Siân James (Llun o wefan swyddogol Siân James)
Y diweddaraf o hunangofiannau Cyfres y Cewri yw Siân James. Owain Schiavone fu’n darllen y gyfrol yn ddiweddar…

Cefais fy siomi ar yr ochr orau gan yr hunangofiant diweddaraf yng Nghyfres y Cewri, Gwasg Gwynedd mae’n rhaid dweud. Er na ydw i wedi bod yn ddilynwr brwd o yrfa gerddorol Siân James, dwi’n ymwybodol iawn o’r hyn mae wedi’i gyflawni’n gerddorol.

Er bod cerddoriaeth yn rhan ganolog o’i bywyd, ac yn thema gyson trwy dudalennau ei hunangofiant, nid dyma sy’n aros yn y cof ar ddiwedd darlleniad o hanes ei bywyd.

Mae’r disgrifiad ar gefn y clawr yn dechrau gyda’r geiriau ‘hunangofiant eithriadol onest’ a phrin y gellid dadlau gyda’r datganiad hwnnw. Mae’r gantores yn agored iawn ac yn ddigon di-flewyn-ar-dafod mewn rhannau o’r gyfrol hon.

Trafod teulu

Mae’n hunangofiant ddigon traddodiadol o ran yr arddull – gan ddilyn trefn gronolegol. Cyn dechrau sôn am ei bywyd hi, mae Siân yn gosod ei hun mewn cyd-destun teuluol trwy adrodd peth o hanes teulu ochr ei mam a’i thad.

Mae’n amlwg bod ymchwilio i’r hanes hwnnw wedi bod yn brofiad diddorol iddi, a’i bod wedi gwneud cryn feddwl a gofyn cwestiynau am yr hyn a ddarganfu. Yn wir mae’n deimladwy ac emosiynol iawn  wrth drafod ei theulu o’r cychwyn cyntaf ac mae hyn yn nodwedd amlwg sy’n parhau trwy gydol y gyfrol.

Wrth fynd ymlaen i adrodd hanes ei phlentyndod, mae’n dod yn amlwg yn fuan iawn bod ei mam wedi bod yn ddylanwad mawr ar Siân. Mae’n sôn llawer am y profiadau a gafodd wrth deithio gyda’i mam wrth iddi hi fynd o gwmpas ei gwaith fel nyrs ardal, ac mae’n siŵr mai oddi wrth ei mam mae hi wedi etifeddu ei gonestrwydd gan ei bod hithau’n strêt iawn ac yn ei dweud hi fel y mae hi. Wrth i’r gyfrol fynd ymlaen mae sawl cymal teimladwy iawn wrth iddi drafod ei mam a dirywiad ei hiechyd.

Ar y cyfan mae’n amlwg ei bod wedi cael plentyndod hapus iawn, ond dwi’n cael y teimlad bod un tristwch mawr mae’n teimlo hyd heddiw sef y profiad o weld ei brawd yn cael ei yrru i ysgol breswyl oherwydd dyslecsia. Mae’n anodd i mi, a sawl darllenydd arall mae’n siŵr amgyffred sut deimlad fyddai hynny i frawd a chwaer ifanc iawn.

Gyrfa

Mae’n ddifyr gweld sut y datblygodd gyrfa Siân o oedran cynnar iawn, dechrau fel llawer o berfformwyr Cymreig ar lwyfan eisteddfodau lleol, arbrofi gydag offerynnau amrywiol, ffurfio grŵp canu gyda chriw o ffrindiau cyn dechrau perfformio ar ei phen ei hun.

Yna mae hanes bywyd coleg a’i phrofiadau gyda’r grŵp Bwchadanas ac mae’n siŵr fod rhai o’r rhain yn taro tant gyda nifer o grwpiau roc heddiw, yn ogystal â phreswylwyr JMJ dros y blynyddoedd.

Ysbrydol

Mae datblygiad gyrfa gerddorol ac actio Siân yn gwneud darllen difyr, ond efallai mai’r peth mwyaf diddorol trwy gydol y gyfrol yw’r profiadau ysbrydol  mae hi wedi eu cael. Bydd llawer yn diystyru’r math yma o beth mae’n siŵr, ond heb os mae’n gwbl ddiffuant wrth adrodd am y digwyddiadau rhyfedd yma ac yn amlwg yn credu’n gryf bod pethau wedi digwydd am reswm.

Dyma hunangofiant darllenadwy iawn felly ac mae’n ticio’r bocs pwysicaf un gydag unrhyw hunangofiant i ddarllenwr, sef y teimlad eich bod yn mynd o dan y croen ac yn dod i adnabod y person go iawn.