Mae academydd sydd wedi ymroi i beidio â thalu ei drwydded teledu wedi dweud ei fod yn disgwyl i gannoedd ymuno yn yr ymgyrch.

Dywedodd Dr Simon Brooks ei fod yn ystyried yr ymgyrch yn erbyn tocio cyllideb S4C yn “bwysig i hunan barch” y Cymry Cymraeg.

Roedd enw Simon Brooks yn un o gant a ddatgelwyd gan Gymdeithas yr Iaith ddoe. Ymysg yr enwau eraill roedd y cantorion Dafydd Iwan, Bryn Fôn a Gai Toms, a llywydd Plaid Cymru, Jill Evans.

Lansiwyd yr ymgyrch yn dilyn y cyhoeddiad y bydd cyllideb S4C yn cael ei dorri 25% erbyn 2015 a’r rhan fwyaf o’r cyfrifoldeb dros ariannu’r sianel yn cael ei drosglwyddo i ddwylo’r BBC.

“Mae’n bwysig i hunan-barch y diwylliant Gymraeg – dyma’r corff pwysicaf o ran sefydliad Cymraeg. Mae’n bwysig ei fod yn cael ei drîn yn y ffordd gywir a chyda pharch,” meddai Simon Brooks.

“Mae ymgyrch y Gymdeithas yn ymgyrch fawr – rydw i’n credu y bydd cant yn troi’n gannoedd. Dyma fydd yr ymgyrch dreth fwyaf ers diwedd yr 80au.”

‘Effeithiol’

Ddoe, dywedodd y corff sy’n gyfrifol am gasglu’r trwyddedi deledu wrth Golwg360 eu bod nhw am “drîn pob person sy’n osgoi talu eu trwydded deledu’r un fath”.

Ond dywedodd Simon Brooks wrth Golwg 360 ei fod yn awyddus i weld “beth fydd barn y llysoedd” ar y mater ond mai’r ymgyrch yn hytrach na’r gosb sy’n ei boeni ef.

“Dydw i ddim yn gallu meddwl am unrhyw ddarlledwr cyhoeddus arall yng ngorllewin Ewrop fyddai’n derbyn y fath newyddion ad hoc heb broses ymgynghorol. Dw i’n meddwl y bydd y brotest yn effeithiol,” meddai.

Ychwanegodd y bydd y brotest yn “dangos y ffordd ymlaen i’r BBC” ac y bydd yn “help i’r Llywodraeth yn Llundain ddeall y sefyllfa yn well”.