Dathlu cydraddoldeb ac amrywiaeth y Brydain fyd-eang

Tywysog Harry a Meghan Markle ar achlysur cyhoeddi eu dyweddïad, Tachwedd 2017
Llun: Dominic Lipinski/PA Wire
Adroddiad o Windsor gan ohebydd brenhinol golwg360 …
Mae strydoedd Windsor yn llawn llawenydd a gorfoledd wrth i’r pâr brenhinol, Dug a Duges Sussex bellach, gael eu cyflwyno i’r torfeydd teyrngar a diolchgar.
Ar Sadwrn hyfryd o Fai mae’r dref frenhinol hon yn Swydd Berk yn edrych ar ei gorau, a’r golygfeydd fel petaent allan o stori dylwyth teg.
Yn ei gwisg ddifrycheulyd o sidan llaes at ei thraed a llathenni’n rhagor, mae’r Dduges wedi bod yn swyno’r miloedd gyda’r un rhwyddineb ag yr enillodd galon ei thywysog.
Mae miloedd fel petaent yn ymylu ar fod mewn perlewyg wrth iddynt ei chael hi’n anodd dygymod â mawredd yr achlysur.
Roedd y briodas yn llawer mwy nag uniad rhwng y priodfab a’r briodferch, gan ei bod hefyd yn tanlinellu undod cenedl gyfan ar drothwy trobwynt cyffrous yn ei hanes.
Roedd hefyd yn ddrych o gydraddoldeb ac amrywiaeth y Brydain fodern ar waith.
Drwy groesawu merch o dras cymysg ac annibynnol ei barn i’w phlith, mae’r Frenhiniaeth wedi profi ei fod yn sefydliad agored i bawb waeth beth fo’u hil na’u cefndir na’u crefydd na lliw eu croen (ac yn y blaen).
Mae’n tanlinellu’r ffaith fod gennym bellach Frenhiniaeth sydd â chydraddoldeb ac amrywiaeth yn rhan hanfodol ohoni.
Mae arwyddocâd dyfnach fyth i’r teyrngarwch a chwifio baneri heddiw o gofio bod Prydain ar fin adennill ei hannibyniaeth a chymryd ei lle yn dalsyth ymhlith cenhedloedd eraill y byd.
Lai na dwy flynedd ar ôl dangos bod ganddi hi’r hyder a’r asgwrn cefn i sefyll ar ei thraed ei hun, gwelwn fod ein gwlad yn fwy unedig nag erioed.
Mae gorfoledd yn y dorf yn brawf o ffydd ein pobl i geisio cymod â’n teg orffennol pan oedd gennym ymerodraeth yn rheoli’r tonnau ac yn ymestyn i bedwar ban byd.
Ac wrth i’n gwlad fod ar drothwy gwireddu ei huchelgais o hunan-lywodraeth lawn y tu allan i Ewrop, gwelwn fod dyfodol hir a disglair i’r Brydain fyd-eang newydd.