Os am herio twyll, rhaid herio Brexit hefyd

 

Llun parth cyhoeddus

Mae pwyllgor blaenllaw o Aelodau Seneddol yn galw am weithredu llym yn erbyn ‘gau newyddion’ ac am reolaeth dynnach ar wario mewn etholiadau. Ond geiriau gwag a rhagrith lwyr ar eu rhan fydd hyn oni fyddan nhw’n barod i herio dilysrwydd y bleidlais Brexit yn ogystal, yn ôl Huw Prys Jones

Mi fyddai pawb call yn cytuno â’r Aelodau Seneddol hynny sy’n dadlau bod twyll, celwyddau a chamddefnyddio cyfryngau cymdeithasol yn fygythiad i’r drefn ddemocrataidd.

Ofer fodd bynnag ydi sôn am unrhyw weithredu yn erbyn y bygythiadau hyn yn y dyfodol heb edrych ar yr hyn sydd eisoes wedi digwydd. Yn benodol ar y ffordd mae ‘gau newyddion’ wedi arwain at y llanast a achosir gan Brexit ar hyn o bryd.

I lawer ohonom, roedd celwyddau arweinwyr yr ymgyrch Brexit a’u hapêl at ragfarnau a hiliaeth yn ddigon o reswm o’r cychwyn dros beidio â bod â gronyn o barch tuag at ganlyniad y refferendwm.

Darllen rhagor »

Sut y mae gwella ‘Dyn Sâl’ y Deyrnas Gyfunol?

Diweddarwyd  

Llun: CC0

Yr Aelod Cynulliad, Simon Thomas, sydd am weld Cymru yn mynd i’r afael go iawn â llygredd awyr…

Mae gennym broblem fawr â llygredd awyr yng Nghymru. Er nad ydych yn medru ei weld na’i arogli – fel y gallwn i wrth gael fy magu yn yr un cwm â’r ffatri Phurnacite enwog yn yr 1980au – mae’n dal yr un mor beryglus.

Mae ansawdd awyr sydd gynnym yng Nghymru ymysg y gwaethaf yn y Deyrnas Gyfunol. Yng Nghaerdydd a Phort Talbot mae lefelau uwch o ronynnau nag yn Birmingham na Manceinion, a lôn ym Mwrdeistref Caerffili yw’r un fwyaf llygredig tu fas i Lundain. Ni yw dyn sâl y Deyrnas Gyfunol.

Nid dim ond Plaid Cymru sy’n dweud hyn – enillodd cyfreithwyr amgylcheddol Client Earth achos yn yr uchel lys yn Chwefror a orfododd Llywodraeth Cymru i weithredu. Cyfranna llygredd awyr at 2,000 o farwolaethau cynamserol bob blwyddyn.

Darllen rhagor »

Rhaid manteisio ar rwygiadau’r Sefydliad

Diweddarwyd am  

Llun parth cyhoeddus

Mae trafferthion y llywodraeth yn golygu nad oes gan wrthwynebwyr Brexit unrhyw esgus dros beidio manteisio i’r eithaf ar eu rhwygiadau, yn ôl Huw Prys Jones

Daw her Dafydd Wigley heddiw i Aelodau Seneddol ddangos rhywfaint o asgwrn cefn ar Ewrop ar adeg amserol, wrth i rwyg yng nghabinet Theresa May ddod yn fwyfwy amlwg.

I’r rheini ohonom sy’n gwrthwynebu Brexit ar sail diwylliannol a hunaniaethol yn ogystal ag economaidd, mae’n anodd ar un ystyr teimlo brwdfrydedd dros aros yn rhan o undeb tollau Ewrop fel diben ynddo’i hun.

Ar y llaw arall, byddai gorchfygu lluoedd Brexit ar y mater hwn yn fuddugoliaeth bwysig. Yn un peth, byddai’n peri digofiant iddyn nhw ac yn torri cryn dipyn ar eu hysbryd. Yn wir, mae wedi gorfodi rhai ohonyn nhw i gydnabod y gwir plaen y byddai bod yn rhan o’r undeb tollau heb lais ym mhenderfyniadau’r Undeb Ewropeaidd yn waeth na pharhau fel aelod llawn.

