Mae sefydlydd cwmni teledu Antena wedi dweud bod 10 o swyddi yn y fantol ar ôl i S4C newid y cytundeb gyda’r cwmni.

Dywedodd Iestyn Garlick  eu bod nhw wedi rhoi rhybudd o ddiswyddiad i 10 o staff ar ôl i S4C ddweud eu bod am gwtogi nifer y penodau o’r gyfres  Y Lle y flwyddyn nesaf.

Mae’r cwmni’n cyflogi 26 aelod o staff yng Nghaernarfon ar hyn o bryd ac mae nifer yn gweithio ar y gyfres i bobl ifanc. Mae gan y cwmni swyddfa arall yng Nghaerdydd.

Dywedodd Iestyn Garlick “na fyddai’n briodol ar hyn o bryd” i roi manylion ynglŷn â diswyddiadau gorfodol. Credir bod y cyhoeddiad wedi ei wneud i’r staff wythnos ddiwethaf.

Meddai Iestyn Garlick wrth y BBC: “Y sefyllfa ar hyn o bryd ydi bod Antena wedi rhoi rhybudd o ddiswyddiadau i aelodau o’r staff ac mae hynny’n syml iawn oherwydd bod y cytundeb sydd gynnon ni gyda S4C ar hyn o bryd wedi newid ar gyfer y flwyddyn nesa.”

Dim dyma’r tro cyntaf i Antena dorri swyddi yn y blynyddoedd diwethaf ac mae nifer o gwmnïau cynhyrchu teledu wedi gwneud yr un fath wrth i S4C gael ei chyllido mewn ffordd wahanol a chyda llai o arian.

Dywedodd prif weithredwr S4C, Ian Jones, ar raglen manylu ar Radio Cymru yn ddiweddar fod S4C wedi colli “36% mewn termau real i’n cyllideb ers 2010.”