RSS

Golwg360

MwyCau 

Trebannws: “Roedd pawb yn chwarae o fore gwyn tan nos”

Cyhoeddwyd Hydref 15, 2017 gan Criced.

Tagiau: arwel thomas, bleddyn bowen, Justin Tipuric, Robert Jones, Trebannws


Mae pentref bach Cymraeg Trebannws yng Nghwm Tawe am gynhyrchu rhai o sêr y byd chwaraeon yng Nghymru ac yn eu plith mae’r cyn-gricedwr Greg Thomas.

Fe ddychwelodd i Gymru o’i gartref yn Northampton yr wythnos ddiwethaf ar gyfer noson arbennig yn Amgueddfa Griced Cymru CC4 yng Nghlwb Criced Morgannwg gydag un arall o gyn-gricedwyr y sir, Winston Davis o India’r Gorllewin.

Mae e’n un o ddim ond dau Gymro Cymraeg, ynghyd â Robert Croft, sydd wedi chwarae criced dros Loegr, ac fe ddisgrifiodd ei deimladau am hynny wrth golwg360 ar ddiwedd y noson.

“Wy bob amser yn dweud bo fi wedi chwarae dros Loegr tra bo fi’n cynrychioli ’ngwlad [Morgannwg]. Roedd yn destun balchder mawr i fi, fel Cymro Cymraeg, i gael chwarae dros Loegr.”

Mae modd cymharu agwedd Greg Thomas at y gamp honno â safbwynt prif hyfforddwr presennol Morgannwg, Robert Croft, sydd wedi disgrifio’r profiad o chwarae dros Loegr fel cynrychioli’r Llewod, a bod chwarae dros Forgannwg fel chwarae dros Gymru.

Pentref chwaraeon yng Nghwm Tawe

Blaenasgellwr Cymru, Justin Tipuric yw’r chwaraewr diweddaraf o Drebannws i gynrychioli ei wlad.

Mae gan y pentref draddodiad hir o gynhyrchu chwaraewyr rygbi, a’r rhestr yn cynnwys Robert Jones, Bleddyn Bowen ac Arwel Thomas – ac mae yna golffiwr rhyngwladol, Blair Fisher sy’n hanu o’r pentref hefyd.

Ond beth sydd mor arbennig am y pentref hwn, tybed?

“Dw i ddim yn siŵr,” meddai Greg Thomas. “Dw i’n gwybod fod rhyw ddwsin i bymtheg ohonon ni. Roedd pawb yn chwarae o fore gwyn tan nos yn ystod y gwyliau.

“Roedden ni’n chwarae criced, tipyn bach o golff, rygbi, pêl-droed, a beth bynnag arall. Roedden ni i gyd yn chwarae a phawb yn eitha’ da, ond rhai yn well na’i gilydd.

“Roedd gyda chi Bleddyn Bowen yn gapten ar Gymru fel canolwr, Robert Jones yn fewnwr. Roedd y ddau wedi chwarae criced ar lefel eitha’ da. Roedd Bleddyn yn enwedig yn gricedwr da.

“Wnes i chwarae rhywfaint o rygbi yn yr ysgol. Fi oedd yr wythwr pan oedd Robert yn fewnwr. Ges i dreial i dîm ysgolion Cymru ond yn anffodus, ges i anaf i ’nghefn.”

Morgannwg – Cymry yw’r ffordd ymlaen

Yn ôl Greg Thomas, eu polisi presennol o gynhyrchu cricedwyr ifainc o Gymru yw’r ffordd ymlaen os ydyn nhw am lwyddo ar y cae ac oddi arno.

“Po fwyaf o gricedwyr y gallwch chi eu cynhyrchu’n lleol, gorau oll i’r gêm ac i’r clwb hefyd oherwydd dw i’n siŵr y bydd mwy o bobol yn dod i gefnogi’r clwb os oes gyda nhw gricedwyr lleol.

“Mae’r timau heddi, yn enwedig yn y gêm ugain pelawd, yn dueddol o fod yn dimau rhyngwladol lle mae chwaraewyr yn mynd i ble bynnag mae gemau’n cael eu chwarae, yn debyg i bêl-droed. Ond mae’n braf gweld chwaraewyr o Gymru yn nhîm Morgannwg.”

Trebannws a’r Caribî yn dod ynghyd

Tra bod Greg Thomas yn hanu o Drebannws, roedd un o’i gyd-chwaraewyr yn nhîm Morgannwg yn y 1980au, Winston Davis yn dod o ynys St. Vincent yn y Caribî.

Chwaraeodd y ddau i Forgannwg a Swydd Northampton yn ystod eu gyrfaoedd, a’r ddau ohonyn nhw wedi cyrraedd y llwyfan rhyngwladol – y Cymro Cymraeg i Loegr a Winston Davis i India’r Gorllewin.

Ond yn hytrach na chaeau chwarae pentref, traethau euraid y Caribî oedd maes chwarae’r bowliwr cyflym o’r Caribî a ddaeth yn aelod pwysig o dîm India’r Gorllewin gyda Michael Holding, Andy Roberts a Joel Garner.

Ar ôl ymddeol, aeth Greg Thomas ymlaen i weithio ym myd y gyfraith, a’i fab Will bellach yn gricedwr i ail dîm Swydd Northampton.

Trasiedi

Ond trasiedi a ddaeth i ran Winston Davis yn ei ymddeoliad yntau, ar ôl iddo gael ei barlysu pan gafodd ei daro gan goeden yn ôl yn ei gartref yn St. Vincent.

Ac yntau’n Gristion, roedd y cyn-fowliwr cyflym a aeth wedyn i weithio mewn melin flawd, yn torri coed ar dir eglwys leol pan gafodd ei daro i’r llawr gan frigau coed.

Fe dreuliodd fisoedd yn yr ysbyty yn Fflorida cyn cael ei symud i ysbyty Gobowen, ac mae’n byw yn Lloegr bellach ers bron i ugain mlynedd.

Dywedodd Winston Davis wrth golwg360: “Mae yna heriau yn y bywyd yma. Dyw e ddim y math o fywyd y byddech chi’n ei ddymuno i’ch gelyn pennaf. Ond mae’n fywyd y gallwch chi ei fyw a’i fwynhau.

“Dw i’n dal i ddihuno yn edrych ymlaen at bob dydd. Dw i’n dal i gredu y bydda i’n cerdded eto. Roedd yna adeg pan o’n i’n ymdopi, ond nawr dw i’n byw. Does gen i ddim byd i gwyno yn ei gylch e.”

Ychwanegodd Greg Thomas: “Mae’r hyn sy’ wedi digwydd iddo fe’n drist ond oni bai am y ddamwain, efallai na fydden ni wedi treulio cymaint o amser gyda’n gilydd.”

Digwyddiadau Amgueddfa Griced Cymru CC4 dros y gaeaf

Tachwedd 8 – Noson gydag Alan Butcher, cyn-gapten Morgannwg

Tachwedd 21 – Dr Andrew Hignell, curadur yr Amgueddfa, yn lansio’i gyfrol From Front Foot to Front Line, sy’n edrych ar effaith y Rhyfel Byd Cyntaf ar griced yn ne Cymru.

Rhagfyr 6 – Noson cwis a chyri

Ionawr 17 – Noson deyrnged i Bernard Hedges, yng nghwmni ei fab Stephen sydd wedi cyd-ysgrifennu cofiant i’w dad gyda Dr Andrew Hignell

Chwefror 14 – Noson gydag Alan Wilkins, yn trafod ei yrfa fel cricedwr a darlledwr

Mawrth 7 – Haf 1968 – dathlu hanner canmlwyddiant buddugoliaeth ddiwethaf Morgannwg dros Awstralia, a chwech chwech Garry Sobers yng nghwmni’r bowliwr Malcolm Nash.

Balchder a siom ar ddiwedd ymgyrch Cymru

Cyhoeddwyd Hydref 12, 2017 gan Y Blog Pêl-droed.


Ewros 2016... mor bell i ffwrdd erbyn hyn (Llun: Martin Rickett/PA)
Ar ôl i’r llwch setlo ar ymgyrch arall ar gyfer Cwpan y Byd, Tommie Collins sy’n bwrw golwg yn ôl dros y gemau…

Dw i’n cofio, pan ddaeth yr enwau allan o’r het, fod pawb yn fodlon ar yr grŵp.

Y timau oedd Serbia (tim da ar y dydd); Iwerddon (yn ôl pawb, tîm ddylan ni ei guro); Awstria (tîm oedd wedi cael Ewro 2016 gwael); a Georgia, tîm arall y dylian ni ei guro’n hawdd; a Moldofa, tîm o’r pot olaf, ond a oedd wedi’n curo ni mewn dipyn o sioc yn 1994. Doedd cewri’r byd pêl droed fel yr Almaen, Ffrainc neu Sbaen, ddim yn ein herbyn ni. 

