Cymod ar Brexit? Ddim ar unrhyw gyfrif!

Diweddarwyd  

Llun parth cyhoeddus

Mae angen osgoi rhagor o raniadau ar Brexit, yn ôl prif weinidog newydd Cymru, Mark Drakeford.

Does dim amheuaeth ei fod yn haeddu parch fel dyn galluog, cydwybodol a digon goleuedig ar y rhan fwyaf o bynciau. Ond digalon ydi clywed ystrydebau truenus fel rhain gan gymaint o wleidyddion.

I ddechrau, maen nhw’n dangos dyhead hynod naïf. Fel un o bynciau gwleidyddol mwyaf a mwyaf llosg ei ddydd, mae’n anochel fod Brexit yn mynd i achosi rhaniadau gwleidyddol.

A beth sydd o’i le yn hynny? Ar hyd y blynyddoedd, mae gwahanol bynciau gwleidyddol, boed nhw’n bolisïau economaidd, diarfogi niwclear neu fynd i ryfel yn Irac wedi ennyn teimladau cryfion o ddwy ochr y ddadl. Pa resymeg sydd mewn disgwyl i Brexit fod yn ddim gwahanol?

Mae’n anochel hefyd y bydd tactegau arweinwyr Brexit yn y refferendwm ddwy flynedd yn suro’r ddadl am flynyddoedd lawer i ddod. Mae’n golygu y bydd unrhyw syniad o gymod yn gwbl annerbyniol i lawer.

Y perygl ydi mai ystyr ymarferol unrhyw gymod neu gyfaddawd yn achos Brexit fyddai ildio i’r celwyddgwn twyllodrus a diegwyddor sy’n gyfrifol am y llanast rydan ni ynddo heddiw.

Rhaniadau Llafur

Mae’n ddigon posibl mai rhai o’r rhaniadau sy’n achosi mwyaf o bryder i Mark Drakeford ydi’r rhaniadau o fewn ei blaid ei hun.

Os felly, gyda thystiolaeth fod mwyafrif llethol o aelodau a chefnogwyr Llafur bellach yn gwrthwynebu Brexit, efallai mai’r cam cyntaf mwyaf effeithiol o geisio undod fyddai cael gwared ar Jeremy Corbyn fel arweinydd.

Pwysicach o lawer na cheisio undod o fewn eu plaid eu hunain, fodd bynnag, fyddai i aelodau Llafur godi pontydd gyda gwleidyddion o bleidiau eraill sy’n gwrthwynebu Brexit. Eisoes, mae tir cyffredin amlwg rhwng amryw o wleidyddion Llafur ac aelodau o’r Blaid Werdd, y Democratiaid Rhyddfrydol, Plaid Cymru a’r SNP. Mae angen estyn allan yn yr un modd tuag at y lleiafrif o Dorïaid cymedrol sy’n barod i herio safbwyntiau eu plaid.

Yn anffodus, mae’n ymddangos fod gwleidyddion yn gyndyn o gydnabod y graddau y mae holl natur gwleidyddiaeth wedi newid. Mae’n hen bryd iddyn nhw dderbyn nad ydi’r rhaniadau rhwng pleidiau gwleidyddol a’i gilydd yn cynrychioli’r rhaniadau o fewn cymdeithas bellach.

Mae’n ddigon posibl mai’r blaid Lafur sy’n cael mwyaf o drafferth wrth geisio dygymod â hyn. Mae llawer o’i haelodau mwyaf radical yn dal i gredu mewn hen syniadau am deyrngarwch dosbarth fel ffordd o geisio creu cymdeithas decach. Maen nhw o leiaf hanner can mlynedd yn rhy hwyr, ac mae’n rhaid iddyn nhw sylweddoli bod ffactorau fel diwylliant a hunaniaeth yn llawer mwy arwyddocaol na dosbarth cymdeithasol bellach.

Gwahanfur

Er gwell neu er gwaeth, agweddau at Ewrop ydi’r gwahanfur mawr yng ngwleidyddiaeth Prydain erbyn hyn. Mae’n ddigon posibl mai amlygu’r gwahaniaethau, yn hytrach na’u hachosi, a wnaeth y refferendwm ddwy flynedd yn ôl. Yn amlach na pheidio, mae agweddau at Brexit yn cynrychioli gwahaniaethau barn sy’n mynd yn llawer iawn dyfnach na’r pwnc ei hun. Mae astudiaethau lu wedi dangos y gydberthynas rhwng barn pobl at Brexit a’u hagweddau at faterion fel mewnfudo a ffoaduriaid, cymorth i wleidydd tramor, cydweithio rhyngwladol a gofal am yr amgylchedd. Yn union yr un fath ag agweddau tuag at Donald Trump yn America o ran hynny.

