BLOG: Cenedlaetholdeb Seisnig ar ei ynfytaf

 

Rhan o glawr pasport presennol y Deyrnas Unedig

Huw Prys Jones yn trafod y pwysigrwydd rhyfedd mae rhai Saeson yn ei roi ar rywbeth mor bitw â lliw eu pasport …

Anodd meddwl am fath mwy truenus o genedlaetholdeb na’r cyffro y mae rhai Aelodau Seneddol Torïaidd yn ei deimlo wrth glywed y bydd eu pasports yn newid yn sgil Brexit.

Cyhoeddodd y llywodraeth ddoe y bydd yn newid lliwiau cloriau pasport o’r coch presennol i las er mwyn amlygu arwahanrwydd Prydain.

I’r mwyafrif llethol o bobl, un o hanfodion ymarferol teithio i wledydd tramor ydi pasport, a dim byd arall.

Darllen rhagor »

Ddylai ‘neb’ ddefnyddio ‘hwb’

Diweddarwyd am  
Llun o gofnodion hwb a neb yn y Geiriadur Mawr

Llun Golwg360 o’r Geiriadur Mawr

Blog bach amser cinio gan Dylan Iorwerth

Mae pawb ohonon ni’n gwneud camgymeriadau iaith. Jyst nad ydi pawb yn cydnabod hynny.

Mae’r plismyn iaith hefyd yn gallu gwneud niwed mawr i hyder pobol trwy ymosod ar fân frychau neu fathau newydd o ddweud sy’n ddiarth iddyn nhw.

Ond weithiau, mae’n rhaid tynnu llinell – o leia’ dair a dweud y gwir. Un ydi llinell rhag ffurfiau sy’n troi’r Gymraeg yn fersiwn o’r Saesneg, efo geiriau gwahanol.

Darllen rhagor »

Cywilydd Cymru. Pa genedl arall?

 
Rhyd Chwima ar afon Hafren

Rhyd Chiwma

LLun : John Davies CCA2.0

Blog bach cyn cinio gan Dylan Iorwerth

Lle braf ydi Trefaldwyn yn yr hydref. Mi fuodd Llywelyn ap Gruffydd – Llywelyn Ein Llyw Olaf – yno union 750 mlynedd yn ôl ac mae’n siŵr ei fod yntau wedi meddwl yr un peth.

Wel, fuodd o ddim cweit yn y dre’ Normanaidd efo’r castell uchel, ond mi fuodd rhyw ddwy filltir oddi yno, ar lan afon Hafren, hyd yn oed yn ei dŵr hi.

Yno yr arwyddodd o gytundeb oedd, am y tro cynta’, yn golygu bod brenin Lloegr yn ei gydnabod o’n Dywysog Cymru ac yn cadarnhau y byddai holl arglwyddi eraill y wlad yn gorfod talu gwrogaeth iddo fo.

Darllen rhagor »

Dyw cwest ddim yn rheswm tros osgoi ymchwiliad

 
Adeilad Senedd, Bae Caerdydd

Y Cynulliad

Llun: golwg360

Blog gan Dylan Iorwerth

Dyw cwest ddim yn rheswm tros beidio â chael ymchwiliad i’r amgylchiadau a arweiniodd at farwolaeth Carl Sargeant.

Er fod Carwyn Jones wedi awgrymu y bydd rhaid aros i ymchwiliadau’r Crwner orffen, does dim angen hynny.

Er lles gwleidyddiaeth a bywyd cyhoeddus Cymru, heb sôn am deulu a chyfeillion Carl Sargeant, mi fyddai’n well cynnal ymchwiliad yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach.

Darllen rhagor »

Carl Sargeant – y cyfarfod cynta’

Diweddarwyd am  
Llun pen ac ysgwydd o Brif Weinidog Cymru

Carwyn Jones

Llun: Cynulliad Cenedlaethol Cymru CC 2.0

Blog gan Dylan Iorwerth

Dim ond un cyfarfod fydd yn fwy anodd i Carwyn Jones na’r un sydd gynno fo y prynhawn yma efo aelodau cynulliad y Blaid Lafur.

Hwnnw fydd y cyfarfod efo teulu Carl Sargeant, y cyn-weinidog a wnaeth amdano’i hun ar ôl cael y sac – neu ei orfodi i ymddiswyddo – o Lywodraeth Cymru.

Nhw sy’n cynrychioli elfen bersonol y stori drist yma, yr elfen sydd wedi gwrthdaro’n greulon efo’r byd gwleidyddol ac ofn pleidiau o’r farn gyhoeddus.

