Ar ôl Cysgu’n Brysur dros yr haf gyda sioe Theatr yr Urdd, mae bois Bromas wedi penderfynu ei bod hi’n bryd Codi’n Fore a rhyddhau eu hail albwm mewn pryd i’r Nadolig.

Cafodd y band o ardal Caerfyrddin ymateb gwych i’w halbwm gyntaf Byr Dymor y llynedd, ac mae’r band yn gobeithio am yr un math o lwyddiant gyda’u hail.

Mae disgwyl y bydd Codi’n Fore ar gael ar-lein ac yn y siopau ar 8 Rhagfyr – blwyddyn yn union ers i CD cyntaf Bromas gael ei lansio.

Ac fel tamaid i aros pryd, dyma drac oddi ar yr albwm newydd yn arbennig i chi yma ar golwg360 – ‘Gofyn A Joia’:

Adrodd stori

Deg cân sydd ar albwm newydd Bromas, ac yn ôl chwaraewr allweddellau a gitâr y band, Llewelyn Hopwood, mae’r caneuon newydd yn trafod pynciau cyfarwydd ond mewn modd ychydig yn wahanol.

“R’yn ni’n parhau i drafod rhai o’r un themâu, yn enwedig yr hen gyfaill, dyhead, ond mewn ffordd fwy amhersonol, gan droi ein hun yn storïwyr yn hytrach na phrif gymeriadau,” esboniodd Llewelyn Hopwood wrth golwg360.

“Yn bendant mae’r albwm yma’n wahanol i’r un dwetha. Heb os ma’ mwy o ofal wedi’i gymryd wrth greu’r albwm yma oherwydd roeddem ni mewn llai o hast i ryddhau rhywbeth.

“Felly roedd amynedd gennym ni i geisio cyfyngu’n hun i beidio mynd dros ben llestri yn ychwanegu haen ar ôl haen o wead i mewn i un gân.”

Yn ôl Llewelyn Hopwood mae’r syniad o ddefnyddio’r cyfnod rhwng codi’n fore i fynd i gysgu gyda’r nos fel symbol am fywyd yn llinyn cyson drwy’r albwm.

Ac mae caneuon Codi’n Fore hefyd yn ystyried pa fath o ddylanwad mae gwefannau fel Facebook, Twitter ac Instagram yn ei gael ar bobl ifanc heddiw.

“Mae’r caneuon yn delio â themâu cyfoes sydd yn bennaf yn ymwneud â’r math o berson mae datblygiadau gwefannau cymdeithasol wrthi’n creu,” meddai Llewelyn Hopwood.

“Trwy hynny mae’r albwm yn trafod dyheadau am ryddid a serch mewn modd difrifol mewn rhai caneuon fel ‘Ela Mai’, ac mewn modd mwy ysgafn mewn caneuon fel ‘Huw’.”

Gigs ar y gweill

Fe fydd Bromas yn chwarae caneuon yn albwm newydd mewn amryw o gigs dros gyfnod y Nadolig, gan gynnwys yn Ysgol Bro Myrddin, tafarn Y Parrot yng Nghaerfyrddin, a’r Barri.

Dim taith swyddogol felly, meddai Llywelyn Hopwood, ond bydd cyfle i gael gafael ar gopi o Codi’n Fore gan y bechgyn eu hunain.

“Ni ddim digon edgy i gael ‘taith gaeaf’, ond ma’ dipyn o gigs ar y gweill, a thipyn o gyfle felly i brynu copi o’r albwm yn sbeshal gennym ni,” meddai.