Caeodd tafarn Y Fuwch Goch yng Nghaerdydd ei drysau am y tro olaf ddydd Sadwrn.

Cadarnhaodd perchnogion y dafarn mai’r nos Sadwrn fyddai’r diwrnod olaf, oherwydd bod y les wedi dod i ben.

Fe agorwyd drysau’r dafarn newydd gyferbyn a Chlwb Ifor Bach, ar stryd droellog Womanby, yn 2009.

Ond mae’r enw yn dyddio o’r ddeunawfed ganrif pan oedd Stryd Womanby yn cael ei galw yn Lôn y Fuwch Goch.

Dywedodd Hefin Jones o Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig wrth Golwg360 fod cau’r Fuwch Goch yn “sicr yn golled ar fwy nac un lefel”.

“Roedd yn lleoliad hwylus ar gyfer gweld grwpiau newydd a phori drwy’r ffansins. Roedd llawer o Gymry’n picio fewn ar nos Sadwrn fel mater o arfer i ganol y lluniau, y cyfyrs finyl o albymau anghofiadwy a phrin y 70au a’r 80au oedd mewn rhesi ar y waliau a phosteri hanesyddol o hen gigs Clwb Ifor Bach,” meddai wrth Golwg360.

“Doedd dim llawer yn gwybod fod y Manic Street Preachers ifanc wedi gaddo cefnogi Tynal Tywyll yng Nghlwb Ifor er enghraifft.

“Os yw bywyd y Fuwch wir ar ben yna mae Caerdydd yn le tlotach,” meddai.

‘Siom’

“Yn sicr, mi oedd yn fan poblogaidd gyda myfyrwyr a bydd yn ergyd i’r criw oedd yn mynd yno,” meddai Owain Lewis, Cadeirydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Caerdydd wrth Golwg360.

“Ond, mae modd gofyn am beint yn Gymraeg mewn lot o lefydd yng Nghaerdydd bellach.

“Maen nhw wedi trio gwneud rhywbeth ohono – ond dydi o heb weithio,” meddai cyn dweud ei fod yn “gobeithio y bydden nhw’n parhau i drefnu gigs Cymraeg yn y ddinas”.

“Mae’n siom ei bod hi wedi mynd. Ond, mae Clwb Ifor Bach yn mynd o nerth i nerth o hyd.

“Un sefydliad ymhlith nifer yw’r Fuwch Goch yng Nghaerdydd.”

‘Heb gydio’

“Dydw i ddim yn weld o’n ergyd a dweud y gwir. Doedd o ‘rioed yn le wnaeth gydio yn iawn. Roedd gen ti grwpiau penodol oedd yn mynd yno,” meddai Dafydd Jones, myfyriwr Cyfryngau ym Mhrifysgol Caerdydd sy’n helpu trefnu gigs Cymraeg yn nhafarn Gwdihŵ.

“Mae ’na lwyth o gigs eraill yn mynd ymlaen yng Nghaerdydd mewn llefydd fel Duke Of Clarence, Clwb Ifor a Gwdihŵ a llefydd fel Buffalo.

“Mae gen ti lot o fandiau Cymraeg sy’n byw yng Nghaerdydd ac yn chwarae yn yr un nosweithiau a bandiau sy’n canu yn Saesneg.

“Dydw i ddim yn meddwl y bydd yn ergyd enfawr. Wnaeth o ddim gweithio yn fy llygaid i.

“Dyw gigs sydd ddim yn denu tyrfa ddim am hybu dim byd – er gwaethaf yr holl ymdrech.”