Darllen rhagor »

Trethi – y sgandal anferth

 
Y Frenhines mewn het

Y Frenhines

Llun: Skjeejix CCA 2.0

Blog bach ar ôl cinio gan Dylan Iorwerth

Efo’r sylw’n ddealladwy ar farwolaeth Carl Sargeant, mae yna beryg i ni anghofio am y stori fawr arall – y sgandal osgoi trethi.

Mae yna fawrion – o’r Frenhines i actorion comedi, o bencampwyr chwaraeon cyfoethog iawn i gwmnïau anferth rhyngwladol wedi cael eu dal yn osgoi talu trethi.

Ffordd arall o ddweud hynny ydi eu bod nhw wedi cael eu dal yn dwyn oddi arnon ni, yn tlodi ein gwasanaethau cyhoeddus ni ac yn gwrthod cymryd eu cyfrifoldeb teg.

Darllen rhagor »

Newyddion i sobreiddio pawb

Diweddarwyd am  
Siambr y Cynulliad

(Llun Cynulliad Cenedlaethol CCA2.0)

Llun: Cynulliad Cenedlaethol Cymru CC 2.0

Mwy o angen nag erioed am drefn deg, meddai Dylan Iorwerth

Waeth pa ffordd yr ystyriwch chi’r peth, mae’r newyddion am farwolaeth yr Aelod Cynulliad, Carl Sargeant, yn drasiedi. Trasiedi bersonol a gwleidyddol.

Mae’n ddychrynllyd o anodd ar ei deulu, ei ffrindiau a’i gydweithwyr agos.

Mi fydd hi’n anodd iawn hefyd ar y Prif Weinidog, Carwyn Jones, a’r gwleidyddion eraill oedd yn rhan o’r penderfyniad i’w ddiswyddo, ac ar y bobol a wnaeth honiadau yn ei erbyn.

Darllen rhagor »

ASau – does yna ddim esgus

Diweddarwyd am  
Portread swyddogol o'r cyn Ysgrifennydd Amddiffyn

Syr Michael Fallon

Llun: Chris McAndrew CC 3.0 Commons Wikimedia

Blog bach cyn cinio gan Dylan Iorwerth

Doedd hi’n ddim syndod bod rhai wedi dechrau cwyno bod helynt yr aflonyddu rhywiol yn mynd yn rhy bell. A doedd hi’n ddim syndod chwaith mai merched a ddechreuodd ddweud hynny.

Y neges an-annisgwyl ydi fod yna wahaniaeth mawr rhwng rhoi llaw ar ben-glin merch neu wneud sylw rhywiol, ar un llaw, a thrais rhywiol ‘go iawn’ ar y llall.

Mae yna wahaniaeth o ran difrifoldeb y gwahanol weithredoedd – ac mi ddylai hynny ddangos yn y math o gosb y dylai’r dynion ei chael – ond yn eu hanfod, yr un ydi’r gwraidd.

Darllen rhagor »

Dameg y gath ar goll

 
Cath wyllt

Cafodd Lillith, lyncs Borth, ei saethu’n farw

Llun: Heddlu Dyfed Powys

Blog bach cyn cinio gan Dylan Iorwerth

Mae yna rywbeth eironig fod yna helfa fawr i drio dal cath wyllt Ceredigion; eironig am fod rhai pobol eisiau gweld anifeiliaid o’r fath yn cael eu cyflwyno eto yng nghefn gwlad Cymru.

Yn ôl yr heddlu, mi allai’r lyncs ymosod ar anifeiliaid fferm neu anifeiliaid anwes ond, os na fydd rhywun yn ei bygwth, fydd hi ddim yn beryg i bobol.

Yr anifeiliaid eraill sy’n cael eu hystyried o dro i dro ydi’r afanc – sydd wedi ei gyflwyno’n arbrofol yn ne-orllewin Lloegr – a’r blaidd. Y ddadl ydi eu bod nhw’n anifeiliaid brodorol ac y gallen nhw helpu i adfer hen gydbwysedd byd natur.

Darllen rhagor »

Fel darllen am ormes Franco

Diweddarwyd am  
Baner annibyniaeth Catalwnia ar fariau haearn

Baner a bariau

Llun: golwg360

Blog bach cyn cinio gan Dylan Iorwerth

Mae gwylio’r hyn sy’n digwydd yng Nghatalwnia ar hyn o bryd, fel darllen y llyfrau hanes am gyfnod Franco yn rheoli Sbaen.

Mae’n wir y byddai tywallt gwaed wedi bod eisoes bryd hynny ac erlid mwy llym ond, yn eu hanfod, mae’r digwyddiadau ym Marcelona yn adlais cry’ o gyfnod yr unben Ffasgaidd.

