Leonard Cohen
Ciron Gruffudd fu’n gweld y bardd o Montreal yn canu am dair awr neithiwr…

Gwta fis wedi i mi lusgo fy nghariad goddefgar i weld criw o hen ddynion yn perfformio ar faes yr Eisteddfod, neithiwr oedd y noson yr oedd yn rhaid i mi dalu’r ffafr yn ôl a mynd â hi i weld un hen ddyn yn canu.

O hyn ymlaen fe fydda i’n cyfeirio at fy nghariad fel Lady Midnight a bydd y rhai ohonoch chi sy’n gyfarwydd â gwaith Leonard Cohen yn  deall y cyfeiriad hwnnw’n iawn. Doeddwn i ddim tan neithiwr.

Gwell i mi esbonio rŵan na chefais i fy magu yn sŵn “y bardd o Montreal”, chwadal Bryn Fôn, ac er mod i’n gyfarwydd ag ychydig o’i waith – dim jyst fersiwn Brigyn o ‘Hallelujah’ –  dw i erioed wedi syrthio dan ei swyn.

Ond, gyda meddwl agored ac yn gwisgo siwt corduroy brown er mwyn mynd i ysbryd y noson (gan mai dyna oeddwn i’n ei ddychmygu y byddai ffans Leonard Cohen yn gwisgo) i ffwrdd a ni i’r Motorpoint Arena yng Nghaerdydd.

Argraff gynnar

Ar ôl cerdded mewn i’r neuadd, y peth cyntaf wnaeth fy nharo oedd amrywiaeth y gynulleidfa. Oedd, roedd y rhan fwyaf ohonyn nhw’n hŷn ac yn edrych yn barchus, ond roedd yno hefyd pyncs gyda’u gwalltiau lliwgar, rocars yn eu siacedi lledr ac un llanc gweddol ifanc a diddeall yn ei siwt corduroy brown. Testament, am wn i, i apêl oesol Leonard Cohen.

Wrth fynd heibio un o’r stondinau niferus oedd yn gwerthu rwtsh drud, agorodd fy ngheg led y pen ac mi nes i ryw sŵn rhyfedd o gefn fy ngwddf. Trodd Lady Midnight i edrych i’r un cyfeiriad â mi. Gofynnodd:  “Ar be ti’n edrych? Pwy ti ‘di weld?” Ddudis i ddim byd. Llai na thair troedfedd oddi wrthi, ac yn edrych i fyw ei llygaid oedd y DJ Drwm a Bas enwog, High Contrast. Dyna fy noson i wedi ei gwneud a dyna flas i chi o fy chwaeth arferol i mewn cerddoriaeth.

Het porc pei

Wedi cael ein perswadio, rhywsut, gan y ddynes tu ôl i’r bar i brynu potel o win yn hytrach na gwydr, a dod o hyd i’n seddi, dyma’r dyn ei hun yn cerdded ar y llwyfan yn ei siwt ddu a het porc pei.

A bod yn onest, chwipiodd yr hanner cyntaf heibio gan fod fy sylw i wedi ei hoelio ar y dyn oedd yn eistedd drws nesa i mi a’i benwisg. Y cwestiwn oeddwn i’n ei bendroni oedd pam, o gael y dewis o unrhyw wig gydag unrhyw steil gwallt yn y byd, y byddai rhywun yn dewis yr un fath o steil sydd gan fy nhad mewn lluniau ysgol wedi i’w fam roi powlen am ei ben a thorri o’i gwmpas gyda siswrn di-fin?

Ta waeth, roedd yr hanner cyntaf yn slic. Mae’r sioe ei hun yn beiriant sydd wedi ei iro’n dda ac mae pawb ar y llwyfan yn gwybod beth maen nhw’n ei wneud. Gyda degawdau o ganeuon o dan ei felt, mae Cohen yn amlwg wedi ceisio cysoni’r sioe drwy greu trefniadau gwahanol i’w ganeuon ond sydd â’r un steil â gitâr Sbaeneg swynol Javier Mas yn cario’r cyfan. Er bod hynny’n gweithio i rai sydd yn adnabod y caneuon, byddai ychydig o amrywiaeth yn y sŵn wedi bod yn well i amatur fel fi.

Uchafbwynt

Dechrau’r ail hanner oedd yr uchafbwynt wrth i Leonard Cohen sefyll ar ben ei hun ar y llwyfan o flaen allweddellau a thair merch yn canu lleisiau cefndir i ‘Tower of Song’. Yna daeth yr hits i gyd mewn rhes – ‘Chelsea Hotel’, ‘Suzanne’, ‘So Long, Marianne’ ac, wrth gwrs, ‘Hallelujah’.

Mae’n anodd peidio cael eich cyfareddu gan ei ganeuon, a hyd yn oed pan nad o’n i’n adnabod y gân, roedd gwrando ar y geiriau yn rhoi gwefr i mi dro ar ôl tro.

Mae llais Leonard Cohen hefyd wedi mynd yn ddyfnach wrth i’r blynyddoedd fynd yn eu blaenau, ac roedd yn taro ambell nodyn y byddai baswyr gorau Corau Meibion Cymru’n cael trafferth eu cyrraedd, sy’n ychwanegu at naws y perfformiad.

Encore

Ar ddiwedd y sioe, daeth ymlaen dair gwaith i ganu rhagor o ganeuon adnabyddus fel ‘Dance Me To The End Of Love’ a ‘First We Take Manhattan’. Erbyn y diwedd roedd wedi bod yn perfformio am dros dair awr. Dim yn ddrwg am ddyn sy’n tynnu at ei 80.

Roedd Lady Midnight wedi ei magu â chaneuon Leonard Cohen yn drac sain i’w bywyd ac felly collwyd ambell ddeigryn ganddi yn yr ail hanner. Fe wnaeth hi grio yn gig Edward H Dafis hefyd, ond roedd hynny am resymau gwahanol.

A dyna beth fydda i’n ei gofio’n fwy na dim arall o’r noson. Gallu Leonard Cohen i swyno’r gynulleidfa – hen ac ifanc, ffans neu ddim. Does ryfedd bod y dyn wedi cael ei siâr o ferched tros y blynyddoedd os oedd o’n gallu hudo llond neuadd o bobl yng Nghaerdydd heb hyd yn oed tynnu ei het.

Fyswn i’m yn dweud fy mod i wedi troi’n ffan tros nos, ond mae dau beth yn sicr. Yn gyntaf, mi fydda i’n talu rhagor o sylw ac yn gwrando mwy arno o hyn ymlaen. Ac yn ail, wna i fyth wisgo siwt corduroy ar noson braf o haf eto.