu ymateb da wrth i’r band ei chwarae yn gigiau Dathlu 10 Y Selar yn ddiweddar.

Mae ‘Tyrd yn Ôl’ gan Y Trŵbz allan yn ddigidol heddiw ar iTunes, ac fe fydd hi hefyd ar gael ar Amazon a Spotify.