Roedd nifer o chwaraewyr wedi gadael y garfan ar ôl Ewro 2016 yn Ffrainc. Yn fy marn i, mi ddylia bod un neu ddau arall wedi mynd hefyd.

Hangofyr

Ar ôl y gêm gyntaf y grŵp yn erbyn Moldofa, be’ oedd yn amlwg i fi oedd yr ‘hangofyr’ ar ôl yr Ewros. Dw i’n cofio edrych ar Ashley Williams ar ôl symudiad a meddwl, ’dydi hwn ddim ar ben ei gêm’.

Roedd taith ar y gorwel wedyn i Awstria. Roeddan ni ar y blaen ddwywaith, cyn ildio a chael gêm gyfartal 2-2,  a dyma pawb yn dechrau dweud, “gêm y dylian ni fod wedi’i hennill”… a dyna fu’r stori bron drwy’r ymgyrch.

Roedd hi hefyd yn stori o anafiadau. Mi gafodd Joe Allen anaf yn Fienna ac mi fethodd y gêm gartref dridiau wedyn yn erbyn Georgia. Hon oedd y gêm fuodd yn drafferth i ni - oeddan ni’n lwcus i beidio â cholli - ac roedd hi’n bryd i’r garfan anghofio am Ffrainc a sylweddoli bod dim un gêm yn hawdd.

Yn nesaf ddaeth Serbia gartref – a gêm gyfartal arall. Fe sgoriodd Gareth Bale i’n rhoi ni ar y blaen, ac wedyn fe darodd y postyn cyn i ymosodwr Newcastle, Aleksandar Mitrovic, unioni’r sgôr bum munud cyn diwedd y gêm. Torcalon. Roeddan ni’n gwneud pethau’n anodd iawn i ni’n hunain.

Anaf difrifol

Mi gawson ni seibiant wedyn tan fis Mawrth eleni, gyda gêm yn ninas Dulyn yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon. Atgof pawb o’r gêm hon yw’r anaf difrifol i amddiffynnwr Iwerddon, Seamus Coleman, a cherdyn coch  i Neil Taylor.

Roedd drwg deimlad rhwng y ddwy garfan a’r cefnogwyr ar ôl y gêm, ond cyfle arall wedi’i fethu. Roedd Cymru’n well tîm ar y noson.

Belgrad wedyn, gyda’r Wal Goch yn teithio yno mewn niferoedd, a Gareth Bale wedi’i anafu y tro hwn. Roedd Cymru ar y blaen gyda chic o’r smotyn wych gan Aaron Ramsey… ond yr un hen stori a Chymru’n ildio gôl hwyr. Cyfle arall i roi stamp ar y grŵp wedi’i golli.

Tensiwn… a Starman newydd

Dwy gêm yn fis Fedi, Awstria adref, noson llawn tensiwn gyda Chymru’n ffodus i beidio bod i lawr hanner amser, ond hwyr yn y gêm eilydd bendigedig gan Chris Coleman yn dod a’r bachgen 17 oed, Ben Woodburn, oddi ar y fainc - arwr newydd y Wal Goch yn sgorio bedwar munud ar ôl dod ar y cae.

Buddugoliaeth gyntaf 1-0, roeddan ni yn ein holau; roedd hi’n noson anhygoel, pawb wedi gwirioni, a chân newydd i’r glaslanc i diwn cân David Bowie, ‘Starman’. Roedd pawb wedi anghofio am Gareth Bale.

Dinas Chisinau, Moldofa oedd llwyfan y ddrama y nos Fawrth ganlynol – gwlad newydd i fi ymweld â hi; dinas heb lawer  o gymeriad iddi; ond roedd yn wlad rad ac roedd amser da i’w gael…  a buddugoliaeth gyda dwy gôl hwyr , a’r dewin Woodburn yn creu un ohonyn nhw. 

Roedd Cymru wedi ennill dwy gêm anferth erbyn hyn, ac roedd ganddon ni gyfle i orffen yn y gemau ail gyfle, o leiaf. Beth oedd yn felys, wedi i Ben Woodburn gael ei gynnwys yn y garfan, oedd clywed y Saeson yn cwyno. Wrth gwrs, mae o’n gymwys i chwarae i’r hen elyn, ond mae wedi chwarae i Gymru ers pan oedd yn blentyn, a’n harwr ni ydi o. 

Chwaraewr arall oedd yn y garfan ar gyfer y ddwy gêm dyngedfennol nesaf oedd David Brooks o Sheffield United, Roedd wedi gwneud tro pedol yn penderfynu chwarae i Gymru ar ôl cynrychioli Lloegr yng nghystadleuaeth Toulon yn yr haf, ac wedi bod yn chwaraewr y twrnamaint. Roedd y Saeson yn lloerig… ond mae ei fam yn dod o Langollen, felly beth ydi’r broblem?

Taith hir i Georgia

Roedd Georgia ar feddwl pawb am fis.. Gyda thaith bell i Tbilisi o’n blaenau, dim ond unarddeg cefnogwr aeth yn 1995 o gymharu â’r 2,000 a wnaeth y daith hir drwy’r Wcráin a Thwrci, neu hedfan i Georgia, a gyrru tua thair awr wedyn.

Roedd Gareth Bale wedi’i anafu eto, ond roedd perfformiad da arall o ran cynnwys Tom Lawrence – chwaraewr, yn fy marn i, sydd heb wneud digon i Gymru yn y cyfleoedd mae wedi’u cael. Ond, yn y gêm hon, mi ddangosodd bod y gallu ganddo.

Ymlaen i Gaerdydd, wedyn, ac ar ôl tair buddugoliaeth yn olynol roedd Cymru ar fin mynd drwodd i Rwsia…

Roedd Gareth Bale allan. Roedd y stadiwm yn llawn dop. Yr anthem yn cael ei chanu gan y cefnogwyr. Beth allai fynd o’i le?

Iwerddon oedd am fynd drwodd, dim ots sut, ac ar ôl dechau addawol a Joe Allen yn rheoli’r gêm, mi gafodd ei anafu – ac fe newidiodd hynny’r gêm yn llwyr. Ar y cae yn ei le oedd Jonny Williams, chwaraewr arall i mi sydd heb wneud digon i ennill ei le yn y garfan.

Fesgoriodd James Mclean ar 57 munud, ac roedd Cymru’n wynebu eu colled gyntaf cystadleuol adref ers Medi 2013.

Fe dynnodd Chris Coleman, Hal Robson-Kanu oddi’r cae a dod â Sam Vokes ymlaen yn ei le. Roedd nifer fawr yn yr eisteddle wedi synnu â hyn, oherwydd roeddan ni angen goliau!

Pam i’m chwarae’r ddau? Lle oedd Ben Woodburn? A pham ddim rhoi cyfle i David Brooks? Cwestiynau oedd yn cael eu gofyn ar y ffordd allan o’r cae ar ôl y chwiban olaf Cymru 0-1 Gweriniaeth Iwerddon. Roedd pêl-droed hyll wedi trechu pêl droed neis o gôl i ddim. 

Roedd hi’n siwrnai hir adref i’r gogledd. Siom arall oedd perfformiad Aaron Ramsey Mi gafodd o gêm wael.

Aros yn y swydd

Dw i’n gobeithio y bydd Chris Coleman yn aros yn y swydd, a gobeithio bod y tîm hyfforddi yn dysgu o’r ymgyrch hon.

Yn fy marn i, maen nhw’n rhy bragmataidd, a’r hyn sy’n fy ngwylltio i ydi’r cefnogwyr eraill sy’n beirniadu cefnogwyr sy’n beirniadu’r tîm. Ar ddiwedd y dydd, methu wnaethon ni. Dw i’n talu pres da i wylio Cymru adref ac oddi cartref, a dw i’n meddwl bod gen i hawl i leisio fy marn.

Mae anafiadau yn digwydd i bawb. Mae Ashley Williams yn cael hunllef ag Everton – gobeithio y daw drwyddi. Roedd Joe Allen yn wych, chwaraewr yr ymgyrch. Mae chwaraewyr da ifanc yn dod drwy’r system fel Ethan Ampadu a David Brooks, ac mae Ben Woodburn wedi gwneud ei farc.

Ond pan fydd Cwpan y Byd Rwsia ar y teledu yr haf nesaf, mi fydda’ i a nifer yn meddwl “beth allai fod…”

Cyflwr Cymru – dylanwad datganoli?

Cyhoeddwyd Medi 19, 2017 gan Y Blog Gwleidyddiaeth.

Tagiau: Datganoli, Huw Edwards, Iwan England, refferendwm


Huw Edwards (Llun: S4C)
Ugain mlynedd ers refferendwm 1997, bu’r cynhyrchydd a chyfarwyddwr Iwan England ar daith gyda’r cyflwynydd Huw Edwards i gasglu barn a thrafod profiadau pobol Cymru …

Ugain mlynedd yn ôl, roeddwn i’n eistedd yn y tywyllwch mewn stafell anghyfarwydd yn gwylio’r teledu. Hon oedd fy noson gyntaf yn rhannu tŷ gyda saith o fyfyrwyr eraill. Roeddwn i eisoes wedi bwrw fy mhleidlais y bore hwnnw, ac wedi manteisio’n llawn ar gynnig £1 y peint ym mar yr undeb.

