Caws Gorwydd Caerffili
Cafodd caws Cymreig gryn sylw yn John Lewis ar Stryd Oxford ar ddydd Gŵyl Dewi, gyda thri meistr yn y maes yn dathlu’r achlysur.

Roedd gwesteion lwcus yn cael blasu amrywiaeth o wahanol gawsiau yn ogystal â chael eu haddysgu ynglŷn â sut mae caws yn cael ei greu, a sut mae datblygu eu nodweddion amgenach.

Gwelwyd arbenigwr caws, David Edwards a llysgennad Gwir Flas Cymru, Simon Wright yn arddangos caws Cymreig traddodiadol.

Un caws a gafodd sylw oedd Gorwydd Caerffili, sy’n cael ei aeddfedu ar y fferm am ddau fis ac iddo flas lemon ffres a hufennog i’r darn o’i amgylch a blas llaith a chŷn tu mewn.

Roedd caws meddal Perl Wen a enillodd ‘Caws Newydd Gorau’ yng ngwobr caws y byd yn 2000, hefyd ar y fwydlen yn ogystal â Golden Cenarth a sawl math arall o gaws.

Roedd Carwyn Adams a enillodd wobr pencampwr goruchel yng ngwobr caws Prydain 2010 yn bresennol hefyd gan roi cyngor ac awgrymiadau.