Pobol Arfon a gogledd Ceredigion yn clywed am brosiect newydd arloesol

Yr arbennig Alys Williams ac Osian Huw o Blodau Papur yn diddanu’r cyfranogwyr yn lansiad Bro360 yn Galeri, Caernarfon.

Tîm Bro360 yn clywed syniadau trigolion gogledd Ceredigion yn ystod y daith o gwmpas caffis yr ardal.

Dylan Jones, Megan Lewis, Gruff Lewis ac Emlyn Jones yn sgwrsio am y materion a’r straeon lleol sy’n bwysig iddyn nhw yng ngogledd Ceredigion, gyda Dylan Iorwerth yn llywio’r drafodaeth.

Richard Huws, Mererid Mair, Meleri Davies ac Emyr ‘Himyrs’ Roberts yn sgwrsio am y materion a’r straeon lleol sy’n bwysig iddyn nhw yn ardal Arfon.

Fe gafodd ymwelwyr â chaffis yn ardaloedd Arfon a gogledd Ceredigion y cyfle cynta’ i glywed am brosiect newydd arloesol o’r enw Bro360, wrth i’r tîm y tu ôl i’r cynllun fynd allan i’r cymunedau i’w lansio.

Cynllun wedi’i wreiddio yn y cymdogaethau yw Bro360. Bydd yn cydweithio gyda thrigolion a mudiadau mewn dwy ardal yng Nghymru (gogledd Ceredigion ac ardal Arfon) i’w hysgogi a’u galluogi i greu a chynnal rhwydwaith o wefannau bro Cymraeg.

I lansio’r prosiect yn lleol, ganol Ionawr aeth Bro360 ar dramp i gaffis amrywiol i gasglu straeon lleol a dechrau datblygu gwefannau bro i gwrdd â gofynion y gwahanol gymunedau – y nod yw ail-greu’r math o frwdfrydedd a arweiniodd at sefydlu papurau bro, ac mae’r papurau bro lleol i gyd yn cefnogi’r fenter. Llwyddodd y cynllun i ennyn brwdfrydedd gan fusnesau lleol, cynrychiolwyr mudiadau a chlybiau lleol, hoelion wyth y papurau bro a chyfranogwyr newydd.

Penllanw’r gweithgarwch yn y ddau leoliad oedd Sgwrs, Straeon a Chân – y naill yng Nghanolfan y Morlan, Aberystwyth a’r llall yn Galeri, Caernarfon. Cafwyd cwmni pedwar o bobl sy’n mentro ac yn cynnal eu cymdogaethau yn lleol, a chafwyd adloniant gan yr artist gwerin Cynefin ac Alys Williams ac Osian Huw o Blodau Papur.

POBL FYDD CALON Y GWEFANNAU BRO

Nod Bro360 yw cydweithio gyda phobl ar lawr gwlad i roi’r hyder, y sgiliau a’r anogaeth iddynt fynd ati i greu a rhannu’r straeon sy’n bwysig iddyn nhw, a hynny yn y Gymraeg. Boed yn fideos, blogiau, erthyglau, calendrau digwyddiadau neu lawer mwy – gyda’r dechnoleg ddiweddara’ yn ein pocedi, mae’r potensial aml-gyfrwng yn enfawr.

“Ry’n ni’n chwilio am bobl frwdfrydig o bob oed – o Ddyffryn Nantlle i Ddyffryn Ogwen, o Gwm Rheidol i Gwm Wyre – i ddod gyda ni ar y daith a rhoi eu bro ar y we,” medd Lowri Jones, Cydlynydd y prosiect. “Mae cymaint yn digwydd yng nghefn gwlad – cymaint o straeon yn codi a chymaint i’w ddathlu – mae’n bryd cael lle ar y we i bob bro allu rhannu eu straeon a’r hyn sy’n bwysig iddyn nhw, er mwyn cryfhau cymdeithas. A’r peth gorau am y prosiect hwn yw mai pobl fydd yn ei lywio; ry’n ni yma i’ch helpu i ddarganfod beth sydd ei angen yn lleol, a’ch helpu i wireddu’r potensial.”

Byddwch yn siŵr o weld Daniel Johnson – Ysgogydd Bro360 yng ngogledd Ceredigion – dros y misoedd nesa’, wrth iddo fynd i gwrdd â nifer o fudiadau a thrigolion lleol i ddarganfod pa fath o wefannau y mae eu hangen yn y gwahanol fröydd, ac wrth i ni ddarganfod y potensial gyda’n gilydd.

Tîm Bro360 yn clywed syniadau trigolion gogledd Ceredigion yn ystod y daith o gwmpas caffis yr ardal.
Dylan Jones, Megan Lewis, Gruff Lewis ac Emlyn Jones yn sgwrsio am y materion a’r straeon lleol sy’n bwysig iddyn nhw yng ngogledd Ceredigion, gyda Dylan Iorwerth yn llywio’r drafodaeth.
Richard Huws, Mererid Mair, Meleri Davies ac Emyr ‘Himyrs’ Roberts yn sgwrsio am y materion a’r straeon lleol sy’n bwysig iddyn nhw yn ardal Arfon.