Dewis o ddau ddrwg yn dda i ddim

 

Llun: Wicimedia Commons. Gorymdaith People’s Vote, Llundain Mehefin 23, 2018.

Ar ôl wythnos mor gythryblus, mi allwn ni ddisgwyl wythnosau o bropaganda didrugaredd gan y Sefydliad i hyrwyddo cytundeb Brexit Theresa May.

Chwarae ar ofnau pobl fydd y brif dacteg mae’n sicr – yn rhybuddio cymaint o lanast fyddai gadael yr Undeb Ewropeaidd heb ddim cytundeb o gwbl.

Mi allwn ni fod yn sicr hefyd nad at y Brexitwyr eithafol y bydd y neges wedi ei hanelu – gan ei bod yn amlwg y byddan nhw’n gwbl fyddar i neges o’r fath.

Mi fydd y neges yn hytrach wedi ei hanelu at wrthwynebwyr Brexit – sef, os na chefnogwch chi ni, mi fyddwch yn cael rhywbeth llawer gwaeth.

Faint bynnag o wirionedd all fod yn y neges, dydi hynny ddim yn cyfiawnhau ei derbyn fel y mae.

Mae’n gwbl annerbyniol mai’r dewis sy’n cael ei gynnig inni ydi Brexit gwael neu Brexit gwaeth.

Rydan ni’n haeddu rhywbeth gwell na hyn – yn enwedig pan mae pob arolwg barn yn awgrymu bod aros yn yr Undeb Ewropeaidd yn ddewis mwy poblogaidd na’r un o’r ddau ddewis a gynigir inni.

Newid y ddadl

Yr her fawr i ymgyrchwyr gwrth-Brexit dros y dyddiau a’r wythnosau nesaf fydd newid telerau’r ddadl. Gobaith cefnogwyr y Sefydliad ydi y bydd un aelod o’r Llywodraeth ar ôl y llall yn cael rhwydd hynt i ddadlau pam fod eu cynllun nhw yn well na dim cytundeb.

Rhaid rhwystro hyn rhag digwydd. Rhaid fydd iddyn nhw gael eu herio’n barhaus i esbonio’n ogystal sut yn union y mae cytundeb Theresa May yn rhagori ar y cytundeb sydd gan Brydain ar hyn o bryd fel aelod llawn o’r Undeb Ewropeaidd.

All neb ddadlau bod hyn yn gwestiwn afresymol i’w ofyn. Ond dw i ddim wedi clywed neb yn cynnig unrhyw ateb credadwy iddo. Ac os nad ydi trefniant newydd y Llywodraeth yn cynnig rhyw fath o welliant ar ein sefyllfa bresennol, yna pa gyfiawnhad sydd dros symud ymlaen efo’r peth o gwbl?

Onid oes gan Brydain ddigon o broblemau fel y mae heb fod ganddi lywodraeth sy’n ceisio gwneud pethau’n fwy anodd iddi’i hun?

Dal i hau amheuon

Yr ateb tôn gron dros symud ymlaen efo Brexit, wrth gwrs, ydi er mwyn ‘parchu canlyniad y refferendwm’.

Ac oni fydd llawer mwy o wleidyddion yn ymwroli i herio meddylfryd o’r fath, dal yn yr un twll fyddwn ni.

Gyda’r holl amheuon sydd wedi dod i’r amlwg yn ddiweddar am darddiad llawer o arian ymgyrch Brexit does dim esgus dros beidio â chodi cwestiynau difrifol am ddilysrwydd y bleidlais.

Mae’n bwysicach nag erioed bod mwy ohonom yn dweud yn ddi-flewyn ar dafod NA ddylid parchu nac anrhydeddu canlyniad pleidlais a gafodd ei hennill ar gymaint o gelwyddau a thwyll.

Y gwir amdani ydi ein bod ni’n talu’r pris am nad oes hanner digon o edliw ac o daflu bai wedi bod am y llanast rydan ni ynddo.

Amgylchiadau anghyffredin

Mewn amgylchiadau arferol, mae cyfaddawd yn amcan doeth ac anrhydeddus mewn gwleidyddiaeth, ac yn un o hanfodion y drefn ddemocrataidd.

Prin fod angen dweud fodd bynnag nad amgylchiadau cyffredin ydi rhain rydan ni’n byw ynddyn nhw.

Mae’r refferendwm ddwy flynedd yn ôl wedi esgor ar newid anferthol a pharhaol o fewn gwleidyddiaeth Prydain, ac mae’n amlwg nad ydi’r naill na’r llall o’r ddwy blaid fawr yn gallu dygymod â newid o’r fath.

Mae fel petai rhyw fath o hystyria cenedlaetholgar Seisnig wedi goresgyn mwyafrif Aelodau Seneddol y Blaid Dorïaidd, ac i raddau pellach fyth ymhlith ei haelodau cyffredin. Rhaid i’w gwleidyddion mwyaf cymedrol a rhesymol holi eu hunain o ddifrif bellach a oedd ganddyn nhw unrhyw ddyfodol o fewn y blaid.

Mae Llafur bellach yn cael ei harwain gan bobl sy’n dal i gredu mewn rhyw fath o ryfel dosbarth ac y bydd gwleidyddiaeth yn dychwelyd i batrwm cysurus traddodiadol o frwydrau rhwng y chwith a’r dde. Naïf ar y naw hefyd ydi sylwadau rhai o’u gwleidyddion eu bod nhw am allu cael rhyw fath o atebion sydd am ddod â gwahanol garfannau dadl Brexit at ei gilydd.

Er gwell neu er gwaeth, mae’r rhaniadau sydd wedi cael eu hamlygu gan Brexit yma i aros, oherwydd maen nhw’n ymwneud â hanfodion sylfaenol fel diwylliant, hunaniaeth a gwerthoedd. Beth bynnag fydd yn digwydd yn y brwydrau dros yr wythnosau nesaf, mae’r rhyfel diwylliannol hwn yn sicr o barhau.

Anodd gweld i ba raddau mae cyfaddawd yn bosibl, nac o angenrheidrwydd yn rhywbeth i’w ddymuno. Mae profiad yn awgrymu mai’r cyfan y bydd unrhyw gyfaddawd yn ei wneud i’r Brexitwyr eithafol fydd eu hannog i geisio mwy.

Os mai’r gorau y gall Theresa May ei gynnig mewn sefyllfa o’r fath ydi dewis rhwng dau ddrwg, mae hynny’n gwbl annerbyniol. Yn enwedig pan mae’r ddau ddewis hwnnw’n seiliedig ar dwyll ac anwiredd.

Y Blog Gwleidyddiaeth

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.

Rheolau Cyfrannu | Nodi Camddefnydd

Rheolau Cyfrannu

Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.

Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.

Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360 yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.

Iawn

Nodi Camddefnydd

Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.

Iawn

Straeon poblogaidd