Gwrthsefyll y dilyw glas

Diweddarwyd  

Canlyniadau etholiadau Ewrop fesul Sir – gyda’r môr o las yn cynrychioli plaid Brexit

Llun o wefan Wikipedia

Mi fydd Plaid Cymru wedi cael o leiaf rywfaint o le i ddathlu ac ymfalchïo ynddo ar ôl etholiad Ewrop yr wythnos ddiwethaf.

Na, nid am guro’r Blaid Lafur drwy Gymru am y tro cyntaf erioed. Mae hynny i’w briodoli’n llawer mwy i berfformiad truenus Llafur nag i lwyddiant Plaid Cymru. Rhaid cofio mai dim ond trwy groen eu dannedd y llwyddodd Llafur i osgoi dod yn bedwerydd.

Llwyddiant mawr Plaid Cymru yn yr etholiad oedd curo plaid Brexit Farage yn ein tair sir Gymreiciaf – yr unig fannau yng Nghymru lle nad oedd y cenedlaetholwyr Seisnig ar y blaen.

Er mor arwynebol ydi unrhyw fapiau o ganlyniadau etholiadau, mae’r ddelwedd o lecyn gwyrdd yn y gorllewin yn arwydd i’r byd ein bod ni’n wahanol ac nad ydi Cymru wedi cael ei llyncu’n llwyr.

Mae hefyd yn tueddu i gadarnhau arolygon fod agweddau siaradwyr Cymraeg at Brexit yn bur wahanol i agweddau yng nghymoedd ôl-ddiwydiannol y de er enghraifft.

A thybed hefyd nad cyd-ddigwyddiad llwyr oedd llwyddiant (cymharol) plaid Brexit yn Sir Gâr a dirywiad y Gymraeg yno dros y blynyddoedd diwethaf?

Hyd yn oed ar ôl ystyried effaith pleidleisiau myfyrwyr ym Mangor ac Aberystwyth, roedd y bleidlais wrth-Brexit yng Ngwynedd, yn enwedig, yn bur ysgubol.

Faint bynnag ydan ni’n gresynu gweld cymaint o Gymru mor debyg i Loegr yn wleidyddol, mae angen inni fod yn fwy parod weithiau i ymfalchïo yng ngwerthoedd a hunaniaeth y gymdeithas Gymraeg rydan ni’n rhan ohoni.

Perfformiad y pleidiau

Er gwaethaf llwyddiant diamheuol plaid Brexit, mae’n rhaid gwrthsefyll y sbin fod Nigel Farage yn rhyw fath o ddewin sydd wedi codi plaid allan o ddim byd.

Ail-bobiad o Ukip, plaid y cafodd gryn lwyddiant wrth ei harwain, ydi plaid Brexit yn ei hanfod. Yr hyn sy’n anarferol ydi’r ffordd y llwyddodd i ail-gipio awennau ei hen blaid o dan fantail newydd a disodli’r blaid sy’n arddel yr hen enw.

Nid yw’r ganran o’r bleidlais a gafodd ei blaid newydd fawr uwch nag a enillodd Ukip o dan ei arweiniad yn 2014, ac o ystyried y graddau y dymchwelodd pleidleisiau Llafur a’r Torïaid, ni fyddai wedi bod yn syndod ei weld yn cael mwy.

Mae’r cynnydd yng nghyfanswm pleidleisiau Phlaid Cymru yn awgrymu nad oedd ei hagwedd galetach gwrth-Brexit o gymharu â safbwynt fwy simsan yr arweinydd blaenorol wedi gwneud dim drwg iddi.

Ar yr un pryd, o gofio mai hi oedd y cryfaf o ddigon o’r pleidiau gwrth-Brexit cyn yr etholiad, mae’n werth nodi mai llai na hanner o gyfanswm pleidleisiau’r pleidiau rheini y llwyddodd i’w hennill.

