Rhydd i bawb ei farn. Dyma’r 10 blog gorau yn y Gymraeg sy’n cael eu hysgrifennu yn ddi-dâl…

Rhif 10: Clecs Cilgwri
Blog tiwtor i griw o ddysgwyr sy’n byw yng Nghilgwri yn Lloegr. Gwella ei Gymraeg yw’r rheswm swyddogol am y blog ond mae’n cynnig ei farn ar ystod eang o bynciau, a hynny bron bob dydd, ers 2004.

Rhif 9: Blog Answyddogol
Blog y cynghorydd a chyn olygydd Barn Dyfrig Jones, sy’n rhoi sedd flaen i’r frwydr waedlyd rhwng Llais Gwynedd a Phlaid Cymru. O bryd i’w gilydd bydd hefyd yn trafod pynciau ychydig yn fwy ysgafn fel ffilmiau a chartwnau. Heb ddiweddaru ers deufis ac felly yn colli tir – ond mae’n swyddogol yn un o’r blogiau Cymraeg gorau.

Rhif 8: Hen Rech Flin
‘Myfyrdodau Alwyn ap Huw am Gymru a’r byd tu hwnt’. Dyn ‘blin’ sy’n gryf ei farn ar wleidyddiaeth Cymru ac sydd yn fodlon torri ei gwys ei hun a beirniadu Plaid Cymru a’i dilynwyr. Er hynny, yn anffodus i’r blog hwn, mae’n cofnodi ei farn yn fwy cyson ac yn fwy trwyadl yn Saesneg dan yr enw Miserable Old Fart.

Rhif 7: Blog Menai
Un arall sydd, fel yr Hen Rech Flin a’r blog Answyddogol, yn ei chanol hi yng Ngwynedd. Mae rhywun yn cael y teimlad ei fod yn pryfocio er mwyn ennyn ymateb ar brydiau, ond mae’n flog diddorol serch hynny gyda nifer o sylwadau craff.

Rhif 6: Blog yr Hogyn o Rachub
Blog sydd wedi bod yn mynd ar ryw ffurf neu’i gilydd ers blynyddoedd maith, yn dilyn hynt a helynt cyn-fyfyriwr sy’n treulio’i amser yn Rachub a Chaerdydd. Mae wedi blogio ei ffordd o’r ysgol uwchradd, drwy’r coleg a thu hwnt. Dyfalbarhad a barn digon diddorol ar newyddion y dydd.

Rhif 5: Arth sy’n Dawnsio
Blog yr Americanwr Chris Cope, sy’n gryf ei farn a ddim yn ofn pechu drwy ladd ar rhai agweddau o Gymru, y Cymry a’r Gymraeg. Mae braidd yn negyddol ac ar brydiau yn codi’r cwestiwn pam ei fod o wedi penderfynu symud i Gymru a dysgu’r iaith os ydi pethau mor wael â hynny. Ond mae’n ysgrifennu mewn modd doniol a darllenadwy, ac yn boenus o onest ar brydiau.

Rhif 4: Morfablog
Y blog ddechreuodd y cwbl, yn ôl yn 2001. Mae wedi bod yn dawelach yn ddiweddar, wrth i’r blogiwr Nic Dafis, godfather y we Gymraeg a chrewr fforwm trafod Maes-e, rannu ei amser gyda diddordebau eraill. Er bod y perchennog yn cyhoeddi o dro i dro ei fod wedi hen laru ar y busnes blogio yma ac yn cau’r siop am gyfnod, mae’n parhau i gynnig cofnod eclectig o bob math o ryfeddodau rhyngwladol.

Rhif 3: Blog Dogfael
Blog gan y ‘derwydd a chynghorydd’ o Aberystwyth. Mae ganddo ddigon i’w ddweud am deithio, cadw trefn ar ganol ei dref, y celfyddydau ac amrywiaeth o bynciau eraill – ac yn gwneud y cyfan mewn modd darllenadwy a diddorol. Mae’r negeseuon braidd yn hir ond mae’n torri’r tecst yn ddarnau manach drwy ddefnydd lluniau trawiadol a diddorol.

Rhif 2: Blog Rhys Llwyd
Nid pawb sydd â diddordeb yn synfyfyrio dyddiol Rhys Llwyd am stad Cristnogaeth yng Nghymru heddiw, ond does dim dadlau nad yw cysondeb ac ansawdd y blog yma yn ei roi tua brig y rhestr. Mae ganddo ddigon i’w ddweud ar ystod helaeth o bynciau, ac yn gryf ei farn. Yn ddiweddar mae hefyd wedi ychwanegu podlediadau a chyfweliadau fideo. Os nad ydych chi’n cytuno gyda’r efengylwr ifanc, mae’r ddolen ‘sylwadau’ yno am reswm.

Rhif 1: Metastwnsh
Blog wedi ei redeg ar y cyd gan chwech o gyfranwyr, sy’n trafod technoleg a’r we drwy gyfrwng y Gymraeg mewn ffordd drwyadl a diddorol. Mae hefyd yn rhoi sylw i feddalwedd cyfrwng Gymraeg a datblygiadau technolegol yng Nghymru, sydd ddim yn cael lot o sylw fel arall. Mae hefyd yn cynnig gwasanaeth ar Twitter.

Rhai i’w gwylio…

Mae yna ambell newyddian i’r byd blogio amatur sydd heb fod ar eu traed yn ddigon hir i’w cynnwys yn y rhestr: o’r rheini, blogiau Blog Guto Dafydd a Blog Dylan Llyr sy’n denu’r sylw.