Asia Rybelska sy’n adolygu cyfrol ddiweddaraf Mihangel Morgan.

Yn ei lyfr ‘Kate Roberts a’r Ystlum – A Dirgelion Eraill’, mae Mihangel Morgan yn rhoi cyfle unigryw i’w ddarllenwyr ymuno ag ef ar ei daith o gwmpas hanes a diwylliant Cymru. Ond, fe wneir hyn mewn byd sydd ddim yn gyffredin, sydd o safbwynt arall, ac sydd weithiau’n hollol annisgwyl.

Mae’r gyfrol yn cynnwys sawl stori fer sy’n disgrifio ysbaid amser o thua degfed ganrif i’r amser presennol. Fe gymysgir y cyfnodau ar y ffordd, ac mae amser yn ymlusgo yn ôl ac ymlaen, felly mae rhaid i ddarllenwyr fod yn ofalus wrth ddyfalu am ba gyfnod maent yn darllen ar adegau.

Amrywiaeth ffynonellau

Wrth ysgrifennu, dydy Mihangel Morgan ddim yn dibynnu ar ei ddychymyg yn unig.

Mae’n seilio ei straeon byr ar fotiffau sy’n bresennol mewn llenyddiaeth Gymraeg o hyd, bywydau pobol enwocaf Cymru, a hefyd gweithiau awduron eraill (felly mae’n creu’r fath ddychan penigamp sy’n llawn synnwyr digrifwch).

Hefyd, mae’r awdur yn gosod rhai o’r straeon yn y darlun ehangach, a dangos sut y chwaraeodd pobol Cymru ran mewn digwyddiadau o bwys rhyngwladol.

Cymry a’r byd tu allan

Wrth imi ddarllen, roedd fy emosiynau’n symud o ddifrifwch i ddigrifwch, yn adlewyrchu sut oedd hanes Cymru’n troi a throelli yn y llenyddiaeth. Ond yn y diwedd, dwi’n credu mai’r ochr drist sy’n gorchfygu,  sy’n gwneud y llyfr yn un chwerw-felys.

O ran chwerwder y straeon, mae Mihangel Morgan yn portreadu Cymry fel pobol dlawd sy’n ceisio ennill eu plwyf tu hwnt i Gymru. Mae rhai yn llwyddo, fel yr actores Janet Jayne o stori “Janet Jayne DBC”, ond yn amlach na pheidio, methu maent oherwydd eu tlodi a diffyg dealltwriaeth o’u hiaith.

Er enghraifft, mae’r awdur yn disgrifio sut y camgyhuddwyd un ddynes o hudo dyn dieithr drwy siarad dim ond Cymraeg. Hefyd, yn un o straeon, roedd pobol yn meddwl bod y prif gymeriad yn wallgof oherwydd ei fod yn siarad Cymraeg.

Synnwyr digrifwch

Fodd bynnag, mae yna ochr ysgafnach i’r storïau. Yn fy marn i, roedd ‘Gwir yn Erbyn y Byd’ yn un o straeon orau’r gyfrol. Er imi orfod gwneud ymdrech enfawr wrth ddarllen (gan fod Mihangel Morgan yn sillafu’n seinegol gan ddefnyddio tafodiaith y De) a chael fy nrysu â ffurfiau fel ishta, mynte neu whilia Cwmrêg, cefais dipyn o hwyl a sbri wrth ddarllen am gamddealltwriaeth rhwng pobol y Gogledd a’r De, a hefyd gan ddeialogau fel:

“[…] ni’n dylwyth i’r ddou a ‘na shwt o’n nhw’n gallu cinginaci, iefe?’

‘Cynganeddu’

‘ `Na fe. Fi ddysgws nhw’ ”

O ran pobol adnabyddus sy’n dod o Gymru, mae Mihangel Morgan yn disgrifio Saunders Lewis, Caradog Pritchard, Kate Roberts a Dafydd ap Gwilym. Ond mae darllenwyr yn eu hwynebu mewn sefyllfaoedd anarferol.

O’r casgliad o straeon, fy hoff gymal oedd stori fer am Dafydd ap Gwilym, ond nid y bardd ei hun oedd yn adroddwr, ond ei was ifanc.

Roeddwn wrth fy modd wrth ddarllen sut oedd Dafydd ap Gwilym yn creu ei gerddi a sut oedd yn Dioddef ar y ffordd. Roedd hyn yn fy atgoffa o feirdd pwdlyd Gwlad Pwyl o’r cyfnod rhamantus!

Safbwynt allanol

Gwnaeth darllen y llyfr hwn i mi ddifaru nad ydw i’n fwy cyfarwydd â’r delweddau cyffredin sydd, mwy na thebyg, yn bresennol yn meddwl pob Cymro a Chymraes.

Yn anffodus, dydw innau ddim yn rhannu hynny felly ar adegau roedd yn anodd imi ddilyn y plot yn iawn, a dwi’n eithaf sicr nad ydw i wedi deall popeth fel y byddai’r awdur yn ei ddymuno!

Ond er gwaethaf hynny, dwi’n credu bod y llyfr yn addas ar gyfer pobol sydd heb yr wybodaeth drwyadl o hyn hefyd, gan fod yr ychydig ro’n i’n gwybod yn ddigon imi fwynhau’r gyfrol.

Cyhoeddwyd ‘Kate Roberts a’r Ystlym – A Dirgelion Eraill’ gan wasg Y Lolfa.

Mae Asia Rybelska yn fyfyrwraig ym Mhrifysgol Poznan yng Ngwlad Pwyl sy’n treulio’r haf ar leoliad gyda chwmni Golwg.