Croesi trothwy hynod beryglus

Diweddarwyd am  
Senedd San Steffan ac afon Tafwys - wedi eu goleuo fin nos

Y Senedd yn San Steffan

Llun: Maurice CCA2.0

Yn y senedd nos Fercher, mi welson ni gefnogwyr Brexit yn dangos eu gwir liwiau wrth addel eu cenedlaetholdeb Seisnig mwyaf amrwd.

Prif Weinidog sy’n meddwl ei fod uwchlaw’r gyfraith. Saeson trahaus sy’n meddwl eu bod nhw’n well na phobl eraill. Pobl sy’n casáu’r syniad o unrhyw gydweithredu rhyngwladol ac na allant weld gwledydd eraill ond fel bygythiadau i’w goresgyn.

I lawer ohonom, mae natur ac anian arweinwyr Brexit wedi bod yn gwbl amlwg ers refferendwm 2016. A’n dirmyg tuag atynt yn ymwneud lawn cymaint â’n diwylliant, ein hunaniaeth a’n gwerthoedd ag am unrhyw ystyriaethau economaidd.

Ar ôl nos Fercher, fodd bynnag, mae’n amlwg fod yna drothwy arall hynod beryglus wedi’i groesi.

Roedd agwedd ddi-hid Boris Johnson a’i giwed at drais yn erbyn Aelodau Seneddol ac at farwolaeth Jo Cox yn ddigon i gythruddo unrhyw un sydd â gronyn o barch at werthoedd cymdeithas wâr. Gwaeth fyth oedd y lled-anogaeth i drais pellach, gyda’r ensyniadau parhaus bod methiant y Senedd i weithredu Brexit yn rhyw fath o gyfiawnhad dros fod yn dreisgar.

Ni ellir bellach deimlo’n hyderus na fydd rhai o’r bobl hyn yn mynd ati’n llechwraidd i gefnogi ac annog fandaliaeth a thorcyfraith gan hwliganiaid fel yr EDL a’u tebyg.

Os bydd unrhyw le i amau bod hynny’n digwydd, rhaid sicrhau y gwleidyddion hyn yn cael eu pardduo’n ddidrugaredd dros yr wythnosau nesaf.

Dim lle i gyfaddawdu

Mewn awyrgylch mor chwerw, mae’n gwbl ddealladwy fod yna alwadau o lawer cyfeiriad, gan gynnwys gan arweinwyr eglwysig, y dylai gwleidyddion fod yn fwy parod i gyfaddawdu a chymodi.

Mae gen i ofn nad ydi hyn bellach yn ddewis realistig. Camarweiniol a naïf – ac annheg hefyd – ydi unrhyw argraff fod y ddwy ochr rywbeth yn debyg i’w gilydd yn y ddadl.

Mae’r celwyddau sydd wedi cael ei ddweud gan arweinwyr Brexit – yn y refferendwm ac wedi hynny – yn golygu nad ydyn nhw’n bobl y gellir ymddiried ynddyn nhw. Ildiwch chi fodfedd i’r bobl hyn, ac mi gymeran nhw lathen.

Mae hyn wedi bod yn amlwg oddi wrth y ffordd maen nhw wedi elwa a ffynnu ar naifrwydd a diniweidrwydd pob gwleidydd sydd wedi cydnabod angen dros ‘barchu’ canlyniad y refferendwm. Unwaith mae rhywun yn cydnabod dilysrwydd y bleidlais ddiangen, mae rhywun yn cyfreithloni eu celwyddau a’r rhagfarnau a gafodd eu bwydo.

Yr unig ffordd i ddelio efo twyllwyr o’r fath ydi wrth fod yr un mor ddichellgar yn eu herbyn, a’r un mor benderfynol o’u tanseilio. Beth bynnag fydd yn digwydd o ran Brexit, mae gorchfygu pobl sydd ag agwedd amwys tuag at drais yn nod ynddo’i hun bellach. Nid digon fydd gweld gyrfaoedd pobl fel Boris Johnson yn chwilfriw – mae angen sicrhau hefyd y bydd eu henwau’n faw am genedlaethau i ddod.

Apêl annibyniaeth

Yng nghanol llanast gwleidyddiaeth Prydain – yn enwedig o weld mor druenus ydi’r Corbyn-addolwyr hefyd – does dim rhyfedd fod mwy o apêl i alwadau am annibyniaeth i Gymru. Mae’n sicr y byddai “Bollocks to Brexit Britain” yn cyfleu adwaith llawer ohonom.

Mae’n gwbl iawn wrth gwrs defnyddio diflastod y bobl at Brexit i hybu’r syniad o annibyniaeth. A defnyddio cenedlaetholdeb amrwd Brexit fel cocyn hitio er mwyn ennyn drwgdeimlad yn erbyn y sefydliad Seisnig.