Roedd y manylion hyn, a chyffro rhyfeddol noson Medi 18, 1997, bron yn angof tan i mi eistedd i lawr a gwylio tapiau archif o ganlyniadau Refferendwm Datganoli Cymru. Mae’n anodd credu pa mor agos oedd y bleidlais i sefydlu’r Cynulliad. Ar raglen Saesneg y BBC, roedd Peter Snow wedi darogan taw ‘Na’ fyddai’n ennill, hanner awr yn unig cyn canlyniad tyngedfennol Caerfyrddin.

Roedd hi’n drawiadol sylwi faint o’r pynciau llosg a drafodwyd yn y stiwdio’r noson honno sydd yr un mor berthnasol heddiw: diffyg trafodaeth ar faterion Cymreig yn y cyfryngau; amheuaeth o’r de ymysg y gogs, ac o’r gogledd ymysg yr hwntws; a phroblemau economaidd enbyd mewn rhannau helaeth o’r wlad. Felly oes unrhyw beth wedi newid ers y noson dyngedfennol honno? Ydy Cymru’n cael ei llywodraethu’n well neu’n waeth?

Yr her osodom i ni ein hunain fel criw cynhyrchu oedd ceisio mesur cyflwr Cymru heddiw; gorchwyl oedd yn ymylu ar yr amhosib mewn cwta awr o deledu o ystyried popeth mae’r Cynulliad yn dylanwadu arno. Felly dyma benderfynu canolbwyntio ar dri o’r meysydd sy’n ysgogi’r drafodaeth fwyaf – addysg, iechyd a’r economi. Fe aethom ati i chwilio am unigolion oedd yn ceisio gwneud gwahaniaeth yn eu meysydd arbenigol a’u cymunedau. Pobol fyddai’n barod i ddweud yn onest a ydy’r Cynulliad a Llywodraeth Cymru yn eu cefnogi ac yn gwneud gwahaniaeth?

Wrth baratoi a chynnal sgyrsiau anffurfiol, y syndod mwyaf oedd bod pobol yn cyfeirio at lond llaw yn unig o ddeddfau wrth fesur llwyddiannau datganoli. Mae’r deddfau sy’n ymwneud â smygu, codi pris ar fagiau plastig a rhoi organau wedi dal dychymyg y cyhoedd. Ond prin iawn yw’r ymwybyddiaeth o union bwerau a chyfrifoldebau’r Cynulliad, nac o ddeddfau mwy ‘cynnil’.

Unwaith i ni ddechrau ar ein taith o amgylch y wlad, roedd pethau’n wahanol – roedd gan bawb farn glir am effaith datganoli ar eu sector arbennig nhw. Tra bod dadleuon 1997 wedi rhannu’r wlad 50/50 yn rheini o blaid ac yn erbyn datganoli, mae pethau’n fwy cymhleth ac yn fwy diddorol erbyn hyn. Roedd sawl person yn feirniadol iawn o ddiffygion mewn meysydd penodol, ond roedden nhw’n gefnogol o fodolaeth y Cynulliad ac o syniad creiddiol datganoli.

Roedd sylwadau cefnogol gan rai fel gweithwyr dur Tata ym Mhort Talbot, er enghraifft, yn agoriad llygad go iawn. O gofio pa mor wenwynig oedd y drafodaeth ynghylch y syniad o ddatganoli dim ond dau ddegawd yn ôl, mae’r newid yn arwyddocaol.

Huw Edwards: Datganoli 20: Nos Fawrth, Medi 19 am 9.30, S4C

Gŵyl gofiadwy Hedd Wyn

Cyhoeddwyd Medi 11, 2017 gan Y Blog Celfyddydau.

Tagiau: Gŵyl Hedd Wyn, Penbedw, robin gwyndaf


Robin Gwyndaf sy’n edrych yn ôl ar Ŵ
yl Hedd Wyn a gynhaliwyd ym Mhenbedw…  

Gair o ddiolch diffuant yw hwn. Ar y Sadwrn a’r Sul, Medi 9-10, cynhaliwyd Gŵyl Hedd Wyn ar safle Ysgol Ysbytai Cilgwri, ym Mhenbedw (Birkenhead). Un o’r gwyliau mwyaf cofiadwy y bûm ynddynt erioed. A dyna farn y cannoedd oedd yno.

Cafwyd, er enghraifft, ddarlithoedd ardderchog gan Huw Edwards, Peredur Lynch  a D Ben Rees. Cyflwynwyd Cadair hardd yr Ŵyl yn rhodd gan Gymdeithas Hedd Wyn, Fflandrys. ‘Hedd Wyn’ oedd testun y gerdd, neu gyfres o gerddi.

Roedd naw wedi cystadlu, a thri yn deilwng iawn o’u cadeirio. Cyntaf: Martin Huws; Ail: Arwel Emlyn Jones; Trydydd: Hedd Bleddyn. Meistr y ddefod oedd Geraint Lloyd Owen, ein Harchdderwydd. Hyfryd hefyd oedd cael llu mawr o ymgeiswyr, 11-19 mlwydd oed, am y ddwy goron. Un  gystadleuaeth Gymraeg ac un Saesneg. Cerddi ar y testun ‘Yr Arwr’ / ‘Hero’.

Gwnaed cyfraniad gwerthfawr iawn i lwyddiant yr Ŵyl gan amryw gorau a pherfformwyr: Côr Meibion Orffiws Rhosllannerchrugog; Côr Ieuenctid Môn; Côr Meibion Bara Brith, Môn; Côr Rygbi Gogledd Cymru; Parti’r Betheliaid; Dylan Cernyw, y telynor; a’r cantorion: Alun Tan Lan  a Huw Ynyr.

Ar y Sul, yng nghapel Seion, cafwyd oedfa (homili gan Aled Lewis Evans), a chymanfa  ganu (arweinydd Alwyn Humphreys) y byddwn yn cofio amdanynt yn  hir.

Yn ystod yr Ŵyl dadorchuddiwyd cofeb i Hedd Wyn, ger y garreg ym Mharc  Penbedw, carreg sydd yno eisoes i gofio Eisteddfod 1917.

Rhannwyd a gwerthwyd medalau i gofio’r Ŵyl, a chyhoeddwyd rhaglen (85 tudalen): Canmlwyddiant y Gadair Ddu.  The Black Chair Centenary: 1917-2017.  Anogaf bawb a gollodd y cyfle i fynychu’r Ŵyl eleni ym Mhenbedw i sicrhau copi o’r cyhoeddiad gwerthfawr hwn.

Golygwyd y rhaglen a’i chyhoeddi gan y Parchedig Ddr D Ben Rees. Ef oedd prif ysgogydd Gŵyl Hedd Wyn. Llafuriodd yn ddiarbed, a mawr iawn yw dyled Cymru gyfan iddo. Diolch o galon hefyd am gymorth parod pob un o’i gydweithwyr.

Ôl nodyn. Cyfeiriwyd droeon yn ystod yr Ŵyl at Yr Ysgwrn, cartref Hedd Wyn, ac at gymwynas Gerald Williams. Daliaf innau ar y cyfle hwn i ddweud, ar ran yr holl ddarllenwyr, canmil diolch i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ac i bawb arall a fu â rhan mewn sicrhau y bydd yr Ysgwrn bellach yn parhau i fod yn ganolfan dreftadaeth gwir deilwng i Gymru.

Trosglwyddiadau: y da, y drwg a’r gwyrthiol!

Cyhoeddwyd Medi 1, 2017 gan Y Blog Pêl-droed.


Paul Clement yw rheolwr Abertawe
Alun Rhys Chivers sy’n trafod y mynd a’r dod lawr yn y Liberty…

Ry’n ni i gyd, ar ryw adeg mae’n siŵr, wedi chwarae’r gêm gyfrifiadurol Championship Manager – neu Football Manager, bellach – gan ail-greu’r tymor pêl-droed o gysur ein stafell wely. Wrth ddod i’r darn yn y gêm lle mae’r ffenest drosglwyddo’n cau ddiwedd mis Awst, roedd gofyn bod gyda ni, fel chwaraewyr, sgiliau trin a thrafod yn ogystal â rhywfaint o wybodaeth ariannol – heb sôn am dactegau i wybod pa chwaraewyr i fynd ar eu holau.

Dim ond gêm oedd hi i ni, ond dyna’r realiti y cafodd rheolwyr ar hyd a lled Cymru a Lloegr eu hunain yn ei chanol ddoe ar ddiwrnod ola’r ffenest bresennol. Fe gyfaddefodd prif hyfforddwr Abertawe, Paul Clement rai wythnosau’n ôl ei fod e’n teimlo cyffro ond ofn ynghylch yr hyn allai ddigwydd cyn Awst 31.

