BLOG: “Rhowch i mi’r hen ffordd Abertawe-aidd o chwarae”

Diweddarwyd am  
Carlos Carvalhal

Carlos Carvalhal

Llun: golwg360 / Alun Rhys Chivers

Dyn o Bortiwgal yw rheolwr newydd tîm pêl-droed Abertawe, ar ôl i Paul Clement gael ei ddiswyddo cyn y Nadolig. Mae’r Elyrch ar waelod Uwch Gynghrair Lloegr. Gohebydd golwg360, Alun Rhys Chivers sy’n gofyn ai Carlos Carvalhal yw’r dyn all achub yr Elyrch rhag cwympo i’r Bencampwriaeth…

Mae peth eironi yn y ffaith fod gan Garry Monk, cyn-reolwr Clwb Pêl-droed Abertawe, ran i’w chwarae yn niswyddiad y dyn sydd newydd ei benodi’n rheolwr newydd yr Elyrch. Gêm rhwng Middlesbrough, clwb diweddara’ Monk, a Sheffield Wednesday, clwb Carvalhal ar y pryd, arweiniodd at y ddau yn colli eu swyddi.

Roedd enw Monk yn cael ei gysylltu â’r swydd am gyfnod, ond cyn-reolwr Sheffield Wednesday gafodd ei benodi yn y pen draw. Ond mae hynny’n codi cwestiynau am yr hyn ddigwyddodd yn y broses o ddarganfod rheolwr newydd rhwng Gŵyl San Steffan a dydd Iau (Rhagfyr 28).

Tan hynny, roedd nifer o enwau’n cael eu crybwyll o hyd – gan gynnwys dau o fawrion yr Iseldiroedd, Louis van Gaal (Man U gynt) a Frank de Boer. Ond daeth cadarnhad mai Carvalhal fyddai’r rheolwr newydd. Ond roedd e’n dal yn ei swydd pan gafodd Clement ei ddiswyddo – sy’n awgrymu nad oedd e dan ystyriaeth gan yr Elyrch ar y pryd.

4 o’r gloch fore Iau, roedd Carvalhal ar ei ffordd i lawr y draffordd o Sheffield at safle hyfforddi’r Elyrch yn Fairwood. Erbyn 9.30 roedd e’n arwain sesiwn hyfforddi – ac fe gafodd ei benodiad ei gyhoeddi’n ffurfiol yn ddiweddarach cyn iddo fynd gerbron y wasg y prynhawn hwnnw.

Llinach

Yn ystod blynyddoedd cynnar yr Elyrch yn Uwch Gynghrair Lloegr, roedd ganddyn nhw draddodiad o fod yn graff wrth benodi rheolwr. Ond fe ddaeth tro ar fyd wrth benodi Francesco Guidolin fis Ionawr y llynedd ac yna’r Americanwr Bob Bradley, a barodd ddim ond 85 o ddiwrnodau. Ychydig yn llai na blwyddyn barodd Paul Clement.

Mae penodiad Carvalhal wedi ennyn ymateb digon cymysg hefyd. Ond mae’n bosib – o’r diwedd – fod y cadeirydd Huw Jenkins a’r perchnogion Americanaidd Steve Kaplan a Jason Levien wedi canfod y dyn cywir o’r diwedd – dyna farn y rhan fwyaf o gefnogwyr Sheffield Wednesday, beth bynnag. Wedi’r cyfan, fe ddylen nhw wybod o brofiad, ar ôl iddo arwain y clwb i gemau ail gyfle’r Bencampwriaeth ddau dymor yn olynol.

Fe fydd y beirniaid llymaf yn dadlau, efallai, fod gan yr Elyrch un llygad ar y Bencampwriaeth eisoes wrth ei benodi. Wedi’r cyfan, maen nhw bum pwynt i ffwrdd o’r safleoedd diogel. Roedd y cefnogwyr yr un mor feirniadol pan gafodd Clement ei benodi dan amgylchiadau tebyg y llynedd – ond fe lwyddodd hwnnw i’w hachub am gyfnod.

Gwahaniaethau sylfaenol

Ond mae gwahaniaethau sylfaenol rhwng Clement a Carvalhal yn eu gyrfaoedd. Tra bod Clement yn is-hyfforddwr llwyddiannus sydd wedi gweithio gyda rhai o glybiau mwya’ Ewrop, mae Carvalhal wedi codi o’r gwaelodion ym Mhortiwgal tuag at glybiau digon di-nod mewn sawl gwlad – Besiktas a Sporting Lisbon yn eu plith.

