Tanau’r Amazon yn profi ynfydrwydd y syniad o sofraniaeth

Diweddarwyd am  

Y fflamau difaol ym masn yr Amazon yn Brasil

(AP Photo/Eraldo Peres)

All neb ohonom sydd ag unrhyw barch at y ddaear ond teimlo torcalon a dicter wrth weld y tanau sy’n dinistrio cyfoeth amhrisiadwy rhanbarth yr Amazon ar hyn o byd.

Mae’n dangos yn glir inni i gyd pa mor rhyng-ddibynnol ydan ni fel byd, ac mor hanfodol fydd ceisio atebion rhyngwladol i’r argyfyngau sy’n wynebu’r ddynoliaeth.

Mae hefyd yn tanlinellu pwysigrwydd y syniad o etifeddiaeth fyd-eang a chyfrifoldeb at ein gilydd ac at genedlaethau’r dyfodol.

Yn fwy na dim, mae’r tanau yn Brasil yn profi ynfydrwydd yr holl syniad o sofraniaeth – sef y feddylfryd hurt y dylai cenedl-wladwriaethau gael rheolaeth ddi-amod ar eu tiriogaethau.

Ni bu erioed ddadl gryfach dros fwy o reolaeth ryngwladol i lesteirio grym gwledydd unigol nag anfadwaith bwriadol y dihiryn ddiegwyddor sy’n rheoli Brasil ar hyn o bryd.

Dadl yr arlywydd Jair Bolsonaro, wrth gwrs, ydi mai gwladwriaeth Brasil sydd â’r unig hawl i benderfynu a ddylai’r Amazon gael ei ddiogelu ai peidio. A bod yr hawl honno hefyd yn cynnwys penrhyddid i gyflawni hil-laddiad brodorion cynhenid y coedwigoedd glaw.

Mae’n wir fod arweinwyr rhai o wledydd y G7 yn ymddangos fel pe baen nhw’n sylweddoli difrifoldeb y sefyllfa ac yn chwilio am ffyrdd o’i datrys.

Ond mae’n sicr gen i na fydd fawr o obaith i ddyfodol yr Amazon hyd nes bydd cyfundrefn ddieflig Bolsonaro yn cael ei dymchwel. Mae hon yn gyfundrefn mor ffiaidd ag unrhyw lywodraeth a fu yn Ne Affrica yng nghyfnod apartheid ac yn gofyn am ymgyrchu rhyngwladol yr un mor benderfynol yn ei herbyn.

Cenedlaetholdeb Trump

Er bod canlyniadau agwedd Jair Bolsonaro at sofraniaeth yn ymddangos yn fwy eithafol, mae angen cydnabod mai union yr un ydi agwedd Donald Trump at hawliau di-ben-draw ei lywodraeth hefyd.

Wrth ymfalchïo mewn disgrifio’i hun fel ‘nationalist’, mae’n dehongli hynny fel rhoi lles ei wlad ei hun o flaen popeth heb boeni dim am neb arall.

Mae’n ddigon tebyg bod ei ddehongliad o ystyr gyfoes y gair yn eithaf cywir.

Mae geiriau yn aml yn newid eu hystyron dros y blynyddoedd yn unol â’r cyd-destun ar y pryd, ac mae’n amlwg mai prif ystyr ‘nationalism’ bellach ydi rhyw fath o eilun addoliaeth o’r genedl-wladwriaeth a chred mewn dyrchafu ei grym.

Dyna pam y byddai’n ddoeth i’r mudiadau cenedlaethol yng Nghymru a’r Alban fod yn wyliadwrus o’r term ‘nationalist’ wrth ddisgrifio’u hunain yn y Saesneg.

Dydi’r un peth ddim yn wir yn y Gymraeg i’r un graddau o angenrheidrwydd. Mae’n anochel fod cyd-destun y gair ‘cenedlaetholdeb’ yn y Gymraeg yn ymwneud yn aml iawn â chenedlaetholdeb Cymraeg neu Gymreig a bod hynny wedyn yn dylanwadu’n gryf ar ei ystyr.

Yn y Gymraeg, mae’r gair ‘cenedlaetholwr’ yn debygol o gyfleu rhywun sy’n ymddiddori yn yr iaith a’r diwylliant Cymraeg ac a fyddai’n cefnogi mwy o annibyniaeth i Gymru. Yn yr un modd, mae cenedlaetholdeb yng nghyd-destun yr Alban yn cael ei weld fel cefnogaeth i annibyniaeth, ond mae ymrwymiad yr SNP i’r Undeb Ewropeaidd yn codi cwestiynau am y graddau mae ‘nationalist’ yn air addas i’w disgrifio.

Wrth gyfeirio at genedlaetholdeb Seisnig, ar y llaw arall, mae ystyr y gair Cymraeg yn llawer nes at ystyr arferol y gair Saesneg – sef cred mewn sofraniaeth a ffieiddio at y syniad bod gwledydd ‘estron’ ag unrhyw lais yn neddfwriaeth eu gwlad.

Grym difaol

Pa eiriau bynnag a ddefnyddiwn, mae gofyn inni sylweddoli grym mor ddifaol y gall cenedlaetholdeb fod ar raddfa byd-eang.

Canlyniad anochel penrhyddid a sofraniaeth gormodol i wledydd y byd fydd mai gwledydd mawr a phwerus fel America fydd ar eu hennill a gwledydd llai yn gyfan gwbl ar eu trugraredd.

Dyna’r unig reswm pam fod Donald Trump mor frwd o blaid Brexit – er mwyn creu hynny ag y gall o raniadau yn Ewrop.

Cenedlaetholdeb Seisnig gibddall ydi’r unig esboniad pam fod cymaint o gefnogwyr Brexit ym Mhrydain yn gwrthod gweld hyn. Mae Boris Johnson bellach yn seilio rhan helaeth iawn o’i apêl ar dwyllo’r Saeson fod eu gwlad nhw yn llawer mwy grymus a phwysicach nag ydi hi mewn gwirionedd.

Fel cenedl ddi-wladwriaeth, siawns na ddylen ni fel Cymry o bawb weld trwy’r fath dwyll.

A sylweddoli mai unig obaith am degwch i genhedloedd llai ydi torri’n sylweddol ar rym gwladwriaethau’r byd a chryfhau ein sefydliadau rhyngwladol.

Yn bwysicach fyth, fel mae tanau Brasil yn dangos mor glir, mai dyma’r unig obaith i ddyfodol y blaned a’r ddynoliaeth hefyd.

Y Blog Gwleidyddiaeth

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.

Rheolau Cyfrannu | Nodi Camddefnydd

Rheolau Cyfrannu

Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.

Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.

Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360 yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.

Iawn

Nodi Camddefnydd

Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.

Iawn

Straeon poblogaidd