Ond ar ôl i’r ffenest gau’n glep am 11 o’r gloch neithiwr, mae’n rhaid ei fod e’n teimlo’n hapusach o lawer nag yr oedd e pan gafodd ei brif ymosodwr Gylfi Sigurdsson ei ddenu i Everton ganol y mis.

Helynt Gylfi Sigurdsson

Ar ôl ymadawiad Sigurdsson, cyfaddefodd Clement ei fod e’n ofni colli rhagor o chwaraewyr yn ystod pythefnos ola’r ffenest. Fe fyddai wedi hanner disgwyl colli’r Sbaenwr Fernando Llorente, ac roedd trosglwyddiad posib Wilfried Bony yn ôl i’r Elyrch yn gyfrinach agored ers tro.

Roedd perygl fod helynt Sigurdsson yn troi’n ffars yn y pen draw, er i’r Elyrch ychwanegu £45 miliwn i’r coffrau am y chwaraewr a wnaeth fwy na neb i gadw’r Elyrch yn yr Uwch Gynghrair y tymor diwetha’.

Ar y cae, roedd hi’n amlwg fod bwlch mawr ar ôl Sigurdsson, er bod Tammy Abraham wedi cael ei ganmol am ei berfformiad diweddara’ oddi cartref yn Crystal Palace. Am ba hyd allai’r ymosodwr ifanc, ar fenthyg o Chelsea, arwain yr ymosod sy’n gwestiwn arall.

Angen recriwtio

Cyn y gêm ddiwetha’, roedd yr Elyrch wedi methu â bwrw’r targed unwaith ers dechrau’r tymor ac roedd y cefnogwyr yn anochel yn dechrau cwestiynu doethineb a chymhelliant y perchnogion Americanaidd Jason Levien a Steve Kaplan, ynghyd â’r cadeirydd Huw Jenkins. Pwy, tybed, fyddai’n gyfrifol am ddenu chwaraewyr newydd i’r clwb?

Roedd si ar led ers tro mai denu Wilfried Bony yn ôl o Man City oedd blaenoriaeth y clwb. Ond fe bwysleisiodd Clement ei fod e’n awyddus i gryfhau’r tîm ar draws y cae. Fe ddechreuodd y gwaith hwnnw’r wythnos ddiwetha’ wrth arwyddo Sam Clucas o Hull. Dyma chwaraewr sy’n gallu chwarae ym mhob safle, bron iawn, ac sy’n cynnig nifer o opsiynau newydd i’r Elyrch.

A dyna Roque Mesa yn dod i mewn yn chwaraewr canol cae amddiffynnol fyddai’n cynnig cystadleuaeth i’r capten Leon Britton yn y safle hwnnw – wedi’r cyfan, onid cystadleuaeth yw’r ffordd orau o roi pwysau ar y prif chwaraewyr i berfformio ar eu gorau?

Ond roedd un cwestiwn mawr ar wefusau’r cefnogwyr o hyd. Pwy oedd yn dewis pa chwaraewyr newydd i’w harwyddo? Gan fod enw Bony wedi cael ei grybwyll ers tro, mae’n deg dweud mai’r perchnogion oedd wedi bod ar ei drywydd e. Roedd Sam Clucas yn un arall fuodd yn dwyn sylw’r Elyrch ers peth amser. Doedd neb cweit yn sicr am Roque Mesa – mae’n bosib fod Paul Clement yn gwybod amdano fe o’i gyfnod yn is-hyfforddwr ar Real Madrid.

Dangos pwy yw’r bos

Does dim amheuaeth y byddai gan Paul Clement ran fawr i’w chwarae ar ddiwrnod ola’r ffenest drosglwyddo ddoe. Ond fel pe bai angen tanlinellu pwy yw’r bos, fe lwyddodd e i gyflawni’r un wyrth nad oedd neb wedi’i disgwyl – croeso i Abertawe, Renato Sanches!

Dyma ni’n ôl ym mydysawd Championship Manager. Oedd clwb fel Abertawe, oedd yng ngwaelodion yr Uwch Gynghrair y tymor diwetha’, wir wedi llwyddo i ddenu un o sêr ifainc Ewrop i’r Liberty? Cyn herio Cymru, daeth Sanches y trydydd chwaraewr ieuenga’ i sgorio gôl yn yr Ewros pan rwydodd e yn erbyn Gwlad Pŵyl i sicrhau’r gêm gyn-derfynol fyddai’n torri calonnau’r Cymry yn Lyon.

Pan gafodd Paul Clement ei benodi’n brif hyfforddwr ym mis Ionawr, y farn gyffredinol oedd fod angen iddo fe dynnu ar ei holl brofiad gyda rhai o glybiau mwyaf Ewrop – Chelsea, Real Madrid, Bayern Munich ac ati – i gryfhau’r garfan. Doedd e ddim yn mynd i fod yn hawdd, meddai, gan y byddai’n galw am ddenu’r chwaraewyr o brif lwyfan Ewrop i un o’r clybiau yng ngwaelodion y gynghrair.

Ond mae’n ymddangos bod y trosglwyddiad hwn wedi bod ar y gweill ers peth amser, a’r ddau glwb yn gytûn y byddai’n gwneud lles i bawb pe bai’n dod i’r Elyrch. Wedi’r cyfan, byddai’r chwaraewr ei hun yn cael chwarae mwy o bêl-droed, byddai’r Elyrch yn elwa o’i ddoniau, a byddai Bayern Munich yn gallu lleihau eu costau (mae’r Elyrch wedi talu £8 miliwn, gan gynnwys ei gyflog) wrth iddyn nhw gadw llygad ar chwaraewr allai fod yn allweddol iddyn nhw yn y dyfodol. ‘Win, win’, ys dywed y Sais.

Ond ennill ar y cae sy’n bwysig o hyn ymlaen. Os oedd Paul Clement wedi rhoi pinsiad go galed iddo fe’i hun pan gafodd ei benodi’n brif hyfforddwr yn yr Uwch Gynghrair fis Ionawr, fe fydd ei fraich yn gochach heddiw ar ôl dihuno o’r hyn sydd – ar hyn o bryd, o leiaf – yn ymddangos fel breuddwyd sydd ond yn bosib mewn gemau cyfrifiadurol. Ac fe allai Renato Sanches sicrhau mai enw gêm gyfrifiadurol yn unig, ac nid teitl swydd Paul Clement y tymor nesaf, yw Championship Manager.

BLOG: Gylfi Sigurdsson – y gwir yn erbyn y byd?

Cyhoeddwyd Awst 17, 2017 gan Y Blog Pêl-droed.

Tagiau: gylfi sigurdsson


Gohebydd golwg360, Alun Rhys Chivers sy’n datgelu’r stori go iawn y tu ôl i hynt a helynt trosglwyddiad y pêl-droediwr Gylfi Sigurdsson o Abertawe i Everton yr wythnos hon…

Lai na 48 awr ar ôl i Gylfi Sigurdsson symud – o’r diwedd – i Everton am ffi sydd heb ei datgelu (ond sy’n debygol o fod oddeutu £45m), mae’n teimlo fel pe bai hanes yn ailadrodd ei hun.

Fe gawson ni, gefnogwyr yr Elyrch, haf a thymor cythryblus y llynedd ar ôl colli Ashley Williams, ac fe allai’r un peth ddigwydd eto os nad yw’r clwb yn gweithredu’n gyflym i lenwi’r bwlch mawr yn yr ymosod.

Dydy naw gôl mewn tymor ddim yn swnio’n gyfraniad mawr, ond o ystyried bod yr Elyrch ar waelod y tabl erbyn y Nadolig ar ôl diswyddo dau reolwr, Francesco Guidolin a Bob Bradley, fyddwn i ddim yn hoffi dychmygu lle fyddai’r clwb erbyn hyn heb y goliau hynny.

Yr amser yma y tymor diwetha’, y cwestiwn mawr oedd pwy fyddai’n llenwi’r bwlch mawr yng nghanol yr amddiffyn? Roedd hi’n amlwg nad oedd gan Francesco Guidolin ei hun fawr o obaith o ddod o hyd i’r fformiwla hud.

Fe dreuliodd e a’i olynydd, Bob Bradley, rannau helaeth o hanner cynta’r tymor yn ceisio ateb y cwestiwn. Ond roedd yr holl arbrofi’n golygu bod yr Elyrch nid yn unig yn aros yn llonydd, ond mewn perygl difrifol o ddechrau symud am yn ôl.

Yn y pen draw, fe ddaeth y prif hyfforddwr newydd, Paul Clement, o hyd i’r ateb ac mae’r amddiffyn, o dan arweiniad Federico Fernandez ac Alfie Mawson (capten y dyfodol, efallai?), yn edrych yn dipyn mwy sefydlog erbyn hyn.

