Dadleuon ‘creulon ac anghyfrifol’ Aled Gwyn Job

Diweddarwyd  
Adeilad Senedd, Bae Caerdydd

Y Cynulliad

Llun: golwg360

Mae Dr Nia Edwards-Behi yn gyd-gyfarwyddwr Gŵyl Arswyd Abertoir, technegydd sinema, colofnydd ac ysgolhaig ffilm. 

Mae hi wedi cael llond bol ar ddadleuon diweddar Aled Job, Germaine Greer a Liam Neeson…

Suddodd fy nghalon wrth ddarllen blog Aled Gwyn Job am ‘Ffeministiaith’ yn sgîl mudiad #MeToo. Dyma ddadleuon blinedig, yn cyhuddo ffeministiaid, merched a’u cefnogwyr o ‘fynd yn rhy bell’ a ‘dinistrio bywydau dynion’.

Rydyn ni wedi gweld ymatebion tebyg yn ddiweddar gan ferched a dynion, fel Catherine Deneuve (https://www.theguardian.com/film/2018/jan/09/catherine-deneuve-men-should-be-free-hit-on-women-harvey-weinstein-scandal), Germaine Greer (https://www.theguardian.com/books/2018/jan/23/germaine-greer-criticises-whingeing-metoo-movement) a Liam Neeson (https://www.theguardian.com/film/2018/jan/13/liam-neeson-says-harassment-allegations-have-become-a-witch-hunt), a digon o bobol eraill. Mae’r rhain yn ddadleuon creulon ac anghyfrifol sy’n colli’r elfennau pwysicaf sy’n codi o fudiad fel #MeToo.

Y peth gwaethaf am y blog gan Job yw’r cyfuniad o ddadleuon am #MeToo a ffeministiaeth gyda dadl hollol wahanol am sefyllfa wleidyddol bresennol ym Mae Caerdydd, yn enwedig ynglŷn â gwaharddiad Neil McEvoy o grŵp cynulliad Plaid Cymru.

Os ydw i’n deall ei ddadl yn iawn, mae Job yn barnu ffeministiaeth am droi i fod yn ffordd o fyw sy’n golygu ein bod ni’n edrych allan am ferched eraill.

Pam mae hyn yn rhywbeth drwg? Oes angen y dryswch o fwydro am ‘iaith’ ffeministiaeth fel ein bod ni’n rhan o ryw glwb cudd?

Mae iaith sy’n tyfu allan o feddylfryd ideolegol fel ffeministiaeth yn gyfoethog ac yn ganolog i fywyd a hunaniaeth rhywun. Mae cysyniadau fel intersectionality yn fy ysbrydoli i’n ddyddiol.

Wrth gwrs bod “[t]eyrngarwch i’w cyd-siaradwyr” yn bodoli rhwng ffeministiaid, ond anghytunaf yn llwyr fod hyn “yn cael ei osod uwchlaw pob ystyriaeth arall” – i mi, mae ffeministiaeth wedi galluogi i mi fod yn fwy sensitif ac ymwybodol o ‘ystyriaethau’ eraill.

Y cyffyrddiad di-wahoddiad

Mae’n debyg bod Job yn ystyried ei hun yn ryw arweinydd moesol, gan fod ganddo’r hyder i ysgrifennu bod pethau fel “rhoi llaw ar ben-glin, anfon negeseuon testun awgrymog, ceisio cusanau mewn tacsis” ddim yn bethau teilwng i gwyno amdanynt.

Ond eto dyma bethau sydd yn gallu bod yn gwbl anghyfforddus a hyd yn oed trawmatig i’r rheini sy’n derbyn y sylw neu’r cyffyrddiad di-wahoddiad.

Mae’r ffaith ei fod yn credu bod “fflyrtian cyffredinol” yn rhywbeth sy’n cael ei dargedu gan ferched sy’n siarad allan yn sgil #MeToo yn chwerthinllyd – poenaf yn arw wrth feddwl pa fath o ‘fflyrtian’ yw hynny.

Wn i ddim o gwbwl pam bod y syniad o beidio gwneud unrhyw beth i rywun arall heb ganiatâd mor anodd ei ddeall.

Mae ei gymhariaeth, hefyd, rhwng ‘trosedd’ a ‘chamymddwyn’ yn dangos mai mater cyfreithlon yn unig yw hwn i Job a’r niferoedd sy’n credu’n debyg iddo.

Ond nid mater cyfreithlon yn unig yw aflonyddu neu gam-ymddwyn rhywiol. Mae’n fater o ddiwylliant, a dyna le mae angen newid.

