Mae arweinydd UKIP yn y Cynulliad, Neil Hamilton wedi canmol Cymreictod cwmni tafarndai JD Wetherspoon yn dilyn lansiad bwydlen newydd sy’n hybu cynnyrch o Gymru.

Fe fydd selsig Cymreig a phei cig eidion a chwrw ymhlith y prydau fydd ar gael ar y fwydlen newydd mewn 50 o dafarnai’r cwmni.

Ymhlith y diodydd fydd ar gael mae chwisgi Penderyn, seidr Gwynt y Ddraig o Bontypridd a chyrfau Boss Brewing o Abertawe.

‘Dyletswydd genedlaethol’

Mewn datganiad, dywedodd Neil Hamilton ei fod yn edrych ymlaen at ymweld â thafarn Mount Stuart ym Mae Caerdydd.

“Fel un sy’n ymweld yn rheolaidd â thafarn Mount Stuart Wetherspoon ym Mae Caerdydd, byddaf yn mwynhau bwyta prydau Cymreig arbennig ar ôl diwrnod caled yn gweithio yn y Cynulliad.

“Nawr, gallaf fwyta ac yfed, nid yn unig am bleser, ond fel dyletswydd genedlaethol hefyd.”