Yn gyffredinol, mae gwahaniaethau fel hyn yn llawer mwy arwyddocaol na diffiniadau traddodiadol o fod ar y dde neu ar y chwith yn wleidyddol – er na ddylid ar unrhyw gyfrif fychanu’r berthynas rhwng Brexit ac agweddau eithafol asgell dde.

Yr eironi sy’n rhaid i sosialwyr gydnabod ydi bod amryw o geidwadwyr cymedrol, fel John Major a Michael Heseltine, wedi bod yn llawer parotach i wneud safiad yn erbyn prosiect gwrth-Ewropeaidd y dde eithaf nag y mae llawer o’r Corbynistas.

Cyfle i wneud gwahaniaeth

Beth bynnag fydd yn digwydd yn San Steffan o fewn yr wythnosau nesaf, mi fydd y gwrthdaro a’r ffraeo rhwng y ddwy ochr ar Ewrop yn parhau am flynyddoedd i ddod.

Yn sicr, gellir diystyru unrhyw honiadau bod cytundeb Brexit Theresa May am allu pontio’r gagendor rhwng y ddwy ochr.

Os nad oes ffordd o gael cytundeb sy’n dderbyniol i fwyafrif y boblogaeth, rhaid i Aelodau Seneddol wneud yr hyn maen nhw’n ei gredu sydd orau i ddyfodol trwch eu hetholwyr.

Mae’n dod yn fwyfwy amlwg y byddai gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb yn wallgofrwydd llwyr. Mae’n anodd hefyd gweld sut y gall cytundeb Theresa May ragori dim ar y sefyllfa bresennol o aelodaeth lawn o’r Undeb. Os felly, mae’n rhesymol disgwyl i Aelodau Seneddol bleidleisio yn ei erbyn.

Ers ychydig wythnosau, daeth i’r amlwg fod gan y Senedd yr hawl i ddiddymu Erthygl 50 ar amrantiad, heb gydsyniad gwledydd eraill Ewrop. Dewisiadau eraill posibl yw gohirio’r dyddiad ymadael, neu ail refferendwm.

Ni fyddai dim un o’r rhain yn ateb terfynol, wrth gwrs. Ond o leiaf maen nhw’n cynnig ffyrdd o’n cael ni allan o’r gors bresennol.

Mae penderfyniad y llywodraeth ddiwethaf i gynnal refferendwm amwys ar ‘aros’ neu ‘adael’ yr Undeb Ewropeaidd yn ymddangos yn syniad gwirionach bob dydd. Ond os oedd cynnal y bleidlais yn syniad gwirion, mae glynu’n ddeddfol a digwestiwn at ei chanlyniad yr un mor ynfyd hefyd. Yn enwedig pan fo’r holl ganlyniad yn seiliedig ar dwyll a chelwyddau.

Amser i ymwroli a gwneud safiad ydi hi, nid amser i wneud ystrydebau gwag am gymod lle nad oes cymod yn bosibl.

Mae ein Haelodau Seneddol mewn sefyllfa hynod freintieidig ar drothwy blwyddyn newydd. Mae ganddyn nhw gyfle euraid, efallai am yr unig dro yn eu gyrfaoedd, i wneud gwahaniaeth gwirioneddol.

Mae ganddyn nhw gyfle i sicrhau y byddan nhw’n cael eu cofio fel rhai a wnaeth safiad dros synnwyr cyffredin. Neu i gael eu hanghofio fel pobl a wastraffodd eu cyfleoedd er mwyn bodloni gofynion pleidiau gwleidyddol a oedd wedi hen, hen oroesi eu defnyddioldeb.

Y Blog Gwleidyddiaeth

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.

Rheolau Cyfrannu | Nodi Camddefnydd

Rheolau Cyfrannu

Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.

Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.

Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360 yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.

Iawn

Nodi Camddefnydd

Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.

Iawn

Straeon poblogaidd