Darllen rhagor »

Pont Hafren – beth sydd mewn enw?

Diweddarwyd am  
Huw Webber

Huw Webber, cadeirydd Yes Cymru Colorado

Llun: Huw Webber

Yn dilyn yr helynt tros ailenwi Pont Hafren yn Bont Tywysog Cymru, mae’r gwrthwynebiad i’w deimlo mor bell i ffwrdd â thalaith Colorado yn yr Unol Daleithiau. Huw Webber, cadeirydd mudiad Yes Cymru Colorado, sy’n cefnogi annibyniaeth i Gymru, sy’n rhannu ei feddyliau…

Does dim angen eich bod wedi darllen stori fer Ursula K. Le Guin, The Rule of Names, i ddeall fod symboliaeth bwerus i enwi pethau. Does ond angen i chi ofyn i rywun sydd â ffugenw Cymraeg.

Ces i fy magu yng Nghymru’r 1980au, a gadael Cymru yn 1996, gan bleidleisio gyda fy nhraed. Ar y pryd, ro’n i’n teimlo nad oedd gobaith i’r diwylliant na’r economi, ac na fyddai’r wlad yn codi ar ei thraed eto gan ei bod yn wladwriaeth gaeth ac yn economi echdynnol oedd yn cael ei rheoli er lles y “DU” ac yn enwedig de-ddwyrain Lloegr. Ac fe ges i fy narbwyllo yn ystod rhai blynyddoedd o astudio a gweithio yn Lloegr y byddai rhagfarn wrth-Gymreig yn fy nal i’n ôl yn fy ngyrfa. Do’n i ddim am aros i hynny ddigwydd.

Yna, pan bleidleisiodd Cymru o blaid ymreolaeth ac yna dros bwerau deddfu sylfaenol, fe welais i’n raddol fod gobaith ar y gorwel. Hynny yw, dechreuadau uchelgais i wella economi Cymru ac i gryfhau ei diwylliant a’i hiaith. Wedi’r cyfan, mae gwledydd eraill wedi gwneud yn well gyda llai o adnoddau, ac mae gan Gymru gryn dipyn i’w gynnig (prifysgolion gwych, cynhyrchu ynni, economi’n seiliedig ar allforion – a gwarged masnach os tynnwch chi allan y pethau dibwynt fel Trident a rhyfeloedd wedi’u harwain gan Loegr).

Darllen rhagor »

Plaid Cymru: mae angen mwy o drafod agored

Diweddarwyd am  

Mae’n sicr fod llawer o aelodau blaenllaw Plaid Cymru wedi rhoi ochenaid o ryddhad ar ôl eu cynhadledd wanwyn yn Llangollen y penwythnos diwethaf.

Mi allasai fod wedi bod yn llawer gwaeth, ac o gofio’r gwrthdaro sydd wedi bod, mae’n debyg fod deuddydd digon tawel a digyffro yn gyfystyr â llwyddiant.

Roedd yn anochel mai gwaharddiad Neil McEvoy am 18 mis o Blaid Cymru a gafodd y prif sylw yn y dyddiau’n arwain at y gynhadledd. Ar y llaw arall, er gwaethaf adroddiadau o tua 40 wedi mynd i gyfarfod y ‘gwrthryfelwyr’ mewn tafarn yn y dref brynhawn Sadwrn, doedd dim llawer o arwyddion o bryder i’w weld ymysg y cynadleddwyr.

Y farn gyffredinol yw mai ei rwystro rhag bod yn ymgeisydd yn etholiad nesaf y Cynulliad yn 2021 oedd y cymhelliad y tu ôl i’w wahardd am 18 mis.

Darllen rhagor »

Canlyniad refferendwm yw unig ddadl cefnogwyr Brexit

Diweddarwyd  
Baner Jac yr Undeb gyda'r gair Brexit drosti

llun-CC0.jpg

Gydag un adroddiad ar ôl y llall yn dangos ffolineb Brexit, mae’n hen bryd i’r gwrthwynebwyr ddechrau ymwroli a tharo’n ôl o ddifrif, yn ôl Huw Prys Jones

Prin fod diwrnod yn mynd heibio na ddaw’r anawsterau sy’n codi yn sgil Brexit a’i ddrwg-effeithiau tebygol yn amlycach inni.

