Plaid Cymru: mae angen mwy o drafod agored

Diweddarwyd am  

Mae’n sicr fod llawer o aelodau blaenllaw Plaid Cymru wedi rhoi ochenaid o ryddhad ar ôl eu cynhadledd wanwyn yn Llangollen y penwythnos diwethaf.

Mi allasai fod wedi bod yn llawer gwaeth, ac o gofio’r gwrthdaro sydd wedi bod, mae’n debyg fod deuddydd digon tawel a digyffro yn gyfystyr â llwyddiant.

Roedd yn anochel mai gwaharddiad Neil McEvoy am 18 mis o Blaid Cymru a gafodd y prif sylw yn y dyddiau’n arwain at y gynhadledd. Ar y llaw arall, er gwaethaf adroddiadau o tua 40 wedi mynd i gyfarfod y ‘gwrthryfelwyr’ mewn tafarn yn y dref brynhawn Sadwrn, doedd dim llawer o arwyddion o bryder i’w weld ymysg y cynadleddwyr.

Y farn gyffredinol yw mai ei rwystro rhag bod yn ymgeisydd yn etholiad nesaf y Cynulliad yn 2021 oedd y cymhelliad y tu ôl i’w wahardd am 18 mis.

Gall yr holl helynt hefyd ei gwneud yn fwy tebygol mai Leanne Wood fydd yn dal i arwain y Blaid yn yr etholiad hwnnw.

Mae’n rhesymol credu y byddai wedi ei herio hi am yr arweinyddiaeth pan ddaw ei thymor dwy-flynedd presennol i ben ddiwedd yr haf. Nid oherwydd y byddai ganddo unrhyw obaith o lwyddo y gallai hynny fod yn fygythiad iddi, ond am y byddai’r angen am etholiad yn gallu agor y drws i eraill roi cynnig arni. Fel y mae pethau, mae’n llai tebygol y bydd unrhyw un o’r naw AC arall yn awyddus i gael eu gweld yn siglo’r cwch.

Amgylchiadau anffafriol

Dyma ddigon am bersonoliaethau. Nid Neil McEvoy nac arweinyddiaeth Leanne Wood na hyd yn oed y ffraeo mewnol mewn etholaethau sy’n gyfrifol am y prif broblemau sy’n wynebu Plaid Cymru ar hyn o bryd – ond amgylchiadau.

Mae’n anochel fod yr amodau’n hynod o anffafriol i Blaid Cymru ar hyn o bryd – pwy bynnag fyddai’n ei harwain.

A’r pennaf achos am yr amodau anffafriol hyn yw Brexit wrth gwrs.

Mae’n gymaint o ymosodiad ar ddiwylliant a gwerthoedd Plaid Cymru a’r mudiad cenedlaethol yn gyffredinol fel ei fod yn eu rhoi mewn cyfyng gyngor am sawl rheswm.

Brexit yn dwyn y sylw

Un o brif broblemau Brexit i Blaid Cymru yw ei fod yn cadarnhau canolbwynt y sylw gwleidyddol ar San Steffan gan ei bod yn amlwg mai yno mae’r prif benderfyniadau o bwys yn digwydd.

Mae hyn yn gwrthweithio blynyddoedd o gynnydd graddol yn arwyddocâd senedd a llywodraeth Cymru, lle mae gan Blaid Cymru lwyfan gymaint â hynny’n fwy.

Mae ffyrnigrwydd y gwrthdaro yn San Steffan hefyd yn gwneud i ddadleuon o fewn senedd Cymru ymddangos yn hynod o ddof a dibwys.

Ar adeg pan mae pobl fel Boris Johnson, Liam Fox a Jacob Rees-Mogg yn rheoli’r sefydliad Seisnig, mae’n anodd i genedlaetholwyr Cymreig gan eu tanio gan unrhyw fân wahaniaethau barn rhwng Carwyn Jones a Leanne Wood.

Cwestiynau anghyffyrddus

Mae Brexit yn codi cwestiynau digon anghyffyrddus i’r mudiad cenedlaethol. Ar un llaw, mae negeseuon cenedlaetholgar amrwd cefnogwyr Brexit yn ein hatgoffa pa mor atgas a throedig yw agweddau llawer iawn o Saeson. Llawer o Saeson, sylwer, nid pawb o bell fordd, gan fod miliynau o Saeson sy’n ffieiddio cymaint â neb ohonom tuag y cenedlaetholdeb afiach yma – boed hwnnw’n dod gan bileri’r sefydliad, hwliganiaid pêl-droed Lloegr neu anwybodusion sy’n cael eu porthi gan gau-newyddion y Sun a’r Daily Mail.

Y meddylfryd eu bod nhw fel Saeson yn well na phobl eraill ydi holl hanfod apêl Brexit, a’r adwaith yn erbyn y meddylfryd hwnnw oedd un o’r elfennau mwyaf allweddol mewn cenedlaetholdeb Cymraeg ar hyd y blynyddoedd. Mae atgyfodiad y trahaustra Seisnig hwn yn llwyr ddryllio’r myth a oedd yn bregeth boblogaidd o fewn Plaid Cymru ar un adeg nad oes â wnelo cenedlaetholdeb Cymreig ddim oll ag ethnigrwydd.