Sefydlogrwydd

Ond mae’r sefyllfa – o leiaf o safbwynt Paul Clement – yn wahanol iawn y tro hwn. Mae’r clwb mewn dwylo diogel o dan ei arweiniad ac mae gwella’r amddiffyn hefyd yn golygu bod gan y tîm asgwrn cefn o’r diwedd.

Os y gwrandewch chi ar adroddiadau’r wasg, dydy’r Elyrch ddim yn brin o opsiynau yn yr ymosod chwaith, ac mae’n bosib y gwelwn ni Wilfried Bony yn ôl ar y Liberty.

Mae Nacer Chadli yn enw arall sydd wedi’i grybwyll. Ac wrth gwrs, fe fydd Fernando Llorente yn ôl, gobeithio, erbyn yr wythnos nesaf ar ôl torri ei fraich. Felly dydy hi ddim yn argyfwng eto.

Ond y gyfrinach y tro hwn oedd cynllunio ymlaen llaw – doedd hynny’n sicr ddim wedi digwydd pan adawodd Ashley Williams am Everton flwyddyn yn ôl.

Roedd y perfformiad yn erbyn Southampton ddydd Sadwrn diwethaf yn un siomedig, er i’r ymosodwr ifanc Tammy Abraham ddangos rhywfaint o addewid.

Mae Paul Clement wedi datgelu ei fod e’n hapus gyda’r ffi gafodd yr Elyrch wrth werthu Gylfi Sigurdsson, ac mae angen gwario’r arian hwnnw’n ddoeth.

Roedd e’n lled awgrymu yn ei gynhadledd i’r wasg fod angen cryfhau mewn sawl safle ar y cae, ac mae’n bosib y gwelwn ni fwy nag un chwaraewr yn dod i mewn – er, mae’n ymddangos erbyn hyn nad Joe Allen fydd un ohonyn nhw.

Blas cas

Ond yr hyn fydd yn gadael blas cas i’r cefnogwyr yw’r ffordd mae’r cyfan wedi’i lusgo allan eto – ac mae’n ymddangos bellach nad oedd Gylfi Sigurdsson yn gwbwl ddiffuant ar adegau wrth ddatgan ei fod e’n awyddus i aros.

Roedd Paul Clement yn cyfeirio yr wythnos hon at chwaraewr oedd “eisiau her newydd”, ac yn dweud ei fod e’n gwybod ddiwedd y tymor mai colli Gylfi Sigurdsson fyddai’r canlyniad tebygol yn y pen draw.

Pe bai wedi bod yn onest am ei fwriad o’r dechrau, mae’n sicr y byddai gan y cefnogwyr fwy o barch ato fe erbyn hyn. Ond, efallai bod y chwaraewr yn euog yn fan hyn o ddweud yr hyn roedd y cefnogwyr am ei glywed?

Ar Orffennaf 12, roedd yr Elyrch yn wynebu Barnet. Y bwriad oedd mynd o’r fan honno y diwrnod canlynol ar daith i’r Unol Daleithiau, a Gylfi Sigurdsson yn mynd gyda’r garfan tra bod y trafodaethau’n parhau.

Ond mae Paul Clement wedi datgelu ei syndod pan benderfynodd y chwaraewr aros adref rhag ofn bod y clybiau’n dod i gytundeb bryd hynny. Ond fel sy’n amlwg bellach, fe gymerodd fis arall cyn i’r cyfan ddod i ben.

Penllanw haf o ymbil oedd hynny, meddai’r prif hyfforddwr, sydd wedi datgelu ei fod e wedi cael sawl sgwrs wyneb yn wyneb a thros negeseuon testun gyda Gylfi Sigurdsson.

Hyd yn oed ar yr unfed awr ar ddeg, roedd Paul Clement yn obeithiol y gallai berswadio un o’r hoelion wyth i aros. Ond yn ofer oedd y cyfan yn y pen draw. A chofiwch, hyn i gyd ar ôl i’r chwaraewr ei hun ddweud sawl gwaith ei fod e’n hapus i aros.

Edrych tua’r dyfodol

Byddai perffaith hawl gan Paul Clement, o dan yr amgylchiadau, i deimlo cryn siom fod un o’i brif chwaraewyr wedi bod y fath bensaer ar ei ymadawiad ei hun. Ond nid un i ddal ddig yw’r prif hyfforddwr.

I’r gwrthwyneb, mae’n gweld diwedd y bennod hon yn hanes y clwb yn “gyfle newydd” i brofi gwerth y garfan. Mae’n cyfaddef fod y cyfan “yn fwy lletchwith” i Sigurdsson nag yr oedd iddo yntau, ac mae’n barod i ganmol proffesiynoldeb y chwaraewr, hyd yn oed ar ôl yr helynt yma.

Mewn ffordd, fe gadwodd Paul Clement at ei air. Fe ddaeth y cyfan i ben gyda digon o amser nawr i droi ei sylw at chwaraewyr newydd. Bydd gweddill y ffenest drosgwlyddo’n her newydd i’r prif hyfforddwr.

Ym mis Ionawr, roedd angen gweithredu’n gyflym i gywiro gwendidau cyn i’r ffenest gau. Y tro hwn, cryfhau’r adnoddau sydd ganddo fe fydd ei nod.

Cawn weld beth ddaw dros yr wythnosau nesaf, ond gall cefnogwyr yr Elyrch fod yn dawel eu meddwl. Mae gan Paul Clement atebion. Y gwir yn erbyn y byd? Mi fydd yna heddwch – a llwyddiant, gobeithio.

BLOG: Gall ‘ARFOR’ roi bywyd newydd i’r Gorllewin

Cyhoeddwyd Awst 16, 2017 gan Y Blog Gwleidyddiaeth.

Tagiau: Aled G Jôb, Arfor, awdurdod, blog, y gorllewin cymraeg


Adam Price (Llun: Plaid Cymru)
Siom cherw i lawer oedd gweld cynghorwyr lleol yn pleidleisio o blaid Cynllun Datblygu Mon a Gwynedd yn ddiweddar, a fydd yn gweld codi miloedd o dai newydd yn y siroedd hyn dros y blynyddoedd nesaf.

Serch hynny, mae’n ymddangos bod yr adwaith cyhoeddus ffyrnig i’r cynllun datblygu wedi sbarduno syniadau newydd a radical- ac mae hynny’n sicr i’w groesawu’n fawr.

Mae Adam Price, AC Plaid Cymru Dinefwr,  bellach wedi ail-gyflwyno ei syniad o sefydlu ARFOR- sef un awdurdod ar gyfer y Fro Gymraeg (Mon, Gwynedd, Ceredigion a Chaerfyrddin) – gyda chefnogaeth Aelod Cynulliad Arfon, Sian Gwenllian.

Byddai awdurdod o’r fath yn gyfrifol am gynllunio traws-sirol gan gynnwys datblygu economaidd a’r iaith gyda’i gilydd ar draws siroedd y Gorllewin. Byddai rhychwant ei ddyletswyddau hefyd yn cynnwys elfennau megis tai, amaeth, bwyd a diod, a thwristiaeth.

Mae’r syniad yn hynod o amserol gan fod Llywodraeth Cymru yn bwriadu creu tri rhanbarth ar gyfer datblygu economaidd, defnydd tir a thrafnidiaeth cyn hir, sef Gogledd Cymru, Canolbarth a De Orllewin Cymru a’r De Ddwyrain.

Cynhyrfus

Gan fod yr ad-drefnu hwn yn yr arfaeth beth bynnag, mae syniad ARFOR yn gynnig cynhyrfus a phell-gyrhaeddol sy’n haeddu derbyn ystyriaeth deilwng gan y Llywodraeth, yn enwedig o gofio eu bod newydd gyhoeddi eu cynlluniau i greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Bid siwr, bydd rhai yn dadlau bod elfen ymrannus am y syniad ac y byddai’n effeithio ar Gymreictod gweddill Cymru- adlais o’r hen ddadleuon a wyntyllwyd yn ystod y saithdegau wrth gwrs. Ond y gwir amdani ydi bod y syniad o Gymru fel endid daearyddol llawer cryfach bellach a’r hunaniaeth Gymreig ei hun hefyd yn llawer sicrach na’r hyn a fodolai yn y saithdegau.

Mae’r synnwyr o berthyn i Gymru yn ddigon gwydn erbyn hyn i allu ymdopi gyda’r ffaith ddiymwad fod Cymru’n wlad amrywiol, a bod angen atebion gwahanol ar gyfer rhannau gwahanol o’n gwlad erbyn hyn.

Byddai gwireddu ARFOR hefyd yn fodd o ddaearu bwriad y Llywodraeth o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg mewn syniad cwbwl ddiriaethol: sef dyrchafu’r Gymraeg yn brif iaith cyhoeddus mewn talp o dir ble mae’r Gymraeg yn parhau’n iaith bob dydd i drwch y bobol sy’n byw yn yr ardaloedd hyn.