Mae taith Carvalhal trwy gynghreiriau Portiwgal yn ein hatgoffa, efallai, o daith yr Elyrch o’r Drydedd Adran i uchelfannau’r Uwch Gynghrair a chyn hynny o’r Bedwaredd Adran i’r Adran Gyntaf o dan John Toshack ddechrau’r 80au. Ac mae eironi yn hynny o beth hefyd, a Carvalhal yn edmygu Toshack yn fawr iawn, meddai. Awgrymodd Carvalhal, hyd yn oed, mai ei “dynged” fyth ers i’w glwb Braga herio’r Elyrch yng Nghwpan Enillwyr Cwpan Ewrop yn 1982 oedd rheoli’r tîm.

Ecsentrig…

Mae sylwadau o’r fath yn atgyfnerthu delwedd Carvalhal fel dyn digon ecsentrig. Honnodd yn ystod ei gynhadledd gyntaf gerbron y wasg iddo fod wedi cysgu ar lawr safleoedd hyfforddi ei dimau blaenorol, ac fe wnaeth e grybwyll ei gyfnod yn rheolwr ar Besiktas pan oedd dau o brif swyddogion y clwb yn y carchar. Mae ganddo “alergedd” i arian, meddai, ac felly mae yma awgrym cryf mai Jenkins a’r Americaniaid fydd yn bennaf gyfrifol am drosglwyddiadau fis Ionawr. Ond Carvalhal yntau fydd yn cael y gair olaf am y chwaraewyr, meddai.

Roedd yn mynnu ddydd Iau na fyddai’r un o’r chwaraewyr yn gadael yn ystod y ffenest drosglwyddo, er bod awgrym cryf y gallai’r amddiffynnwr canol Alfie Mawson droi at West Ham. Fe allai gosodiadau mawr o’r fath weithio yn ei erbyn yn y pen draw. Ond maen nhw hefyd yn profi ei fod yn eofn ac yn barod i ddweud ei ddweud a chodi ei lais pe bai angen. Mae ganddo garisma, does dim amheuaeth, ac fe brofodd hynny wrth gyflwyno’i hun i bob newyddiadurwr yn ei dro yr ystafell gynadledda ddydd Iau. Ond sylwedd fydd ei angen ar yr Elyrch i aros yn yr Uwch Gynghrair.

Bydd y cefnogwyr hefyd am weld y sylwedd hwnnw’n dwyn ffrwyth. Byddan nhw’n ceisio sicrwydd ei fod e’n gwybod pwy yw ei chwaraewyr gorau (doedd Clement ddim i’w weld yn gwybod yr ateb ar adegau), y gall e danio’r ymosodwyr i sgorio, a bod ganddo fe enwau ar ei restr siopa ym mis Ionawr.

Dull traddodiadol o chwarae

Yn bennaf oll, fe fydd y cefnogwyr am weld yr hen ffordd Abertawe-aidd o chwarae – hynny yw, pêl-droed ddeniadol, gyfandirol bron iawn. Pe bai’n llwyddo i wneud hynny – ac mae’n dipyn o her – yna fe allai ddarbwyllo’r cefnogwyr mai fe yw’r dyn cywir i lywio’r tîm. Ond does dim amheuaeth fod yr her yn un anferth.

40 o bwyntiau yw’r nod fel arfer i oroesi. Mae angen naw buddugoliaeth arall ar yr Elyrch i gyrraedd y nod. Ond maen nhw’n gorfod wynebu Spurs, Lerpwl, Arsenal, Man U, Man City a Chelsea dros y misoedd nesaf. Felly mae’n debygol y bydd angen sicrhau’r rhan fwyaf o’u pwyntiau drwy guro Watford, Newcastle, Caerlŷr, Burnley, Brighton, West Ham, Huddersfield, Southampton, West Brom, Everton a Bournemouth.

Fe allai ail hanner y tymor deimlo fel oes i reolwr newydd Abertawe. Fe fydd angen iddo gyfiawnhau ei fod yn deilwng o’r enw ‘Carvalhal’ hefyd – y gair yn yr iaith Bortiwgaleg am ‘dderwen’, coeden gref sy’n gallu addasu i’w chynefin. Mae’r alarch yn aderyn gosgeiddig sydd o hyd yn chwilio am bartner tymor hir. Ac fe fydd Carvalhal yn gobeithio am berthynas dymor hir ag Abertawe os credwch chi’r rhethreg ramantaidd. Gyda’i gilydd, fe allai’r holl nodweddion gyfuno i greu seiliau cadarn er mwyn i Abertawe ddianc rhag y gwymp ar ddiwedd y tymor. Gobeithio!

Erthyglau perthnasol

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.

Rheolau Cyfrannu | Nodi Camddefnydd

Rheolau Cyfrannu

Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.

Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.

Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360 yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.

Iawn

Nodi Camddefnydd

Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.

Iawn

Straeon poblogaidd