Eli i ddolur tymor Morgannwg yw amynedd

Diweddarwyd am  

Mae ciniawau blynyddol Clwb Criced Morgannwg yng Nghaerdydd ac Orielwyr San Helen yn Abertawe’n arwydd sicr fod y tymor wedi dod i ben – a fydd fawr neb sy’n dilyn Morgannwg yn gweld ei eisiau chwaith ar ôl gorffen ar waelod y Bencampwriaeth a chael ymgyrchoedd siomedig yn y cystadlaethau undydd.

Mae’r fath achlysuron yn gyfle i fwrw golwg yn ôl, a dathlu a gwobrwyo’r sawl sy’ wedi rhagori gyda’r bat a’r bêl ar y cae. Ond prin yw’r achos i ddathlu eleni. Serch hynny, roedd y noson flynyddol yng ngwesty’r Towers eleni’n gyfle i gofio un o fuddugoliaethau mawr yn hanes y sir union chwarter canrif yn ôl wrth godi tlws y gynghrair undydd yn 1993.

A finnau’n fachgen bach wyth oed bryd hynny, byddai’r enwau’n llifo oddi ar fy nhafod (yn eu trefn fatio) – Hugh Morris, Steve James, Adrian Dale, Matthew Maynard, Viv Richards, Tony Cottey, Robert Croft, Roland Lefebvre, Colin Metson, Steve Watkin a Steve Barwick. Roedd yn dîm sefydlog o wyth chwaraewr ‘cartref’ (gan gynnwys y ddau Sais – na, Cymry anrhydeddus, Steve James a Matthew Maynard). Yr Iseldirwr Roland Lefebvre, wedyn, ynghyd â’r Sais o wicedwr Colin Metson ac un o fawrion India’r Gorllewin, Viv Richards yn rhoi sglein ar y cyfan.

Nos Lun yn y noson wobrwyo, wrth wylio fideo o’r fuddugoliaeth hanesyddol yng Nghaergaint, cawn fy atgoffa o bwysigrwydd dal ati i feithrin tîm o Gymry ifainc gan fanteisio ar brofiad ambell un o’r tu allan. Wedi’r cyfan, un o ddelweddau enwoca’r fuddugoliaeth yn ’93 oedd honno’n dangos Viv Richards a’r Cymro Tony Cottey yn rhedeg oddi ar y cae ar ddiwedd yr ornest – Cymro ochr yn ochr â thramorwr profiadol.

Doedd y cyfnod hwnnw ddim yn fêl i gyd. Roedd y 1980au’n ddegawd llwm dros ben cyn codi’r tlws undydd yn ’93 (a’r Bencampwriaeth bedair blynedd yn ddiweddarach). Roedd y tîm a ddioddefodd yn ystod yr ’80au ond a lwyddodd i danio dychymyg y genedl yn y ’90au yn cynnwys rhai o’r mawrion yn hanes y sir.

Gwersi i’w dysgu

Mae yma wers i dîm 2018 sydd wedi’i feirniadu mor hallt ar ôl ennill dim ond dwy gêm yn y Bencampwriaeth (y drydedd ymgyrch waethaf ers hollti’r Bencampwriaeth yn ddwy adran – 2005 a 2007 oedd y tymhorau mwyaf llwm gydag un fuddugoliaeth yn y naill a’r llall). A’r wers honno yw mai eli i bob dolur yw amynedd.

Roedd y buddugoliaethau yn y gynghrair undydd yn 2002 a 2004 hefyd yn dyst i bwysigrwydd chwaraewyr profiadol o gwmpas y to iau o Gymru. Roedd carfan Morgannwg yn frith o Gymry – Mark Wallace, Simon Jones, David Harrison, Ian Thomas, Ryan Watkins a Dan Cherry yn eu plith. Ond roedd yna brofiad hefyd gyda Matthew Maynard, Robert Croft, Steve James, Adrian Dale, Adrian Shaw, David Hemp, Darren Thomas, Keith Newell, Mike Powell, Andrew Davies, y Sais Alex Wharf a’r tramorwyr Michael Kasprowicz a Matthew Elliott.

Roedd llawer o’r diolch am asio’r cyfan i’r diweddar hyfforddwr John Derrick. Cafodd tlws Chwaraewr Ifanc y Flwyddyn ei roi yn ei enw i Kiran Carlson yr wythnos ddiwetha’, ac roedd tlysau i rai eraill o’r to iau hefyd – Jeremy Lawlor, Tom Cullen a Jack Murphy yn derbyn tlysau dros y ddwy noson.