Gyda rhagolygon cynyddol o ddirywiad yn yr economi – yn enwedig mewn ardaloedd tlawd – a rhybuddion o effeithiau ffin galed ar heddwch bregus Iwerddon, mi fyddai disgwyl i fwy o’n harweinwyr godi llais dros ohirio a dangos rhyw fymryn o bwyll.

Synnwn i ddim fod mwyafrif pur sylweddol o’n gwleidyddion etholedig o’r farn fod Brexit yn syniad hollol wirion ac na ddaw unrhyw dda ohono.

Darllen rhagor »

Ydi Ffeministiaeth yn prysur droi’n Ffeministiaith?

Diweddarwyd  

Cefnogwyr Neil McEvoy yng nghynhadledd wanwyn Plaid Cymru, Mawrth 2017

Mae Ffeministiaeth wedi symud i gyfeiriad newydd a phur ofidus, yn ôl Aled Gwyn Job…

Yn ddi-gwestiwn, un o symudiadau pwysicaf ein cymdeithas dros y genhedlaeth neu ddwy ddiwethaf fu ffeministiaeth.

Cafodd ddylanwad mawr ar sawl elfen o fywyd preifat a chyhoeddus yma yng Nghymru fel pobman arall, gan lwyddo i ryddfreinio merched mewn pob math o feysydd a hynny mewn modd a fyddai y tu hwnt i ddirnadaeth cenedlaethau’r gorffennol.

Ac yn gyffredinol, bu’r datblygiadau hyn yn llesol i’r gymdeithas drwyddi draw ac yn dderbyniol a chymeradwy fel modd i wneud yn iawn am ganrifoedd lawer o anghyfartaledd sylfaenol rhwng dynion a merched. Ac, wrth gwrs, mae yna ffordd i’w thramwyo eto cyn cyrraedd cyfartaledd ystyrlon yn ein byd.

Darllen rhagor »

Angen trafodaeth lawn ac agored ar Wylfa Newydd

Diweddarwyd  

Safle Wylfa Newydd

Llun: Gwefan Horizon

Does dim hanner digon o graffu wedi bod ar y cwestiwn sylfaenol a oes angen atomfa newydd o gwbwl ym Môn, yn ôl Huw Prys Jones …

Ar yr olwg gyntaf mae Brexit a Wylfa Newydd yn ddau fater gwleidyddol cwbwl wahanol.

Eto i gyd mae mwy nag un peth sy’n eu cysylltu.

Y peth cyntaf sy’n gyffredin rhwng y ddau bwnc ydi bod y Sefydliad yn ceisio gwahardd a mygu lleisiau unrhyw rai sy’n barod i fynegi amheuaeth o ddoethineb y naill neu’r llall.

Darllen rhagor »

Trasiedi ac adwaith – plaid a gwlad ar brawf?

Diweddarwyd  
Llun agos o'i wyneb

Carl Sargeant

Llun oddi ar gyfrif Twitter Carl Sargeant

Aled Gwyn Job sy’n edrych yn ôl ar farwolaeth yr Aelod Cynulliad Carl Sargeant…

Roedd marwolaeth drasig Carl Sargeant yr wythnos hon yn un o’r digwyddiadau mwyaf sobreiddiol yn hanes diweddar Cymru.

Ond er mor dywyll ac erchyll oedd yr hanes, tybed hefyd nad oedd y drasiedi hon yn un o’r digwyddiadau trawsffurfiannol hynny sy’n aml yn gallu diffinio cenedl a hyd yn oed newid trywydd y genedl honno.

Dydi hi ddim yn ormodiaith i ddweud fod llawer iawn o bobl yma yng Nghymru – y tu hwnt i’r byd gwleidyddol arferol – mewn galar, sioc a dychryn wedi clywed am hunanladdiad Aelod Cynulliad Alyn a Glannau Dyfrdwy ddydd Mawrth diwethaf.

