Mae’r rhestr fer wedi ei henwi ar gyfer Gwobrau Gwir Flas Cymru eleni.

Fe fydd y gwobrau bwyd yn cael eu cynnal am y ddegfed flwyddyn, ac maen nhw’n cael eu noddi eleni gan gwmni llaethdy organig Rachel’s.

Mae’r seremoni wobrwyo’n cael ei chynnal yng Ngogledd Cymru am y tro cyntaf eleni. Y lleoliad fydd canolfan Venue Cymru yn Llandudno, a hynny ar nos Iau 20 Hydref.

Roedd y nifer o ymgeiswyr a gafwyd ar gyfer y categorïau amrywiol yn uchel, gyda 1,017 o geisiadau gan 366 o gwmnïau gwahanol, ond bellach mae’r rhestr wedi ei thorri i 67 ar gyfer y rownd derfynol.

“Dangos amrywiaeth wych y cynnyrch”

Trefnir y gwobrau blynyddol gan Lywodraeth Cynulliad Cymru er mwyn dathlu a rhoi sylw i ragoriaeth yn y sectorau bwyd, diod a lletygarwch yng Nghymru.

“Mae’r rhai sydd ar y rhestr fer ar gyfer rownd terfynol blas yn dangos amrywiaeth wych y cynnyrch a sgiliau’r rhai sy’n gweithio yn y diwydiant bwyd a diod yng Nghymru,” meddai Alun Davies, Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd a Physgodfeydd.

“Byddwn hefyd yn cyhoeddi’r rhai sydd ar y rhestr fer ar gyfer rowndiau terfynol y categorïau eraill yn fuan – yn cynnwys Bwyta Allan – sydd ar hyn o bryd yn y camau terfynol.”

“Bydd y seremoni wobrwyo ym mis Hydref, pan gyhoeddir enillwyr y gwobrau aur, arian ac efydd, yn achlysur cyffrous.”

Dyma restr o’r cwmnïau sydd wedi cyrraedd y rhestr fer eleni:

Baravelli’s
Bethesda Farm & Coffee Shop
Black Mountains Smokery Cyf
Blaengawney Farm
Blas ar Fwyd
Brecon Mineral Water
Bryn Seiriol Preserves
Bwyd Mr Aberdaron Cyf
Cathryn Cariad Chocolates
Castell Howell Foods Cyf
Caws Cenarth Cheese Cyf
Celtic Spirit Co.
Choc-o-art
Cig Mynydd Cymru
Cnwd Ltd
Coco Bean
Condessa Welsh Liqueurs
Cradoc’s Savoury Biscuits
Cwmcerrig Farm Shop & Grill
Cwmni Caws Caerfyrddin Cyf
Da Mhile Distillery
Dawn Meats (UK) Ltd
Derimon Smokery Cyf
Edwards o Gonwy
Forte’s Ice Cream
Gill’s Plaice
Goetre Farm Preserves
Gorno’s Speciality Foods Cyf
Graig Farm Organics
Halen Mn Cyf
Harvies Cyf
Holden Farm Dairy
Homemade Country Preserves
Hooton’s Homegrown
Hufenfa’r Castell
Hufenfa De Arfon Cyf
Ifor’s Welsh Wagyu
La Crme Patisserie Cyf
Llandudno Smokery
Llwynhelyg Farm Shop
Milk Link, Llandyrnog Creamery
Monty’s Brewery Ltd
Patchwork Foods
Pembrokeshire Cheese Company
Pennsylvania Farm Free Range Eggs
Primrose Organic Centre
Proper Welsh Milk Company
Puffin Produce Ltd
Rob Rattray Butchers
Sancler Organic
Sarah Cooks Your Homemade Pickles & Preserves
Siwgr a Sbeis
South & West Wales Fishing Communities Cyf
Stubbins Marketing
Subzero
The Celt Experience
The Village Bakery (Coedpoeth) Cyf
The Welsh Venison Centre
Trealy Farm Charcuterie
Trethowan’s Dairy Cyf
Tropical Forest Products Cyf
Ty Tanglwyst Dairy
Uncle Peter’s Fudge Company
Welsh Farmhouse Apple Juice
Welsh Seafoods Cyf
Y Cwt Caws
Yr Ardd Fadarch