Y peryg

Y peryg efo strategaeth y Llywodraeth fel mae’n sefyll ydi ei bod yn rhagdybio’n hygoelus y bydd modd cynhyrchu’r holl siaradwyr Cymraeg newydd hyn trwy’r system addysg a thrwy greu mwy o ysgolion cyfrwng Cymraeg.

Ond mae holl dystiolaeth y blynyddoedd diwethaf yn dangos mai tua 10-15% yn unig o ddisgyblion Ysgolion Cymraeg(mewn ardaloedd Saesneg eu hiaith) sy’n cynnal eu sgiliau Cymraeg wedi gadael yr ysgol, oherwydd y diffyg cyfleoedd beunyddiol i ymarfer yr iaith yn y gymdeithas o’u cwmpas.

Mae cymdeithasegwyr iaith cyfoes yn gwbl gytûn nad yw’r system addysg yn ddigon ynddo’i hun i gynnal a datblygu iaith lleiafrifol; mae’n rhaid wrth droedle daearyddol bendant ble mae’r iaith honno yn gallu anadlu’n rhydd a bod yn feistres ar ei thomen ei hun.

Diddorol…

Mae’n ddiddorol iawn bod yr ymchwil diweddaraf yn y maes yn pwyso’n gynyddol ar drosiadau o’r byd amgylcheddol o ran mynd ati’n fwriadol i greu amodau ble gall iaith leiafrifol wreiddio a ffynnu fel blodyn neu blanhigyn, a’i gwarchod rhag ormod o wyntoedd croesion.

Byddai sefydlu ARFOR yn fodd o greu gwrth-bwynt deinamig i holl atyniadau dinesig Caerdydd, sydd wedi hudo miloedd ar filoedd o Gymry Cymraeg ifanc y gorllewin ers dwy genhedlaeth bellach gan dlodi eu cymunedau cynhenid o’u doniau, eu hyder, eu gobaith a’u dyfodol.

Wrth ymdrin gyda’r Gorllewin Cymraeg fel un endid daearyddol, byddai’r Awdurdod newydd yn gallu uno cymunedau Cymraeg o Ynys Mon i Lanelli gyda’i gilydd,  cynnig identiti clir, pwrpasol a hyderus iddynt, a hynny yn ei dro yn rhoi statws a dylanwad newydd iddynt yng Nghymru heddiw.

Creadigol

Eisoes, fe ellid dadlau mai yn y Gymru Gymraeg y mae’r creadigrwydd a’r bwrlwm diwylliannol yn y Gymru gyfoes- roedd yr Eisteddfod Genedlaethol sydd newydd ddod i ben ym Mon yn brawf pellach o hynny. Byddai ARFOR yn fodd o harnesu’r creadigrwydd hwn a’i sianelu i gyfeiriad sydd wedi bod ar goll yn y gorllewin cyhyd – datblygiad economaidd, ffynniant a hunan-hyder.

Byddai hyn wedyn yn gallu gwneud yr iaith Gymraeg a’r diwylliant Cymraeg yn gynyddol apelgar i’r Gymru Ddi-Gymraeg, a chynyddu cyrraedd y Gymraeg o’r gwraidd i fyny.

I aralleirio un o sloganau enwocaf Bill Clinton: “It’s the culture, stupid.” Hynny ydi, rhaid gweld bod creadigrwydd diwylliannol yn gallu arwain at ffynniant cymdeithasol ac economaidd. Mae pobol sydd yn hyderus yn eu diwylliant eu hunain yn llawer mwy tebygol o gredu y gellid trosglwyddo’r hyder hwn i’w cymdeithas a’u heconomi a chreu mentrau a busnesau newydd o bob math.

Yn hytrach na bod yn rhwystr fel yr awgrymwyd mewn modd mor nawddoglyd a di-ddeall ar raglen Newsnight yr wythnos hon, y gwir amdani ydi y gall diwylliant Cymraeg y Gorllewin arwain at adfywiad a datblygiad economaidd gan ffurfio cylch rhinweddol ar gyfer y dyfodol.

Gallai Awdurdod fel hyn hefyd edrych o’r newydd ar y rhagamcanion o ran codi tai yn y siroedd dan sylw a cheisio sicrhau bod y ffigyrau hyn yn cael eu haddasu i ateb gwir anghenion yr ardaloedd hyn: gan gynnwys llawer mwy o dai fforddadwy a thai ar rent hefyd yn cael eu codi ar gyfer y boblogaeth gynhenid.

Syniad

Un syniad diddorol y gallai ARFOR ei ystyried ar gyfer siroedd y gorllewin yw Treth Dwristiaeth. Mae treth fel hon eisoes ar waith yn Efrog Newydd a Pharis er mwyn amddiffyn a chynnal gwasanaethau lleol yn wyneb y pwysau mawr arnynt yn sgil twristiaeth.

Mae Maer Llundain, Saddiq Khan ar fin cyflwyno treth debyg yn Llundain (tua £2.00 ar ben cost pob arhosiad unigol mewn gwestai yn y ddinas) a fydd yn codi £100m y flwyddyn. Byddai treth debyg yn y Gorllewin yn debyg o godi rhwng £5 miliwn a £10 miliwn o bunnau, allai gael ei ddefnyddio i hybu’r economi leol mewn ffyrdd dychmygus ac atal yr allfudiad o bobl ifanc sy’n gymaint o broblem ar hyn o bryd.

Mae’n hen bryd troi twristiaeth i’n melin ein hunain a mynnu bod mwy o fuddiant gwirioneddol i’n cymunedau yn deillio o’r ffaith fod cymaint o bobl o bob rhan o’r byd yn mwynhau dod i weld y tirlun arbennig sydd gennym yn y gorllewin.  Go brin bod £2 ychwanegol pob nos ar gost eu hymweliadau  yn debyg o’u rhwystro rhag dod i weld rhyfeddodau naturiol yr ardaloedd hyn.

Ymarferol

Mater i eraill yw penderfynu sut yn union y byddai ARFOR yn gweithio’n ymarferol, ond un opsiwn yw sefydlu awdurdod o tua 60 aelod( 15 o bob sir presennol), a fyddai’n gyfrifol am osod trywydd strategol i’r 4 sir i’w dilyn.

Byddai’r Awdurdod, wrth gwrs, yn gweithredu trwy gyfrwng y Gymraeg, gan osod esiampl i holl gyrff yr ardaloedd hyn yn eu tro.

Gallai sefydlu’r Awdurdod olygu lleihau rhai o ddyletswyddau y cynghorau sir presennol gan mai asiantaethau cyflwyno’r cynlluniau penodol yn eu siroedd eu hunain a fydden nhw mewn gwirionedd ( gan arwain at docio niferoedd y cynghorwyr sir).

Efallai hefyd – dros amser – y gellid grymuso rol cynghorau cymuned lleol i fonitro a scriwtineiddio cynlluniau’r awdurdod wrth iddynt gael eu gweithredu yn y gwahanol gymunedau.

Y wyneb yr holl fygythiadau i’r  Gorllewin Cymraeg o ran patrymau allfudo ac ymfudo, ac oblygiadau Brexit yn debyg o waethygu pethau: mae gwir angen atebion radical arnom.

Mae ARFOR yn ymateb Cymreig a chreadigol i’r bygythiadau hyn a gobeithio y gwelwn ymchwydd o gefogaeth i’r syniad hwn o bob cyfeiriad.

BLOG: Yr Elyrch ond yn edrych i fyny y tymor hwn

Cyhoeddwyd Awst 12, 2017 gan Pêl-droed.

Tagiau: paul clement, Tommie Collins, Yr Elyrch


Tommie Collins sy’n pwyso a mesur y tymor i ddod i Abertawe…

Bydd cefnogwyr Abertawe yn gobeithio am dymor o sefydlogrwydd ar ôl  eu trafferthion tymor diwethaf.

Francesco Guidolin roedd y rheolwr dechrau tymor diwethaf cyn i’r Americanwr Bob Bradley cymryd yr awenau ar ôl dechrau sâl i dîm yr Eidalwr.

Roedd Bob Bradley ddim yn ffefryn nifer o’r cefnogwyr ac ar ôl 85 diwrnod cafodd ei ymddiswyddo.

Sylwadau cyn-chwaraewr

Paul Clement cafodd y dasg o gadw’r Elyrch yn yr Uwchgynghrair ac y nôl y cyn chwaraewr  y clwb, Owain Tudur Jones,  oedd dim llai na gwyrth yn be wnaeth Clement cyflawni i gadw’r Elyrch i fyny.

“Roedd y clwb mewn trafferth cyn i Clement cyrraedd a newidiodd o’r awyrgylch i gyd. Bydd y cefnogwyr ddim eisiau hunllef fel na eto. Meddai wrth Golwg360.

“Eto maen na chwmwl wedi bod dros y Liberty haf yma oherwydd sefyllfa Gylfi Sigurdsson. Tydi sefyllfa fel ma’ ddim yn dda i neb , y clwb y chwaraewr ar gefnogwyr, mi ddyla’ dyfodol Sigurdsson wedi cael ei sortio erbyn rŵan.