Darllen rhagor »

Y Brexit Cyntaf a William Salesbury – Ffydd Mewn Iaith

Diweddarwyd am  

Aled Gwyn Job sy’n bwrw golwg ar weledigaeth a phenderfyniad William Salesbury o Lansannan…

MAE’N anodd osgoi’r term Brexit y dyddiau hyn. Mae’n fater sydd yn llwyr ddominyddu’r gofod gwleidyddol ac economaidd presennol ac yn debyg o wneud hynny am beth amser i ddod.

Beth bynnag eich barn am y penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd y llynedd, byddai’r rhan fwyaf yn cytuno mai dyma’r her fwyaf i wynebu Gwledydd Prydain ers diwedd yr Ail Ryfel Byd yn 1945.

Mae ambell sylwebydd wedyn yn awgrymu bod rhaid mynd yn ôl i 1776 i ddarganfod daeargryn gwleidyddol cymharol – pan enillodd America ei rhyddid oddi wrth yr Ymerodraeth Brydeinig a’r Ymerodraeth honno wedyn yn colli 30% o’i masnach y flwyddyn ganlynol fel canlyniad i hynny.

Darllen rhagor »

Cyflwr Cymru – dylanwad datganoli?

Diweddarwyd  


Huw Edwards (Llun: S4C)
Ugain mlynedd ers refferendwm 1997, bu’r cynhyrchydd a chyfarwyddwr Iwan England ar daith gyda’r cyflwynydd Huw Edwards i gasglu barn a thrafod profiadau pobol Cymru …

Ugain mlynedd yn ôl, roeddwn i’n eistedd yn y tywyllwch mewn stafell anghyfarwydd yn gwylio’r teledu. Hon oedd fy noson gyntaf yn rhannu tŷ gyda saith o fyfyrwyr eraill. Roeddwn i eisoes wedi bwrw fy mhleidlais y bore hwnnw, ac wedi manteisio’n llawn ar gynnig £1 y peint ym mar yr undeb.

Roedd y manylion hyn, a chyffro rhyfeddol noson Medi 18, 1997, bron yn angof tan i mi eistedd i lawr a gwylio tapiau archif o ganlyniadau Refferendwm Datganoli Cymru. Mae’n anodd credu pa mor agos oedd y bleidlais i sefydlu’r Cynulliad. Ar raglen Saesneg y BBC, roedd Peter Snow wedi darogan taw ‘Na’ fyddai’n ennill, hanner awr yn unig cyn canlyniad tyngedfennol Caerfyrddin.

Roedd hi’n drawiadol sylwi faint o’r pynciau llosg a drafodwyd yn y stiwdio’r noson honno sydd yr un mor berthnasol heddiw: diffyg trafodaeth ar faterion Cymreig yn y cyfryngau; amheuaeth o’r de ymysg y gogs, ac o’r gogledd ymysg yr hwntws; a phroblemau economaidd enbyd mewn rhannau helaeth o’r wlad. Felly oes unrhyw beth wedi newid ers y noson dyngedfennol honno? Ydy Cymru’n cael ei llywodraethu’n well neu’n waeth?

Darllen rhagor »

BLOG: Gall ‘ARFOR’ roi bywyd newydd i’r Gorllewin

Diweddarwyd  


Adam Price (Llun: Plaid Cymru)
Siom cherw i lawer oedd gweld cynghorwyr lleol yn pleidleisio o blaid Cynllun Datblygu Mon a Gwynedd yn ddiweddar, a fydd yn gweld codi miloedd o dai newydd yn y siroedd hyn dros y blynyddoedd nesaf.

Serch hynny, mae’n ymddangos bod yr adwaith cyhoeddus ffyrnig i’r cynllun datblygu wedi sbarduno syniadau newydd a radical- ac mae hynny’n sicr i’w groesawu’n fawr.

Mae Adam Price, AC Plaid Cymru Dinefwr,  bellach wedi ail-gyflwyno ei syniad o sefydlu ARFOR- sef un awdurdod ar gyfer y Fro Gymraeg (Mon, Gwynedd, Ceredigion a Chaerfyrddin) – gyda chefnogaeth Aelod Cynulliad Arfon, Sian Gwenllian.