Caswir arall sy’n rhaid i’r mudiad cenedlaethol ei wynebu yw maint apêl y cenedlaetholdeb Seisnig senoffobaidd yma yng Nghymru. Dangosodd pleidlais y refferendwm na allwn ddibynnu’n ddigonol ar bobl  Cymru’n unig i’w orchfygu a’i ddinistrio. Yr unig obaith yw trwy gynghreirio â phobl oleuedig eraill o gyffelyb fryd ledled Prydain – yn Saeson, Albanwyr, Gwyddelod ac yn bobl sy’n hanu o bedwar ban byd.

Amcanion cyfansoddiadol

Os bydd ffin galed rhwng Prydain a’r Undeb Ewropeaidd, lle byddai hynny’n gosod amcanion cyfansoddiadol hirdymor Plaid Cymru? Mi fyddai’r nod traddodiadol o annibyniaeth neu statws cenedlaethol lawn o fewn yr Undeb Ewropeaidd yn digon anodd ei gyrraedd hyd yn oed o dan yr amgylchiadau mwyaf ffafriol. Gellir dweud i sicrwydd nad oes unrhyw amgylchiadau lle byddai pobl Cymru yn cefnogi unrhyw drefniant a fyddai’n golygu ffin galed rhwng Cymru a Lloegr.

Os yw’r lleiafrif o genedlaetholwyr Cymreig sy’n cefnogi Brexit yn credu mai fel talaith ymreolus mewn Prydain annibynnol y mae dyfodol Cymru, digon teg. Ond boed iddynt ddadlau hynny ar goedd yn lle twyllo’u hunain y byddai unrhyw beth sy’n debyg i annibyniaeth yn bosibl mewn amgylchiadau o’r fath.

Enw drwg i genedlaetholdeb?

Tybed hefyd nad ydi cenedlaetholdeb eithafol y Brexitwyr wedi rhoi enw drwg i genedlaetholdeb yn gyffredinol? Gwelwn yn barhaus ddydd ar ôl dydd mor llawn o ynfydrwydd diystyr yw cysyniadau fel ‘sofraniaeth’ ac ‘annibyniaeth’. Mae’r syniad y dylai fod gan ‘genedl’ neu ‘wlad’ benrhyddid i wneud beth a fyn yn gwbl hurt ym myd rhyng-ddibynnol yr 21ain ganrif. Y peth olaf y byddai ar neb eisiau ei weld fyddai cenedlaetholdeb Cymreig a fyddai’n ddrych o feddylfryd o’r fath.

Mi fyddwn i’n credu bod llawer o arweinwyr Plaid Cymru’n ymwybodol o rai o’r cymhlethdodau a’r deuoliaethau uchod, ond efallai’n gyndyn o’u trafod yn agored â’u haelodau.

Er i Jonathan Edwards grybwyll rhai materion o’r fath yn ei araith dydd Gwener, ar drywydd awgrymiadau eraill ganddo yr aeth sylw’r wasg.

Angen mwy o drafod

Yn sicr, mae angen i’r pleidiau gwleidyddol fod yn cynnal mwy o drafodaethau gonest ac agored gyda’u haelodau a’u cefnogwyr a’r cyhoedd yn gyffredinol yn lle disgwyl bod pawb yn fodlon ar wrando ar eu gwleidyddion yn llawn edmygedd.

Mae’n wir y cafwyd areithiau grymus gan Aelodau Cynulliad fel Rhun ab Iorwerth ac Adam Price. Eto i gyd, mae’n cymryd tipyn o ddychymyg i feddwl am Blaid Cymru yn llywodraethu pan maen nhw wedi colli dau o’u haelodau Cynulliad mewn llai na dwy flynedd.

O’r areithiau a glywais i ddydd Sadwrn, Dafydd Wigley oedd yr unig un a oedd yn ymddangos i mi fel rhywun a oedd yn llawn sylweddoli gwir natur yr argyfwng sy’n ein hwynebu fel cenedl. Calonogol oedd ei glywed yn dweud bod cynnal perthynas Cymru ac Ewrop yn bwysicach na dyfodol unrhyw blaid. Dywedodd hefyd mai hon yw’r frwydr bwysicaf iddo ei hymladd yn ystod ei holl yrfa faith fel gwleidydd.

Gallai ei gyfraniad yn Nhŷ’r Arglwyddi dros y flwyddyn neu ddwy nesaf brofi i fod  yn fwy dylanwadol na dim y gall arweinydd presennol Plaid Cymru ei gyflawni yng Nghaerdydd.

Erthyglau perthnasol

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.

Rheolau Cyfrannu | Nodi Camddefnydd

Rheolau Cyfrannu

Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.

Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.

Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360 yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.

Iawn

Nodi Camddefnydd

Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.

Iawn

Straeon poblogaidd