Mae ymateb y gymuned ryngwladol hefyd yn debyg iawn i ymateb gwledydd fel Ffrainc a’r Deyrnas Unedig pan ddaeth y Generalissimo i rym, gan ddisodli llywodraeth gyfreithlon.

Darllen rhagor »

ASau, rhyw a dechrau newydd

Diweddarwyd am  
Siambr Ty'r Cyffredin

Llun: Senedd y Deyrnas Unedig CC 3.0

Blog bach cyn cinio gan Dylan Iorwerth

Yr helyntion diweddara’ tros gamfihafio rhywiol gan Aelodau Seneddol gwrywaidd ydi un o’r rhesymau gorau tros symud y Senedd o San Steffan.

Yn hytrach na gwario biliynau o bunnoedd ar adnewyddu hen adeilad anaddas, mi fyddai’n well gwario ychydig ar droi hwnnw’n amgueddfa ac atyniad twristaidd a chodi canolfan newydd, fodern yn rhywle arall.

Mae’r adeilad yn ychwanegu at wendidau system wleidyddol y Deyrnas Unedig, yn ystumio ymddygiad ac yn caethiwo democratiaeth. Ac mae’r sgandal tros agweddau ASau gwrywaidd at staff a gwirfoddolwyr benywaidd yn un enghraifft o hynny.

Darllen rhagor »

Arglwyddi – wedi cael llond bol

Diweddarwyd  


Llun alvesgaspar CCA3.0
Blog bach cyn cinio gan Dylan Iorwerth

Mae’r sgandal ddiweddara’ am gostau Tŷ’r Arglwyddi yn dangos bod angen newid y lle.

Ond mae hynny hefyd yn gyfle i greu newid mwy a chynnwys yr Ail Siambr mewn setliad newydd ar gyfer y system wleidyddol gyfan.

  • Y sgandal gynta’ ydi fod mwy na 100 o Arglwyddi yn gallu mynd blwyddyn gyfan heb ddweud gair yn y siambr.
  • Yr ail ydi bod rhai ohonyn nhw wedi hawlio costau er na wnaethon nhw ddweud na gwneud dim, heblaw am ambell bleidlais.
  • Y drydedd ydi bod dau – gan gynnwys un o Gymru – wedi hawlio arian er na wnaethon nhw hyd yn oed bleidleisio. Cannoedd oedd y ffigwr ond cannoedd am wneud dim o werth.

Y ddamcaniaeth ydi mai dim ond unwaith bob canrif y bydd yna newid sylfaenol yn Nhŷ’r Arglwyddi – gan fod yna ddiwygio wedi bod ar droad y ganrif, mae angen cyflymu’r broses.

Darllen rhagor »

Leanne – oherwydd y peryg, mae hi’n saff

Diweddarwyd  

Saff? Leanne Wood (Llun Plaid Cymru)

Mae yna ddau beth cyfarwydd yn digwydd yn y rhan fwya’ o gynadleddau gwleidyddol. Mi fydd yna ddyfalu am ddyfodol arweinydd y blaid ac mi fydd cystadleuwyr posib yn gwadu bod ganddyn nhw ddiddordeb.

Yng nghynhadledd Plaid Cymru eleni, mi ddigwyddodd hynny ond roedd yna un rheswm da tros gredu na fydd neb yn herio Leanne Wood ar hyn o bryd: mae’r cyfnod nesa’n debyg o fod yn anodd iawn i’r blaid.

Pe bai yna Etholiad Cyffredinol sydyn, mi fyddai mewn peryg mawr. Mae synnwyr cyffredin, yn ogystal â’r polau piniwn, yn awgrymu hynny. Mae’r dadleuon mawr yn digwydd mewn meysydd lle mae dylanwad Plaid Cymru yn gymharol brin.

Bellach, tydi bod fwy i’r chwith na Llafur ddim am weithio ac, ar lefel San Steffan, fydd beirniadu perfformiad Llywodraeth Cymru ddim yn tycio chwaith.

Darllen rhagor »

Mae’r amser bron â dod …

Diweddarwyd  


Theresa May - mae'r gair 'sombi' yn dod i'r meddwl (llun o'i chyfri Twitter)
Blog bach cyn cinio gan Dylan Iorwerth …

Mae’r amser bron wedi cyrraedd pan fydd hi’n bosib i rywrai ddechrau ymgyrch go iawn yn dweud “dau fys i’r Refferendwm”.

Er gwaetha’r mymryn o gynnydd y mae Theresa May wedi’i wneud heddiw trwy gael rhyw addewid wysg-tin y bydd gwledydd yr Undeb Ewropeaidd yn dechrau trafod masnach, mae shambls Brexit yn waeth nag yr oedd y beirniad mwya’ wedi’i ddisgwyl.