Byddai awdurdod o’r fath yn gyfrifol am gynllunio traws-sirol gan gynnwys datblygu economaidd a’r iaith gyda’i gilydd ar draws siroedd y Gorllewin. Byddai rhychwant ei ddyletswyddau hefyd yn cynnwys elfennau megis tai, amaeth, bwyd a diod, a thwristiaeth.

Darllen rhagor »

BLOG: ‘Gwynedd Gydymffurfiol’ yn dweud cyfrolau amdanom ni

Diweddarwyd  


BLOG: Aled Gwyn Job yn rhoi ei argraffiadau o gyfarfod cynhyrfus o Gyngor Gwynedd yng Nghaernarfon ddoe

Fel Cenedl Anghydffurfiol y daeth y Gymru fodern i fodolaeth i bob pwrpas.

Arweiniodd y Diwygiadau Methodistaidd yn y 18ed ganrif at ddeffroadau addysgol, cymdeithasol a gwleidyddol pell-gyrrhaeddol yn eu tro. Gan sefydlu’r syniad sylfaenol hwnnw fod gan Gymru ei meddwl ei hun ar bethau, oedd yn amlach na pheidio yn tynnu’n groes i’r meddylfryd Prydeinig. Mae’r gred honno wedi ei chynnal a’i hanwylo gan genhedlaethau o Gymry ar hyd y blynyddoedd hyd heddiw.

Ond tybed ai fel cenedl gydymffurfiol y dylid meddwl am y Gymru gyfoes mewn cymaint o ffyrdd gwahanol erbyn hyn? Boed hynny ar ffurf y gred hynod boblogaidd hon nad oes gan ffydd ddim oll i’w ddweud wrthym yn y byd cyfoes, neu’r dybiaeth gyffredinol nad oes llawer iawn y gallwn ni ei wneud mewn gwirionedd i newid trefn sylfaenol ein cymdeithas yma neu hyd yn oed o ran yr obsesiwn gyda thechnoleg newydd o bob math – mae cydymffurfio bellach fel petai wedi ein meddiannu ni gorff ac enaid.

Darllen rhagor »

BLOG: “Dydi Gwynedd ddim yn bwriadu codi 8,000 o dai”

Diweddarwyd  


Dafydd Meurig, y cynghorydd sy’n dal portffolio Cynllunio ar Gyngor Gwynedd, sy’n ymateb i’r dadlau diweddar am y Cynllun Datblygu ar y Cyd â Môn… 

Mae’r mater sydd gerbron y Cyngor Gwynedd fory (dydd Gwener, Gorffennaf 28) yn un o ddifrifol bwys. Dau opsiwn sydd, sef i fabwysiadu, neu beidio mabwysiadu, y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd. Bydd y penderfyniad yn gosod y polisiau i reoli datblygiadau yn y sir hyd at y flwyddyn 2026.

Mae’n hollbwysig bod aelodau etholedig Gwynedd yn gwneud eu penderfyniad yn seiliedig ar y ffeithiau ac ar dystiolaeth. Yn ddiweddar, mae llawer iawn wedi ei ysgrifennu a’i ddweud am y Cynllun sy’n gamarweiniol ar y gorau, ac yn aml yn anghywir.

Ymddiheuriadau os yw’r wybodaeth a ganlyn yn faith a thechnegol, ond mae’r CDLl ar y Cyd yn ddarn enfawr o waith, ac mae’n amhosib talfyrru i ychydig baragraffau broses sydd wedi cymryd chwe blynedd i’w chwblhau, ac wedi creu toreth o adroddiadau ac asesiadau.