“Rwy’n edrych ymlaen at weld Tammy Abraham  yn y crys gwyn. Cafodd tymor gwych gyda Bryste yn y bencampwriaeth gan sgorio 21 gôl mewn 43 ymddangosiad. Dipyn o gamp ar unrhyw lefel. Mae wedi arwyddo cytundeb newydd pum mlynedd gyda Chelsea, mae hunan dangos bod ganddynt hwy dipyn o feddwl ohono.

“Dwi obeithio gweld Leon Britton yn chwarae rhan tymor yma, mae Britton yn arwr i’r cefnogwyr a’n sicr mae ei ddylanwad ar y cae neu yn yr ystafell newid yn hanfodol. Mae’n codi ysbryd y cefnogwyr maen nhw’n eu haddoli.

“Rwy’n sicr hefyd bod angen un neu ddau o chwaraewyr eraill i greu cystadleuaeth yn  y garfan a wneud yn siŵr bod pawb yn tynnu at ei gilydd i sicrhau tymor gwell.”

Eddie Ladd yn arwain y chwyldro


Disgo Distaw, Castell Caernarfon (Llun: Non Tudur)
Cafodd Non Tudur ei syfrdanu mewn disgo hanesyddol yng Nghastell Caernarfon…

‘Cofiwch bod y chwyldro yn eich calon’.

Dyna eiriau clo grymus sioe ragorol cwmni Eddie Ladd, Light, Ladd & Emberton yng nghastell Caernarfon, sef Disgo Distaw Owain Glyndŵr. Dyma’r lleoliad olaf ar y daith, yn dilyn cestyll Biwmares, Conwy a Harlech.

Mae Eddie Ladd – a gyflwynodd ei hun o dan ei henw go iawn, Gwenith Owen – yn un o’r artistiaid yna sydd byth yn peidio â rhyfeddu gyda’i syniadau gwreiddiol am sut i droi pishyn o’n diwylliant yn ddarn o gelf.

Odi, mae pobol yn gyfarwydd â syniad disgo distaw – rhoi clustffonau ar eich pen a dawnsio i’r un diwn â phawb arall. Roedd meddwl am ddawnsio yn ddigwmni ac yn sobor ar nos Iau ddim yn apelio rhyw lawer, ond roedd yr arlwy yn ormod o demtasiwn. Glyndŵr ac Eddie Ladd mewn castell? Doedd dim dwywaith amdani.

Gan fod disgwyl i chi ymgolli yn y peth o’r dechrau, mae’n anodd iawn gwneud gwerthfawrogiad o’r gwaith, gan roedd sach gefn yn rhwystr heb son am geisio estyn am feiro a phapur i gofnodi ambell beth.

Fe gawson ni stori gwrthryfel Glyndŵr ar ei hyd mewn steil, ar ruthr, i gyfeiliant caneuon disgo a thecno, ac roedd hi’n amhosib peidio â dechrau “shiglo” yn unol â’r cyfarwyddyd yn eich clustiau. Wrth i ‘Anarchy in the UK’ daranu yn ein clustiau, daeth Gwyn Emberton, partner Eddie Ladd yn y cwmni, i’n canol a sgrialu dawnsio hyd y lle, mewn crys-t ‘Choose Love’. Fe, yn ôl pob tebyg, oedd Owain Glyndŵr.

Fe lwyddon nhw i gyfleu hanes y gwrthryfel a’r ymladd trwy ddawns a’r cyfan i gyfeiliant clasuron disgo fel ‘I Feel Love’ a ‘Together in Electric Dreams’. Chwarae teg, pinaclau pop Cymraeg fel ‘Chwyldro’ gan Gwenno a ‘Gweld y Byd Mewn Lliw’ gan Fand Pres Llarregub oedd yn cael eu chwarae yn y mannau pwysig.

Llwyddiant mawr yr holl beth oedd deuawd Eddie Ladd a’i brawd, y dramodydd a’r darlithydd Roger Owen. Nhw fyddai’n llefaru’r hanes drwy’n clustiau. Eddie yn rhoi’r Gymraeg, yn ei thafodiaeth Sir Aberteifi bert, a’i brawd yn rhoi’r Saesneg – fel pe taen nhw’n chwarae bat-a-phêl eiriol a’r sgript yn tasgu o ffraethineb a gwreiddioldeb. ‘Dewch mlâ’n – oes da rywun mechanised cwrwgl?’ meddai Eddie Ladd, wrth dynnu’r dorf ar ei hôl ar hyd ryw afon ddychmygol. Roedd pedwar rhedwr/dawnsiwr arall yn tywys y dorf a’u hannog i ddawnsio a dim pall ar eu hegni hwythau chwaith.

Mi oedd hi’n amhosib peidio â bod yn rhan o’r lliaws bywiog ar lawntiau’r Castell. Fe gafodd y dorf i gyd yn rhan o dwmpath dawns yn un lle, wrth i Catrin merch Owain Glyndŵr briodi Edmund Mortimer, a fu wedyn farw yng nghwymp castell Harlech yn 1409. A fyddech chi’n gwrthod dawnsio tra bod bachgen bach 7 oed yn ceisio’u gorau i wneud ‘promenâd’?

Yn un rhan, pan waeddodd y ddau ‘Glyndŵr yw gwir dywysog Cymru!’ a ‘Glyndŵr is the True Prince of Wales!’ mi gafwyd bonllef gan ran fwyaf o’r dorf. Eglurodd y ddau nad hyn oedd yr achos ym mhobman. Bu’r ymateb yn Harlech yn un tebyg. “Ro’n nhw’n eitha bywiog yn Biwmares, mae’n rhaid i fi ddweud,” meddai Eddie Ladd. “Ro’n nhw’n mwynhau.”

“Mae yna elfen wleidyddol yn yr hanes,” meddai Roger Owen, “ond y nod yw cael pobol i ddawnsio, i ddod mas o’u hunain, nid eistedd nôl ond cynnig rhywbeth, a dod dros y swildod ar y dechrau.”

Ond colli wnaeth Glyndŵr, a cholli fesul castell – a oedd yn cael eu cynrychioli wrth i’r dorf gasglu yn heidiau o gwmpas handbag (beth arall). “Wps, Aberteifi wedi went,” meddai Eddie Ladd gan gipio un o’r llawr. Roedd ambell i lein yn cyfeirio’n gynnil at yr Iron Ring bondigrybwyll hefyd.

Roedd gwleidyddiaeth yn anochel yn perthyn i’r sioe, wrth i ddau Gymro Cymraeg adrodd hanes arwr pennaf y Cymry, ond hwyl oedd y prif nod. “Roedd hi’n hwyl drwyddi draw ond roedd yna achos reit tu ôl iddo fe hefyd sy’n gafael yn eich corff chi,” meddai Eddie Ladd wrtha i ar y diwedd.

Fe gawson nhw “benrhyddid llwyr” wrth greu’r sioe gan yr awdurdodau yn ôl Eddie Ladd – a CADW yn eu plith. “Ro’n i’n siarad gydag un neu ddau o’r ceidwaid ac o’n nhw’n e’n dweud, ‘o, ry’n ni’n cael cyhwfan baner Glyndŵr weithiau’,” meddai. “Ac wedodd un ohonyn nhw, ‘a bydden i’n cyhwfan e bob dydd os bydden i’n gallu’. Ac ry’n ni wedi cwrdd â lot o geidwaid a staff sy’n dweud ‘wel, Llywelyn Llyw Olaf yw gwir dywysog Cymru.’”

Taith fer oedd hon, sydd wedi cael ymateb brwd ar y cyfryngau cymdeithasol. Ac ateb pendant Eddie Ladd: “Ry’n ni am ei wneud e eto”.

BLOG: ‘Gwynedd Gydymffurfiol’ yn dweud cyfrolau amdanom ni

Cyhoeddwyd Gorffennaf 29, 2017 gan Cymru.

Tagiau: aled gwyn job, gwynedd


BLOG: Aled Gwyn Job yn rhoi ei argraffiadau o gyfarfod cynhyrfus o Gyngor Gwynedd yng Nghaernarfon ddoe

Fel Cenedl Anghydffurfiol y daeth y Gymru fodern i fodolaeth i bob pwrpas.

Arweiniodd y Diwygiadau Methodistaidd yn y 18ed ganrif at ddeffroadau addysgol, cymdeithasol a gwleidyddol pell-gyrrhaeddol yn eu tro. Gan sefydlu’r syniad sylfaenol hwnnw fod gan Gymru ei meddwl ei hun ar bethau, oedd yn amlach na pheidio yn tynnu’n groes i’r meddylfryd Prydeinig. Mae’r gred honno wedi ei chynnal a’i hanwylo gan genhedlaethau o Gymry ar hyd y blynyddoedd hyd heddiw.