Mi fydd yn demtasiwn i Blaid Cymru ganolbwyntio gormod ar ei hymdrechion ar ennill pleidleisiau’r Democratiaid Rhyddfrydol a’r Blaid Werdd. Camgymeriad fyddai hynny, oherwydd mae’n ddigon posibl fod y pleidiau hyn yn gallu cyrraedd cynulleidfaoedd nad yw Plaid Cymru’n gallu eu cyrraedd.

O gofio cymaint o bobl Cymru sy’n derbyn eu newyddion yn llwyr o gyfryngau Prydeinig ni ellir diystyru’r posibilrwydd mai’r unig bleidiau sydd â gobaith o ddenu sylw’r bobl hynny yw rhai sy’n gweithredu drwy Brydain.

Prif obaith Plaid Cymru am fwy o gynnydd o hyn tan etholiad y Cynulliad ydi mwy o chwalfa ym mhleidlais Llafur

Hyd yn oed yr wythnos ddiwethaf, cafodd Llafur fwy o bleidleisiau na Phlaid Cymru yn holl gymoedd y de ac eithrio Rhondda Cynon Taf. Mae hyn yn awgrymu bod ganddi dipyn o ffordd i fynd cyn y gall ddisgwyl ennill seddau mewn etholaethau o’r fath.

Os yw’n wir fod hunaniaeth yn dod yn ffactor pwysicach na chefndir cymdeithasol ac economaidd wrth bleidleisio, mae’n ddigon posibl fod hynny’n argoeli’n ddrwg i Lafur.

Ar y llaw arall, mae llawer rhy ychydig o bobl Cymru ag ymwybyddiaeth Gymreig ddigon cryf i warantu cynnydd mawr i Blaid Cymru chwaith.

Gwrthsefyll Farage

Llawer pwysicach na hynt a helynt unrhyw blaid fodd bynnag ydi sicrhau’r gwrthwynebiad mwyaf effeithiol bosib yn erbyn trahaustra Seisnig afiach Farage a’i giwed.

Mae’n sicr y bydd Nigel Farage ar gefn ei geffyl yn fwy fyth os bydd ei blaid yn ennill yn Peterborough yr wythnos nesaf.

Mae’n amlwg fod yn rhaid derbyn bod ei boblogrwydd yn fygythiad – ond mae angen gweld y cyfleoedd sy’n gysylltiedig â hynny hefyd.

Er ei fod yn ffigur poblogaidd, mae’n berson hynod o ddadleuol hefyd. Po fwyaf y bydd yn cael ei weld fel rhan annatod o Brexit, hawsaf fydd pardduo holl hyrwyddwyr Brexit fel gweision bach iddo.

Mwy anodd fyth fydd hi i neb sy’n honni arddel gwleidyddiaeth flaengar allu cefnogi Brexit os mai Nigel Farage fydd yr wyneb cyhoeddus. Ac os bydd Jeremy Corbyn yn parhau ar ei drywydd presennol, mi fydd yn llawn haeddu cael ei ddinistrio’n llwyr.

Mae’n bosibl fod rhyfel diwylliannol digon hyll a chwerw o’n blaenau. Ond mae canlyniadau’r etholiad yn awgrymu’n gryf nad oes llawer o le i gyfaddawd nac amwysedd ar Brexit. A pho fwyaf rhanedig y bydd Prydain, mwyaf anodd fydd hi i genedlaetholdeb Seisnig Brexit ffynnu ynddi. Boed i ni fel gwladgarwyr Cymraeg – hyd yn oed os mai lleiafrif ydan ni – ymfalchio mewn bod ar flaen y gad yn y frwydr yn ei erbyn. Y cyfraniad pwysicaf y gallwn ni ei wneud dros warchod ein hunaniaeth yw dal ati i wneud popeth yn ein gallu i wrthsefyll Brexit a llesteirio pawb sy’n ceisio’i hyrwyddo.

Y Blog Gwleidyddiaeth

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.

Rheolau Cyfrannu | Nodi Camddefnydd

Rheolau Cyfrannu

Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.

Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.

Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360 yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.

Iawn

Nodi Camddefnydd

Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.

Iawn

Straeon poblogaidd