Darllen rhagor »

BLOG: Dewis tyngedfennol i gynghorwyr Gwynedd

Diweddarwyd  

 
Fel awdur asesiad annibynnol ar effaith Cynllun Datblygu Lleol Gwynedd a Môn ar y Gymraeg, Huw Prys Jones sy’n trafod y dewis sy’n wynebu cynghorwyr Gwynedd ddydd Gwener nesaf

Pan ofynnodd cynrychiolwyr partneriaieth o fudiadau iaith yng Ngwynedd imi baratoi asesiad o effaith y Cynllun Datblygu Lleol ar y Gymraeg, y peth cyntaf a bwysleisiais wrthynt oedd y byddai’n adroddiad cwbl wrthrychol. Fyddwn i ddim wedi cytuno i gynhyrchu deunydd i gefnogi propaganda unllygeidiog yn erbyn codi unrhyw dai newydd, er enghraifft. Cytunodd y mudiadau – sef Dyfodol i’r Iaith, Cymdeithas yr Iaith, Cylch yr Iaith a Chanolfan Hanes Uwchgwyrfai – ar unwaith â hyn, gan mai lles y Gymraeg yn ei chadarnleoedd oedd eu blaenoriaeth hwythau hefyd.

Roedd hyn fis Chwefror y llynedd, pan oedd y mudiadau ynghyd â rhai cynghorwyr, yn galw ar Gyngor Gwynedd i gomisiynu asesiad annibynnol o’r fath eu hunain. Oedd, roedd swyddogion yr uned polisi cynllunio ar y cyd (o gynghorau Gwynedd a Môn) wedi gwneud rhyw fath o asesiad ieithyddol eu hunain, ond roedd hwn yn amlwg yn ddim byd ond ymgais dila i gyfiawnhau’r Cynllun Datblygu ar ôl ei wneud. Yn wir, roedd yr asesiad hwnnw mor gwbl druenus nes imi gysylltu â deilydd presennol y portffolio cynllunio yng Ngwynedd tra oedd y trafodaethau rhyngof a’r mudiadau yn mynd ymlaen. Gan geisio esbonio diffygion difrifol yr ‘asesiad’ hwnnw, cynigiais baratoi asesiad trylwyr, gwrthrychol ac annibynnol am bris hynod resymol i’r cyngor, asesiad y gallwn ei sicrhau hefyd y byddai gan yr ymgyrchwyr iaith hyder ynddo. Dw i’n dal i gredu y gallai cam o’r fath fod wedi gallu cyfrannu’n helaeth at osgoi’r drwgdeimlad a’r ddrwgdybiaeth sydd ymysg cynghorwyr Gwynedd heddiw.

Yn wyneb diffyg unrhyw ymateb gan y Cyngor, aeth y mudiadau ymlaen i gomisiynu’r asesiad gen i. Mae’r adroddiad a baratoais i’w weld yma.

Darllen rhagor »

BLOG: Cecru Conwy yn codi cwestiynau

Diweddarwyd  


Mae stori Gareth Jones yn dweud cyfrolau am wleidyddiaeth Cymru, meddai Aled G Job…

ROEDD y ffrae ynghylch pwy allai eistedd ar Gabinet Cyngor Conwy yr wythnos hon yn dweud cyfrolau am y ddeinameg wleidyddol yng Nghymru ar hyn o bryd.

Roedd y cyn-Aelod Cynulliad, Gareth Jones, yn gobeithio arwain clymblaid yn enw Plaid Cymru i redeg Cyngor Conwy a fyddai’n cynnwys aelodau Ceidwadol a’r Annibynnol.

Ond, fe benderfynodd Swyddfa Ganolog Plaid Cymru rwystro hyn rhag digwydd gan nad oedden nhw am weld Plaid Cymru yn cael eu gweld yn cyd-weithio gyda’r Ceidwadwyr yng Nghymru ar unrhyw gyfrif.

Darllen rhagor »

BLOG: Trafod Brexit – cyngor gan Winston Roddick

Diweddarwyd  


Winston Roddick
Ar ddechrau’r drafodaeth ar wahanu Prydain o’r Undeb Ewropeaidd, mae cyn-Gwnsler Cyffredinol Cymru yn ystyried y pynciau pwysicaf…

Mae dros 7,000 o bynciau i’w trafod a’u cytuno. Dyna yw maint y dasg sydd o’n blaen heddiw. Felly bydd rhaid blaenoriaethu a chanolbwyntio ar y materion pwysicaf.

Bydd y penderfyniadau ar y pethau mawr yn dylanwadu ar y drafodaeth ar y pethau llai.

Y man cychwyn yw bod yn glir ynglŷn â beth yw’r materion pwysicaf i’r Deyrnas Unedig. Yn ôl araith y Prif Weinidog rhai misoedd yn ôl, Brexit caled yw ei tharged.