Yn y dyddiau diwethaf mae’r stori wedi ymddangos am gam-ymddwyn ym mharti blynyddol y President’s Club (<http://www.independent.co.uk/news/uk/home-news/presidents-club-dorchester-hotel-men-only-charity-groping-sexual-harassment-what-happened-london-a8175256.html>) – ond dyma barti sy’n digwydd pob blwyddyn.

Mae diwylliant yn bodoli sy’n galluogi i’r ffasiwn barti gael ei gynnal yn y lle cyntaf, a dyma’n union ble mae’r ddadl bod pethau fel ‘rhoi llaw ar ben-glin’ ddim yn bethau gwerth cwyno amdanyn nhw yn methu’n llwyr.

Dyma’r union bethau ‘bach’ sy’n cyfrannu at ddiwylliant sy’n galluogi i bethau lot gwaeth ddigwydd o hyd.

Trump, Polanski, R Kelly

Mae Job yn sôn am ddinistrio gyrfaoedd, ond hyd y gwn i mae Donald Trump (http://www.independent.co.uk/news/world/americas/us-politics/trump-sexual-assault-allegations-claims-women-how-many-groping-accused-us-president-a8091581.html), Roman Polanski (https://www.huffingtonpost.com/entry/roman-polanski-protests_us_59f89dcee4b046017faf05cf)  R Kelly (https://www.rollingstone.com/culture/news/r-kelly-scandals-from-aaliyah-to-alleged-cults-w492844) a mwy yn gweithio o hyd yn dilyn cyhuddiadau difrifol iawn. Dydw i ddim yn dilyn unrhyw ddadl o’r math hyn pan mae’r ffasiwn bobol yn parhau i weithio. Mae nifer o ddynion ifanc sydd wedi eu dyfarnu’n euog gan y gyfraith o drais, yn cael bron i ddim o ddedfryd er mwyn osgoi peryglu’u dyfodol (https://edition.cnn.com/2016/09/02/us/brock-turner-college-athletes-sentence/index.html). Mae’n anodd iawn cefnogi unrhyw ddadl bod cyhuddiad o drais neu gam-ymddwyn rhywiol o reidrwydd yn gwneud cymaint o ddrwg i fywyd yr euog ag y mae i’r dioddefwr. Os nad yw’r gyfraith yn gwneud digon i amddiffyn merched mewn achosion fel hyn, yna mae’r gyfraith yn methu.

Paid â barnu ffeministiaeth

Galla i ddim honni fy mod i’n deall digon am sefyllfa Bae Caerdydd na Phlaid Cymru ynglŷn â’r nifer o honiadau yn erbyn Neil McEvoy i fedru rhoi sylw ar hynny. Ond mae’n bur anghyfrifol barnu ffeministiaeth am ei sefyllfa o, ac yn sicr gwaeth byth – ac yn gwbl ddi-chwaeth – ei beio am farwolaeth drist Carl Sargeant. Heb os, mae methiannau mawr wedi digwydd yn y ddau achos hyn, ond y systemau a’r prosesau sydd angen eu barnu, nid ffeministiaeth. Yn yr un modd, mae yna ddigon o broblemau gan ffeministiaeth boblogaidd – fel y duedd i erlid menywod traws, fel un enghraifft yn unig – a hefyd digon o bethau i’w barnu am y newyddiaduriaeth a’r adrodd am #MeToo a phopeth ers hynny (https://jezebel.com/babe-what-are-you-doing-1822114753?rev=1516127284762). Ond nid oes unrhyw sail i feio ffeministiaeth – na, thrwy gysylltiad, merched – am gam-ymddwyn a thrais dynion.

Mae Job yn llwyddo  i danseilio neges ei hun wrth gloi ei flog, gan awgrymu bod arddull ‘lliwgar’ McEvoy yn rhywbeth i’w ganmol. Yn gynharach yn y blog mae Job yn honni bod yna “duedd […] i osod emosiwn ymhell uwchlaw rheswm” wrth feirniadu ffeministiaeth. Onid emosiwn ac angerdd sy’n gwneud McEvoy yn lliwgar ac yn boblogaidd? Ar ddiwedd bob dim mae Job yn ddigon eofn i ysgrifennu y bydd y ‘gwirionedd’ yn dod i’r fei, er ‘Ffeministiaith’. Ond mae’r merched sy’n ddigon dewr i fentro siarad am eu profiadau yn sgîl rhywbeth fel #MeToo yn brwydro dros yr hawl i gael dweud eu gwirionedd – a bod y gwirionedd hwnnw’n cael ei chlywed. Felly, na, nid er ffeministiaeth bydd gwirionedd yn dod i’r fei, ond o’i herwydd.

Erthyglau perthnasol

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.

Rheolau Cyfrannu | Nodi Camddefnydd

Rheolau Cyfrannu

Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.

Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.

Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360 yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.

Iawn

Nodi Camddefnydd

Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.

Iawn

Straeon poblogaidd