Yr un peth sydd angen bod yn wyliadwrus ohono, fodd bynnag, ydi unrhyw feddylfryd hunan-gysurus y gallai annibyniaeth i Gymru gynnig rhyw fath o ddihangfa lwyr o lanast Brexit.

Mae’n sicr y bydd rhai sy’n teimlo’n gryfach dros annibyniaeth i Gymru nad ydyn nhw yn erbyn Brexit. Ond nid dewis o’r naill neu’r llall ydi o, gan fod gwrthsefyll amcanion cefnogwyr Brexit yn hanfodol cyn y gellir cyflawni unrhyw fath o annibyniaeth ystyrlon i Gymru.

Chwalu’r Deyrnas Unedig?

Mae rhai pobl sy’n cymryd eu cysuro y gallai Brexit di-gytundeb arwain at chwalu’r Deyrnas Unedig. Yn sicr, mi fyddai’n creu rhaniadau chwerw iawn o fewn ei chymdeithas. Amheus, fodd bynnag, ydi a fyddai’r rhaniadau hyn yn cyfochri’n daclus â’r ffin rhwng Cymru a Lloegr.

Os byddai Brexit di-gytundeb yn cynyddu apêl annibyniaeth i Gymru ymysg rhai, byddai’n sicr o’i wneud yn llawer mwy anodd yn ymarferol hefyd.

Does dim dwywaith fod y dimensiwn Ewropeaidd wedi bod yn hynod gyfleus i Blaid Cymru dros y chwarter canrif ddiwethaf. Mae’n wir fod llawer o’i ffigurau amlwg, yn fwyaf nodedig Dafydd Wigley, yn credu’n angerddol mewn undod Ewropeaidd fel nod ynddo’i hun. Ar yr un pryd, mae’n amlwg hefyd fod y syniad o hunan-lywodraeth i Gymru o fewn cyd-destun Ewropeaidd wedi bod yn fanteisiol i ddadleuon am statws cyfansoddiadol Cymru. Mae wedi bod yn fodd i ladd unrhyw ddadleuon y gallai unrhyw wahanu rhwng Cymru a Lloegr arwain at ffin galed rhwng y ddwy wlad. Y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd, ni fydd hyn hanner mor wir – a fydd yn rhwystr enfawr mewn Cymru lle mae ymchwil yn dangos nad oes fawr mwy na hanner ei phoblogaeth yn teimlo unrhyw fath o hunaniaeth Gymreig.

Arweiniad yr SNP

Diddorol ydi gweld bod yr SNP wedi dod i lawn sylweddoli bod yr hyn sy’n digwydd yn Lloegr o’r pwysigrwydd mwyaf i’r Alban hefyd. Dyna pam eu bod nhw, er clod, wedi dewis chwarae rhan flaenllaw ledled Prydain i gadw’r wladwriaeth gyfan o fewn yr Undeb Ewropeaidd.

Maen nhw’n sylweddoli y byddai Brexit di-gytundeb yn gwneud cymaint o ddrwg i achos annibyniaeth i’r Alban fel nad oes ganddyn nhw ddewis arall. Yn yr un modd, mae Leo Varadkar hefyd yn sylweddoli nad ydi statws annibynnol ei wlad yn ddigon i’w hamddiffyn rhag Brexit di-gytundeb.

Da felly fyddai gweld mwy o gydweithio rhwng cefnogwyr annibyniaeth a gwrthwynebwyr Brexit i ffurfio cynghrair radical newydd yng Nghymru. Byddai rhai o’r miloedd a aeth i rali YesCymru ym Merthyr yn sicr o fod wedi bywiogi a rhoi gwedd mwy unigryw Gymreig i rali Cymru dros Ewrop yng Nghaerdydd heddiw. Ac wrth i YesCymru feddwl am le i gynnal eu rali nesaf, lle gwell nag fel rhan o orymdaith y People’s Vote yn Llundain y mis nesaf? Lle gwell yn wir i ddangos dirmyg a gwawd at genedlaetholdeb Seisnig nag yng nghanol ei brifddinas?

Yn bwysicach fyth, pan ddaw etholiad, gwych o beth fyddai gweld cynghrair Gymreig ac Ewropeaidd ei gwerthoedd yn cydweithio. Dylai’r nod o drechu pob un o gynrychiolwyr y giwed anwar a welson ni yn y Senedd nos Fercher ddod uwchlaw unrhyw amcanion eraill yn yr etholiad sydd o’n blaenau.

Y Blog Gwleidyddiaeth

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.

Rheolau Cyfrannu | Nodi Camddefnydd

Rheolau Cyfrannu

Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.

Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.

Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360 yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.

Iawn

Nodi Camddefnydd

Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.

Iawn

Straeon poblogaidd