Cysgod sy’ ar ôl o’r Prif Weinidog ei hun ac mae’r bowns hunandybus wedi hen fynd o agwedd ei phrif drafodwr, David Davis. Am ryw reswm, mae’r gair ‘sombis’ yn mynnu dod i’r meddwl.

Darllen rhagor »

Swyddi – ond sut rai?

 


Llun o Ganada yn yr 1930au (Llun parth cyhoeddus)
Mae ffigurau diweithdra Cymru wedi disgyn eto. Mi allech chi feddwl bod yr economi’n ffynnu. Dyna y mae’r ystadegau’n ei ddweud; mae’r llygaid yn dweud fel arall.

Wrth deithio ar draws Cymru, drwy amryw o’n trefi gwledig ni ac yn arbennig yn y Cymoedd, golygfeydd incwm-isel sydd i’w gweld; siopau rhad, siopau gwag ac olion diffyg buddsoddi.

Y cwymp mewn diweithdra ydi un o’r ychydig bethau y mae Llywodraeth Prydain yn gallu brolio yn ei gylch ac mae’n bosib y bydd yn disgyn eto wrth i ragor o bobol adael yn sgil Brexit. Ond nid arwydd o economi iach ydi hynny.

Un o’r rhesymau am y ffigurau gloyw ydi natur cyflogaeth; nid swyddi sefydlog, da, ydi llawer o’r rhain ond gwaith tros dro, ar hap a byr-dymor. Llai o bobol yn hawlio budd-dal, dim llai yn byw mewn ansicrwydd.

Darllen rhagor »

Nonsens yn Sbaen

Diweddarwyd am  


Llun Golwg360
Efallai fod yna ddadl y naill ffordd a’r llall tros annibyniaeth i Gatalwnia. Ond mae un peth yn hollol sicr: mae un rhan o gyfansoddiad Sbaen yn nonsens llwyr.

Y rhan hwnnw sy’n caniatáu i’r llywodraeth ym Madrid ddweud bod refferendwm annibyniaeth yn anghyfreithlon. Y rhan sy’n dweud bod rhaid i Sbaen aros yn un, byth bythoedd, amen.

Mae’r fath gymal yn amlwg yn wirion. Allwch chi ddim rhewi trefn wleidyddol a’i chadw am byth. Mae fel petai Kim Jong-un yn dweud mai unbennaeth fydd Gogledd Corea o hyn ymlaen ac felly y bydd unrhyw ymgyrch i gael democratiaeth yn erbyn y cyfansoddiad.

Ond unbennaeth ydi Gogledd Corea, meddech chi … wel, gwaddol yr unben Franco a’i gefnogwyr ydi elfennau o’r cyfansoddiad yn Sbaen; rhan o’r fargen i sicrhau trosglwyddo tawel at ddemocratiaeth a brenhiniaeth, ar ôl blynyddoedd o Ffasgaeth.

Darllen rhagor »

BLOG: Mae’n rhaid siarad yn onest am Islamiaeth

Diweddarwyd  


Y gwasanaethau brys y tu allan i Arena Manceinion wedi ffrwydrad (Llun: Peter Byrne/PA Wire)
Mae yna le i ddicter cyfiawn yng nghanol yr ystrydebau gwag, meddai Aled Gwyn Job…

Roedd yr ymosodiad terfysgol a laddodd 22 o unigolion ym Manceinion yn gynharach yr wythnos hon yn un o’r digwyddiadau mwyaf erchyll i ddigwydd ar dir Prydain ers blynyddoedd mawr.

Er gwaetha’r holl ymosodiadau terfysgol Islamaidd yr ydym wedi bod yn dyst iddynt dros y blynyddoedd diwethaf, mae’n anodd peidio meddwl bod rubicon go bendant wedi ei groesi yn yr ymosodiad hwn a dargedodd blant a phobol ifanc mewn modd mor filain.

Ond, eto, yr un ystrydebau gwag a welwyd fel ymateb iddo gan ein cyfryngau a’n gwleidyddion megis, “Chawn ni ddim ein curo”, “Safwn yn gryf gyda’n gilydd”, ac mae’r cyhoedd hefyd yn gwbwl gyfarwydd gyda’r sgript y mae disgwyl iddyn nhw ei dilyn gyda’r ffasiwn ddigwyddiadau ar ffurf y galaru cyhoeddus, a’r ymgynnull er mwyn cael bod yn actorion yn y broses.

