Hanner canrif ers chwech chwech Garfield Sobers yn Abertawe

Diweddarwyd  
Cerflun yn ei ddangos yn taro ergyd efo'r bat

Cerflun o Gary Sobers yn Barbados

Llun: Winton Edghill CCA3.0

Awst 31, 1968. Dair wythnos wedi’r fuddugoliaeth dros Awstralia – am yr ail waith mewn pedair blynedd – roedd tîm criced Morgannwg yn y llyfrau hanes unwaith eto.

Swydd Nottingham oedd yr ymwelwyr â chae San Helen yn Abertawe, ar gyfer gêm ym Mhencampwriaeth y Siroedd. Ymhlith tîm yr ymwelwyr roedd nifer o gricedwyr rhyngwladol – Brian Bolus, Deryck Murray ac, o bosib, y chwaraewr gorau yn hanes y gêm, Garfield St Auburn Sobers.

Roedd y batiwr llaw chwith o ynys Barbados ar fin cyflawni rhywbeth nad oedd unrhyw gricedwr arall yn hanes y gêm wedi’i gyflawni o’r blaen – a rhywbeth na fyddai, ac na allai, fyth gael ei guro. Ac fe fyddai’r bowliwr – Malcolm Andrew Nash o’r Fenni – yn cael ei anfarwoli am y rhesymau anghywir.

Bowliwr lled-gyflym oedd Malcolm Nash fel arfer, ond wrth i Swydd Nottingham geisio rhediadau cyflym er mwyn cau’r batiad, fe wnaeth y bowliwr droi at sbin. Ac roedd e ar fin bowlio at y batiwr byd-enwog am y tro cyntaf yn ei yrfa.

Y belen gyntaf

Yn ôl Sobers, roedd e’n benderfynol o daro’r belen gyntaf oddi ar y cae, doed a ddêl. Roedd dwy ffordd o wneud hynny – ar hyd y llawr am bedwar, neu’n uchel i’r awyr am chwech.

Pelen syth oedd hi, ac fe ddewisodd y batiwr yr ail ddull o waredu’r bêl. Fe dynnodd e’r bêl, ac mi hwyliodd dros ben y maeswyr ar ochr y goes, a tharo wal agosaf tafarn y Cricketers.

Yr ail belen

Mae Malcolm Nash yn cyfaddef ei fod e’n benderfynol o fowlio union yr un belen yr ail waith yn hytrach na newid ei dactegau. “Oni bai eich bod yn bowlio at y wiced, dydych chi ddim yn mynd i gael rhywun allan” oedd rhesymeg y bowliwr. Doethineb neu ffolineb, tybed?

Roedd yr ergyd yn fwy sgwâr ar ochr y goes, ond yr un oedd y canlyniad. Hwyliodd y bêl dros y ffin a thros y wal. Dau allan o ddau.

Y drydedd

Roedd Malcolm Nash yn dal i gerdded yn ôl o ymyl y sgwâr ar ôl casglu’r bêl pan ddechreuodd e redeg i mewn i fowlio’r drydedd belen. Roedd y belen yn fwy syth y tro hwn, wrth i’r bowliwr geisio osgoi bowlio ar ochr y goes. Ond yr un oedd y canlyniad, wrth i’r bêl gael ei tharo’n syth ar yr ochr agored ac i ganol y dorf. Tri allan o dri.

Y bedwaredd

Ar ôl tair ergyd am chwech, aeth y capten Tony Lewis at ei fowliwr a chynnig y cyfle iddo ddychwelyd i’w ddull arferol o fowlio – pelenni cyflym – yn hytrach na sbin. Ond doedd Malcolm Nash ddim yn barod i ildio. “Gad e gyda fi” oedd ei ymateb.

Ond roedd y bowliwr yn dechrau edrych yn fwy ansicr a nerfus wrth geisio penderfynu ble i fowlio’r bedwaredd belen.

Pelen fer oedd ei benderfyniad, ac i gyfeiriad coesau’r batiwr. Ond roedd ganddo fe ddigon o le i droi ei fat tuag at ochr y goes a bachu’r bêl dros y ffin ac i ganol yr eisteddle. Pedwar allan o bedwar.

Y bumed

Pelen syth, ond ychydig yn arafach, tuag at y ffon agored oedd y bumed, wrth i’r bowliwr geisio addasu ei linell unwaith eto.

Fe weithiodd i ryw raddau, wrth i’r batiwr gam-ergydio am y tro cyntaf yn ystod y belawd, a darganfod dwylo’r maeswr Roger Davis ar y ffin. Roedd hi’n ymddangos fel pe bai dyfalbarhad y bowliwr wedi talu ar ei ganfed. Hyd nes i’r maeswr lanio dros y rhaff.

Y flwyddyn gynt – a’r flwyddyn ganlynol – fe fyddai llwyddo i reoli’r bêl, er ei fod wedi cwympo dros y rhaff, yn golygu ei fod e wedi sicrhau daliad llwyddiannus. Mewn geiriau eraill, fe fyddai Sobers wedi bod allan. Ond am dymor 1968 yn unig, roedd glanio dros y rhaff â’r bêl yn eich dwylo’n golygu chwech rhediad i’r batiwr. Pump allan o bump.

Y chweched – y foment hanesyddol

Wedi digalonni fymryn erbyn hynny, penderfynodd Malcolm Nash mai’r unig opsiwn oedd dychwelyd i’w ddull arferol o fowlio. Ond ac yntau hefyd yn droellwr, roedd Gary Sobers wedi rhagweld y newid cyflymdra, ac roedd yn barod am y belen olaf.

Ond pelen lac oedd hi yn y pen draw, ac mi fownsiodd hanner ffordd i lawr y wiced gan roi digon o le i’r batiwr ei tharo hi ar ochr y goes. Diflannodd y bêl hanner ffordd i lawr y stryd gyfagos.

Wrth lwc – a thrwy gyd-ddigwyddiad llwyr – roedd camerâu’r BBC yn digwydd bod yn San Helen y diwrnod hwnnw, a chafodd y belawd hanesyddol, ynghyd â sylwebaeth Wilf Wooller, ei dangos ar raglen Grandstand y diwrnod canlynol.

 

Erthyglau perthnasol

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.

Rheolau Cyfrannu | Nodi Camddefnydd

Rheolau Cyfrannu

Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.

Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.

Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360 yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.

Iawn

Nodi Camddefnydd

Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.

Iawn

Straeon poblogaidd