Malky Mackay
Y cefnogwr brwd Dafydd Wyn Williams sy’n bwrw golwg dros berfformiad Caerdydd yn erbyn Dinas Bryste dros y penwythnos…

Pleser digymysg yw cael nodi fod Robert “ E Earned it” Earnshaw wedi cael ei gôl gyntaf yn ôl yng Nghaerdydd yn erbyn Bristol City brynhawn ddoe. Rhuodd y dorf megis Rhufain yn ail-groesawu Cesar yn ôl wedi ymgyrch yn nhiroedd estron…mae’r mab afradlon wedi dod adref ac mae Lecwydd yn ymfalchïo.

Dechreuodd pob un o’r sawl a chwaraeodd yn erbyn West Ham; gan gynnwys Craig Conway a oedd siŵr o fod yn cyrraedd ei begwn o ffitrwydd yn ystod y gêm lwyddiannus yn y gwpan Carling yn Rhydychen yn ystod yr wythnos. Gêm werth ei methu fel cefnogwr oedd hon mae’n debyg; ac fel rheolwr o weld gweddill y tîm chwaraeodd! Roedd Conway felsa’ fe ymhobman yn erbyn Bryste – o Ddyffryn Clwyd hyd diroedd cartref Côr Meibion Taf; yn gyntaf yn gosod y bêl ar dalcen ei gapten ar gyfer y gôl gyntaf ac yna’n sgorio un ei hun yn y drydedd funud ar hugain i selio’r fuddugoliaeth i bob pwrpas. Diolch byth am hynny, gan fod Hudson siŵr o fod wedi blino ar ôl gorfod gyrru’r bws i’r stadiwm gan mai fe oedd un o’r unig rai oedd wedi bod i’r stadiwm o’r blaen!

Mae gwylio Caerdydd megis gwylio tîm criced Lloegr (sori, yr England and Wales Cricket Board ddylwn i ddweud) ar hyn o bryd; yn ymlwybro o fuddugoliaeth i fuddugoliaeth a phawb yn crafu pen yn ceisio cofio yn union beth oeddent yn ei wneud mor aflwyddiannus yn y gorffennol. 

Mae Malky Mackay wedi llwyddo i arbed mwy nag un chwaraewr rhag mynd i ddifancoll dros yr haf; er bod Rangers wedi mynegi diddordeb yn Conway cyn iddo adael y Tangerines yn Tannadice. Fel rhywun oedd wrth fy modd yn gwylio Dundee United  yn chwarae yn Ewrop ar Ceefax pan yn fachgen bach, rydw i’n sicr fod ganddo’r cefndir a’r ansawdd rydyn ni’n mynnu yma yn E Coli alley.

Mae Andrew Taylor wedi llwyddo i gael pob prynhawn Sadwrn (a Sul hyd yn hyn) i ffwrdd o’i weithle www.platinumplayers.co.uk er mwyn cynrychioli’r Adar Gleision.  Mae’n ffeithiol gywir i nodi ei fod wedi dechrau’r wefan i amddiffyn ei gyd-chwaraewyr rhag y pla o dalu gormod am nwyddau a theclynnau. Chwarae teg i beldroedwyr, o leia maent wedi ennill yr arian maent yn gwastraffu a dylen nhw gael clod am hynny! A chlod i Taylor dros y penwythnos am berfformiad gweithgar arall, mae’n siŵr ei fod wedi plesio Mackay ers gadael ‘Boro i ailymuno ag ef wedi eu hamser gyda’i gilydd yn Watford.

Un o berfformwyr orau Bryste – wrth gwrs – oedd Lewin Nyatanga. Well in Lewin!  Dim ond eilydd oedd Jon Stead serch ei ymdrechion arwrol i Mark Hughes pan yn Blackburn flynyddoedd yn ôl…Mark Whose?

Chwaraewr ifanc arall a greodd dipyn o argraff heddiw i Gaerdydd oedd Joe Mason a ddaeth i’r maes yn lle Gunnarrsson yn y ddegfed munud.  Nid bachan lleol, ond yn hytrach un o’r Weriniaeth yw Joe, a mwynhaodd chwarae i wyrddion Plymouth Ar Gael cyn Caerdydd.  Mae’r Ar Gael yr un mor boblogaidd â Chlwb Pêl-droed Caerdydd yn Aberystwyth wrth gwrs, a hynny gan eu bod yn rhannu lliwiau crysau cartref Clwb Pêl-droed Aberystwyth bob yn ail gêm gartref.

Dafydd Wyn Williams