Mae’n wir fod criw 2018 wedi tangyflawni’n ddifrifol. Ond ychydig iawn o fai sydd ar y chwaraewyr. Doedd dim profiad yn y tîm i gefnogi chwaraewyr fel Kiran Carlson, Connor Brown, Jack Murphy, Nick Selman, Jeremy Lawlor a Tom Cullen.

Roedd Morgannwg yn anlwcus o golli profiad Shaun Marsh (oherwydd anaf) ac Usman Khawaja (oherwydd ymrwymiadau rhyngwladol), ar ôl iddyn nhw ddangos ryw fflach o’r hyn oedden nhw’n gallu’i gyflawni. Doedd dewis yr holl chwaraewyr ifainc gyda’i gilydd fyth yn fwriad – unig ganlyniad hyn oedd ychwanegu at eu rhwystredigaeth a’u diffyg hyder.

Felly wrth ddyfarnu’r gwobrau nos Lun, roedd gan yr Orielwyr benderfyniadau anodd. Dim ond unwaith yn hanes y gwobrau y cafodd y brif wobr ei hatal, a hynny yn 1981. Yn y pen draw, roedd perfformiadau’r bowliwr Timm van der Gugten, er iddo gael ei anafu yn ystod y tymor, yn ddigon i fod yn deilwng o wobr Chwaraewr y Flwyddyn y clwb a’r Orielwyr.

Cipiodd 43 o wicedi, gan gynnwys saith am 42 yn erbyn Swydd Caint, gan gyrraedd 100 o wicedi dosbarth cyntaf. Cipiodd 19 wiced mewn gemau ugain pelawd, gan adeiladu record o bartneriaeth wrth fatio gyda Chris Cooke. Ar ben hynny, tarodd 60 heb fod allan, sgôr gorau’i yrfa mewn gemau dosbarth cyntaf, yn erbyn Swydd Gaerloyw.

Y cwestiwn mawr – beth nesa’?

Tra bod y chwyddwydr nawr yn symud oddi ar y perfformiadau ar y cae a thuag at yr adolygiad mae’r prif weithredwr Hugh Morris wedi galw amdano, mae’n annhebygol y bydd e’n parhau’n Gyfarwyddwr Criced hefyd y tymor nesa’.

Yr awgrym yw y dylai’r swydd honno fynd i rywun allanol. Mae amheuon hefyd am bwy fydd yn parhau ar staff hyfforddi Robert Croft – staff sy’n cynnwys Matthew Maynard, Steve Watkin, Adrian Shaw a David Harrison. Mae calibr a phrofiad y rheiny’n gwneud y methiant eleni gymaint yn fwy siomedig.

Mae pedwarawd o Gymry – Connor Brown, Jack Murphy, Owen Morgan a Kieran Bull – eisoes wedi ymestyn eu cytundebau. Ac roedd hwb ychwanegol wrth i Craig Meschede ymestyn ei gytundeb yntau.

Ond mae dirfawr angen mwy o brofiad, a’r disgwyl yw y bydd Morgannwg yn cyhoeddi o leiaf un chwaraewr newydd dros yr wythnosau i ddod.

Pa un a fydd Shaun Marsh yn dychwelyd sy’n gwestiwn arall, o ystyried ei fod e’n dechrau sicrhau ei le yn nhîm Awstralia. Gallai Stephen Cook, y batiwr 35 oed o Dde Affrica fod yn opsiwn ond roedd ei berfformiadau yn ystod cyfnod byr gyda’r sir ddiwedd y tymor yn awgrymu y byddai’n risg sylweddol.

Beth bynnag sy’n cael ei benderfynu ar y cae ac oddi arno cyn dechrau tymor 2019, dylai Clwb Criced Morgannwg a’r cefnogwyr gofio’r hyn ddaeth â llwyddiant iddyn nhw yn y gorffennol. Mae yma botensial, ond dyfal donc…

Erthyglau perthnasol

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.

Rheolau Cyfrannu | Nodi Camddefnydd

Rheolau Cyfrannu

Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.

Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.

Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360 yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.

Iawn

Nodi Camddefnydd

Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.

Iawn

Straeon poblogaidd