Prorogio: y Goron ydi rhan o’r broblem

Diweddarwyd am  
Ty'r Cyffredin

Ty’r Cyffredin

Llun: UK Parliment CC 3.0

Does dim syndod fod celwydd ar un ochr, ac ychydig o or-ddweud ar y llall, yn rhan o’r datblygiadau newydd yn nhrafferthion Brexit.

Does neb yn credu go iawn mai rhan o drefn arferol y Senedd ydi’r diddymu tros dro gan Boris Johnson; os felly, pam oedd rhaid iddo fo gymryd cyngor cyfreithiol cyn mentro?

Rhagoedi ydi un cyfieithiad o’r gair prorogue – ond dydi hwnnw ddim yn cynnwys holl gyfoeth y gair Saesneg, yn enwedig y ffaith fod ei ail sillaf yn cyfeirio’n uniongyrchol at y Prif Weinidog presennol.

Does neb chwaith yn amau go iawn mai ei fwriad ydi atal aelodau seneddol rhag cael cyfle i rwystro Brexit heb gytundeb.

Mae wedi bod yn ddigon cyfrwys i wneud y diddymiad yn ddigon hir i rwystro trafodaeth gall ond yn ddigon byr i allu gwadu hynny.

Hyd yn oed os oes ganddo fo hawl i weithredu fel hyn, mae ei weithredoedd yn mynd yn hollol groes i ysbryd y ddemocratiaeth Seneddol y mae’r Gadawyr i fod i’w chlodfori.

Doedd neb yn sôn am Frexit heb gytundeb adeg y refferendwm (i’r gwrthwyneb, yr addewid oedd gadael rhwydd efo cytundebau masnach rif y gwlith) ac mae’n amhosib honni bod mwyafrif yr etholwyr wedi pleidleisio trosto.

Dyna un cam â democratiaeth ond, yn fwy sylfaenol, yn hawl Boris Johnson i droi at y Frenhines y mae’r broblem go iawn.

Er ei bod hi’n gor-ddweud i gymharu’r ystryw yma efo ymosodiadau rhai fel Charles I ar y senedd 370 a mwy o flynyddoedd yn ôl, mae yna elfennau tebyg.

Onibai am nonsens y Frenhiniaeth, fyddai triciau Boris Johnson ddim yn bosib. Er fod y Frenhines wedi dilyn yr arfer diweddar o dderbyn cyngor ei Phrif Weinidog, roedd ganddi rym yn y mater.

Heb y ddarpariaeth honno sy’n rhoi’r gair terfynol i ddeiliad y Goron, fyddai dim modd i Brif Weinidog ochrgamu grym y Senedd. Mae’r drefn yna, fel cymaint o ‘gyfansoddiad’ y Deyrnas Unedig yn anacronistaidd a difäol.

Y Blog Gwleidyddiaeth

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.

Rheolau Cyfrannu | Nodi Camddefnydd

Rheolau Cyfrannu

Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.

Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.

Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360 yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.

Iawn

Nodi Camddefnydd

Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.

Iawn

Straeon poblogaidd