Darllen rhagor »

Argyfwng newyn – beth all Cymru’i wneud

Diweddarwyd am  


Richard Powell (Llun Achub y Plant)
Mae gen i berthynas gymhleth iawn gyda thechnoleg gwybodaeth. Weithiau, rydw i’n casáu fy nghyfrifiadur, ond i fod yn onest, rydw i’n dibynnu yn fawr arno ar gyfer fy ngwaith o ddydd i ddydd.

Er hyn, ar hyn o bryd yn Nwyrain Affrica, mae miliynau o bobl yn dibynnu ar bobol sydd yn gweithio gyda thechnoleg fel hyn, i helpu i gyd-lunio ymateb i’r argyfwng newyn mwyaf y mae’r byd wedi’i weld.

Dim ond ymateb cydlynol ac ar raddfa enfawr sydd yn mynd i helpu i achub bywydau. Dyma ble mae cyfrifiaduron a thechnoleg gwybodaeth yn chwarae eu rhan.

Mae cyfrifiaduron a thechnoleg gwybodaeth yn ein galluogi i fonitro’r sychder parhaus ac i weithredu’r cynlluniau parodrwydd ac i gychwyn yr hyn sydd yn ôl pob tebyg yr ymateb mwyaf yn ein hanes. Ac wrth gwrs, mae’n caniatáu i mi a fy nhîm yn y gwledydd sydd yn cael eu heffeithio i chwarae ein rhan fechan ein hunain yn yr ymdrech i achub bywyd miliynau.

Darllen rhagor »

BLOG: Dim cyfundrefn gyfreithiol annibynnol i Gymru – ar hyn o bryd

Diweddarwyd am  


Enid Rowlands (Llun: SRA)
Ers fy mhenodi’n Gadeirydd lleyg cyntaf yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr (SRA) yn 2015, rwyf wedi ymrwymo i ddod allan o’r swyddfa a chydweithio’n agos â phobol yng Nghymru.

Yr wythnos ddiwetha’, bues i a fy mwrdd ym Mae Caerdydd, gan gyfarfod â rhyw 80 o bobol o’r sector cyfreithiol a’r tu allan iddo er mwyn dyfnhau’n dealltwriaeth.

Un pwnc trafod oedd a ddylid cael awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân i Gymru. Mae’n eglur bod corff cynyddol o gyfraith Gymreig, ac mae’n sicr yn drafodaeth ddiddorol.

Yn rhinwedd fy swydd fel rheoleiddiwr, dw i ddim yn credu mai’n rôl ni yw pleidio’r naill ochr neu’r llall yn y ddadl. Mater i gyhoedd a llywodraeth Cymru yw hyn.

Darllen rhagor »

Gwasanaethau cyfreithiol i bawb, nid i’r lleiafrif

 


Enid Rowlands
Mae llawer i’w ddathlu ynglŷn â sector cyfreithiol Cymru. Gyda 450 o ffyrmiau a bron 5,000 o gyfreithwyr, mae trosiant y sector yn fwy na £380m ac fe dyfodd dri y cant y llynedd.

Ond mae sylwadau rwy’n eu clywed mewn amrywiaeth mawr o sgyrsiau’n dadlennu problemau sy’n peri pryder. Mae yna broblem o hyd bod gormod o bobol yn methu fforddio gwasanaethau cyfreithiol.

Mae gwasanaethau cyfreithiol yn bwysig inni i gyd. Maen nhw’n gallu helpu ar rai o’r adegau pwysicaf yn ein bywydau – wrth brynu tŷ, ymdrin â chyflogwr diegwyddor, neu drafod tor perthynas. Mae ymchwil yn dangos bod pobol yn credu bod gwasanaethau cyfreithiol yn rhy ddrud, hyd yn oed pan fydd pobol yn sylweddoli bod ganddyn nhw broblem gyfreithiol – a fydd llawer ddim yn sylweddoli. Dim ond un ym mhob 10 o bobol sy’n defnyddio cyfreithiwr neu fargyfreithiwr pan fydd ganddyn nhw broblem gyfreithiol.

Mae’n rhaid ei bod yn anghywir bod gennyn ni system ddwy-haen lle mae’r mwyafrif mawr yn methu cael gafael ar y cymorth angenrheidiol i orfodi neu i amddiffyn eu hawliau. Mae yna drafodaeth ddilys ynghylch rôl Cymorth Cyfreithiol i fyd i’r afael â’r broblem hon, ond nid dyna’r ateb i bopeth. Does gan y cyllid cyhoeddus mo’r adnoddau i gau’r bwlchsector ei hunan ei wneud i’w gwneud yn haws i bobl sicrhau cymorth?

Darllen rhagor »