Llyr yn cael Medal at Goron y llynedd – Stori Fideo

Diweddarwyd  


Llyr Titus ydi enillydd y Fedal Ddrama yn Eisteddfod yr Urdd Eryri 2012.

Fo oedd enillydd y Goron ym mhrifwyl ieuenctid Abertawe y llynedd, pan oedd yn fyfyriwr yng Ngholeg Meirion-Dwyfor, Pwllheli. Erbyn hyn, mae’n fyfyriwr 19 oed yn astudio’r Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor.

“Fy niddordebau ydi darllen, ysgrifennu a chymdeithasu,” meddai Llyr. “O’n i’n cael pleser mawr o action yn yr ysgol gynradd, ac mi fydda’ i’n mwynhau action yn achlysurol hyd heddiw, a dw i wedi cael cyfle i berfformio mewn tair sioe gerdd.

“Fy uchelgais ydi gwneud bywoliaeth o ysgrifennu.”

Yn gydradd ail am y Fedal, sy’n rhoddedig gan deulu’r diweddar ddramodydd, Wil Sam, y mae Gwilym Dwyfor Parry (wyr i Wil Sam)sy’n aelod o Aelwyd y Waunddyfal, Caerdydd a Gareth Evans-Jones, Aelwyd JMJ, Bangor; ac yn drydydd y mae Gwenno Elin Griffith o Aelwyd Gwrtheyrn,  Llyn.

Eisteddfodau

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.

Rheolau Cyfrannu | Nodi Camddefnydd

Rheolau Cyfrannu

Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.

Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.

Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360 yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.

Iawn

Nodi Camddefnydd

Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.

Iawn

Straeon poblogaidd