Darllen rhagor »

Llanast! – effaith yr etholiad

Diweddarwyd am  


Jeremy Corbyn - ymgyrchu go iawn (Rwedland CCA4.0)
Mae pob plaid – a ninnau – yn wynebu cwestiynau anodd, ar ôl smonach anferthol Theresa May. Dadansoddiad Dylan Iorwerth o’r canlyniadau ….

Mewn gwahanol ffyrdd, mi allai pob plaid wynebu llanast ar ôl etholiad ddoe.

  • Mae’r Ceidwadwyr mewn trwbwl mawr, mae hynny’n amlwg. Paratowch am gyfnod hyll.
  • Mae gan Lafur hefyd gwestiynau anodd i’w hwynebu ac, yng Nghymru, mae ganddi gyfrifoldeb mawr.
  • Mi fydd rhaid i Blaid Cymru edrych eto ar ei chyfeiriad a’i thactegau.
  • A’r Democratiaid Rhyddfrydol? Beryg ei bod hi’n ta-ta ar ôl mwy na chanrif a hanner o gynrychioli Cymru yn San Steffan.
  • Tân siafins oedd UKIP o’r dechrau. Dim ond un marworyn bach sydd ar ôl, a hynny yn y Bae. Fyddai hi’n ddim syndod gweld rhai, os nad y cyfan, yn mynd yn ôl at y Torïaid.
  • Mi gafodd yr SNP ei gwasgu hefyd a’i chosbi am ganolbwyntio gormod ar refferendwm ac mi fydd rhaid iddi ailfeddwl a chwilio am dir cadarn eto.
  • Mae’r cwestiynau mwya’ er hynny i ni i gyd. Mi fydd oblygiadau o ran Brexit yn ysgytwol ac mi allai’r sgil effeithiau fod yn fawr ar sefyllfa fregus Gogledd Iwerddon.

A dyma nhw fesul un …

Y Ceidwadwyr – cawdel

Darllen rhagor »

BLOG: Etholiad wyneb i waered yw’r etholiad rhyfedd hwn

Diweddarwyd  


Mae pethau wedi newid cymaint i Theresa May, meddai Aled G Job…

Gyda dyddiau’n unig yn weddill bellach yn yr Etholiad Cyfredinol, teg fyddai mentro dweud mai dyma’r etholiad mwyaf bizarre a welwyd yng ngwledydd Prydain ers blynyddoedd mawr.

Ar gychwyn yr ymgyrch, roedd hi’n ymddangos mai cael ei choroni yn hytrach na chael ei hethol fyddai tynged y Prif Weinidog Theresa May, gyda’r polau piniwn yn rhoi mantais sylweddol o 20 pwynt a mwy iddi dros arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn.

Gyda May yn destun lled-addoliaeth cyhoeddus ar y dechrau o’i gymharu gyda’r canfyddiadau cyffredinol negyddol am Corbyn,  a 200 o’i aelodau seneddol ei hun yn wrthwynebus iddo, y dybiaeth gyffredinol oedd y byddai’r ymgyrch yn un o’r rhai mwyaf unochrog a diflas erioed. Ond, mae geiriau Harold Wilson ” A week is a long time in politics” yn ymddangos yn fwy proffwydol nag erioed heddiw.

Pwy mewn difri calon a ddychmygai y byddai Corbyn yn profi’n ymgyrchydd mor ddygn ac egniol ac yn ennill yr ymgyrch ei hun beth bynnag fydd y canlyniad dydd Iau nesaf?

Gyda ambell bol piniwn yn dangos fod rhai o’i bolisiau sylfaenol megis adfer addysg prifysgol rhad ac am ddim, gwladoli’r rheilffyrdd a chychwyn trethu pobl o’r newydd ar drothwy o £80,000 y flwyddyn yn hynod boblogaidd, mae Corbyn wedi llwyddo i gipio’r dychymyg cyhoeddus mewn modd na welwyd yng ngwleidyddiaeth Gwledydd Prydain ers 20 mlynedd a mwy.

Darllen rhagor »