Ond tybed ai fel cenedl gydymffurfiol y dylid meddwl am y Gymru gyfoes mewn cymaint o ffyrdd gwahanol erbyn hyn? Boed hynny ar ffurf y gred hynod boblogaidd hon nad oes gan ffydd ddim oll i’w ddweud wrthym yn y byd cyfoes, neu’r dybiaeth gyffredinol nad oes llawer iawn y gallwn ni ei wneud mewn gwirionedd i newid trefn sylfaenol ein cymdeithas yma neu hyd yn oed o ran yr obsesiwn gyda thechnoleg newydd o bob math – mae cydymffurfio bellach fel petai wedi ein meddiannu ni gorff ac enaid.

Ac mi roedd yr ysbryd cydymffurfiol hwn yn sicr ar waith ddoe yn Siambr Cyngor Sir Gwynedd, wrth i gynghorwyr y sir drafod y Cynllun Datblygu newydd (sy’n cyfateb i 8,000 o dai newydd i Wynedd a Môn rhwng 2011 a 2026.)

Nid yn gymaint yng nghanlyniad y bleidlais ei hun, gan fod 30 o gynghorwyr ar draws y sbectrwm gwleidyddol wedi pleidleisio yn ei erbyn, gan godi cwestiwn go fawr am hyfywedd y cynllun ar ei ffurf bresennol mewn gwirionedd.

Ond roedd y cydymffurfiad yn hytrach i’w weld yn y dadleuon craidd a ddefnyddiwyd gan y rhai hynny oedd o blaid y cynllun datblygu: aelodau cabinet y cyngor sir gan fwyaf.

Er y proffesu taer o blaid y Gymraeg a’i ffyniant hi oedd yn rhagflaenu bron pob un araith ganddynt: chafwyd yr un ddadl yn sgil hyny oedd yn argyhoeddi dyn y byddai’r cynllun datblygu yn gwneud LLES i’r Gymraeg yn y sir. Roeddwn yn disgwyl i ambell un geisio’n hargyhoeddi y byddai’r tai newydd yn allweddol, wrth er enghraifft, ddenu Cymry alltud yn ôl i Wynedd i gychwyn busnesau ac ati, ac y byddai hynny yn ei dro yn helpu tuag at gyflawni un o bolisiau strategol pwysicaf y Cyngor Sir, sef codi canran siaradwyr Cymraeg y sir o 65% i 70% erbyn 2021. Ond na, chafwyd dim ymdrech o gwbl i geisio cyflwyno narratif i’r perwyl hwn.

Neges greiddiol

Y neges greiddiol a gafwyd ganddyn nhw yn ei hanfod oedd: ylwch bois – does gynno ni ddim dewis ond cydymffurfio hefo gofynion yr Arolygiaeth Gynllunio fan hyn.

Codwyd sawl bwgan gan aelodau’r Cabinet yn ystod y trafod, megis y byddai gwrthod y cynllun datblygu yn golygu y gallai Llywodraeth Lafur Cymru ei berchnogi’n llwyr a’i weithredu o Gaerdydd, neu hyd yn oed ddanfon comisiynwyr i mewn i redeg Cyngor Gwynedd yn uniongyrchol. Soniwyd hefyd sut yr oedd datblygwyr yn llyfu’u gweflau wrth feddwl am sefyllfa lle na fyddai cynllun datblygu yn ei le yn y sir.

Ac fe roddwyd pwys mawr ar farn wrthrychol yr Arolygydd Cynllunio ynghylch “cadernid” y cynllun: heb unrhyw synnwyr o ba mor hurt oedd hyn yn swnio o gofio eu bod yn sôn am Arolygydd na wyddai’r un dim am ystyr arwyddair y cyngor sef “Cadernid Gwynedd”, heb son am hanes y sir dros y canrifoedd a roddodd fodolaeth i’r arwyddair hwn.

Bron nad oedd yr aelodau cabinet a siaradodd yn y siambr pnawn ddoe yn cyflwyno’u hunain fel gweinyddwyr yn hytrach na gwleidyddion.

Hynny ydi, eu bod yn gweld eu rôl bellach fel quasi-swyddogion sydd yno i weithredu’r hyn a gaiff ei wthio arnynt yn hytrach na chofio eu bod wedi eu hethol i wleidydda dros bobl Gwynedd yn anad un peth arall.

Mae lle i ddadlau bod y system gabinet wedi hwyluso’r broses hon, gydag aelodau’r cabinet bellach yn treulio mwy o amser yn y cyngor yng nghwmni swyddogion nag ydyn nhw yng nghwmni eu cyd-gynghorwyr, a bod yr hen berthynas hyd-braich traddodiadol (a llesol) rhwng cynghorwyr a swyddogion wedi hen ddiflannu. Mae’n gŵyn gyffredin iawn gan drwch cynghorwyr o bob lliw gwleidyddol bellach eu bod hwy wedi eu hymylu’n llwyr yn y broses hon.

Ac wrth gwrs, mae gweinyddwyr wastad yn iawn. Roedd hi’n drawiadol iawn ddoe pa mor gwbl argyhoeddedig oedd Dafydd Meurig (Portffolio Cynllunio) a Dyfrig Siencyn (Arweinydd y Cyngor) mai nhw oedd yn IAWN. Doedd dim gronyn o amheuaeth gan y naill na’r llall am rinweddau a rhagoriaeth y cynllun datblygu:  fel pob gweinyddwr gwerth ei halen, roeddan nhw wedi llwyr berchnogi a chredu eu sbin eu hunain.

Bron oeddech chi’n teimlo mai dadlau dros eu hygrededd a’u didwylledd hwy eu hunain fel unigolion oeddan nhw yn y bôn, yn hytrach na dadlau’n wrthrychol am y cynllun ei hun. ”Trystiwch ni hogia” oedd eu ple gan ddwyn i gof yr arch-berswadiwr hwnnw, y cyn Brif Weinidog Tony Blair cyn iddo fynnu ei le ar lwyfan y byd yn 2003.

Roedd hi’n eironig iawn mai aelod o’r Blaid Lafur, sef Sion Jones o Bethel a gyflwynodd un o’r areithiau gorau yn y siambr ddoe: araith oedd mewn gwirionedd yn chwa o awyr iach o’i gymharu gyda sbin y gweinyddwyr a gyfeiriwyd ato uchod. Dywedodd ei fod yn gwybod yn iawn ei fod yn mynd yn groes i ewyllys ei blaid wrth wrthwynebu’r cynllun datblygu ond bod dyfodol y Gymraeg yn bwysicach iddo na’i les gwleidyddol ei hun.

Ymhellach, fe gyflwynodd un o’r pwyntiau pwysicaf yn yr holl drafodaeth: sef y dylai’r Cyngor Sir fod wedi pwyso am sicrhau statws ieithyddol arbennig i Wynedd a Môn fel rhan o’r drefn gynllunio yng Nghymru o gofio mai dyma’r unig ddwy sir lle mae’r iaith Gymraeg yn parhau’n iaith fyw a chymunedol ar raddfa eang. Ond na, ddaeth hi ddim i feddwl y “gweinyddwyr” i geisio ymladd dros hynny.

Mae’r clefyd gweinyddu a chydymffurfio yn hytrach na gwleidydda a  chwestiynu yn bla yn y Gymru gyfoes erbyn hyn. Efallai’n wir fod y duedd hon yn deillio’n ôl i gychwyn datganoli ei hun pan benderfynodd Plaid Cymru bod rhaid sefydlogi a diogelu dyfodol y Cynulliad Newydd trwy estyn pob cymorth posib i’r Blaid Lafur.

Mae’r gefnogaeth hon i Lafur a helpu Llafur i “weinyddu” Cymru wedi bod yn elfen gyson yng ngwleidyddiaeth Cymru dros y 17 mlyned diwethaf: a’r gweinyddu dof yma yn ei dro yn un o’r rhesymau pam y mae datganoli wedi profi’n gymaint o siomedigaeth.

Yn waeth na hynny, mae’r broses hon bellach wedi troi’n nodwedd genedlaethol gwaetha’r modd.  Clywir byth a beunydd am “weinyddu” cynlluniau addysgol, “gweinyddu” newidiadau mewn arferion cynghorau sir, “gweinyddu” ein gwasanethau iechyd mewn amryfal ffyrdd a “gweinyddu’r” ychydig o ddatblygiadau economaidd sy’n digwydd yma. Ac mae’r nifer fawr o weinyddwyr sydd yn gorfod bod ynghwm wrth yr holl brosesau uchod yn brawf pellach o’r ffenomena hon. Mae’r holl bwyslais ar weinyddu yn ein bywyd cyfoes yn amlach na pheidio yn arwain at gydymffurfiad: dyna holl natur y bwystfil. Ac mae cydymffurfiad yn y sefyllfa sydd ohoni yn ddamniol mewn cymaint o ffyrdd.

Mae’n berffaith amlwg bellach mewn myrdd  o feysydd gwahanol ym mywyd Cymru mai ysbryd anghydffurfiol newydd sydd ei angen arnom.

Pwy a’n gwaredo o glwy y Gweinyddu?!