Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi datgan heddiw eu bod yn cyflwyno cais i ddymchwel Pafiliwn Corwen, sydd wedi ei gondemnio a’i gadw ar glo ers mis Ebrill, 

Fe wnaed y penderfyniad mewn ymgynghoriad llawn â Gweithgor Pafiliwn Corwen.

Eisoes, mae’r cyngor wedi gweithio’n agos â’r grŵp ers y 6 mis diwethaf gan ddod â nifer o swyddogion y sir i edrych ar faterion sy’n ymwneud â dylunio, cost ac ariannu yn y dyfodol.

Mae’r adeilad y tu hwnt i’w atgyweirio’n economaidd, yn ôl y Grwp,  a beth bynnag fydd yn digwydd ar y safle yn y dyfodol, mi fydd angen symud yr adeilad oddi ar y safle er mwyn caniatau i hynny ddigwydd. 

Tra bod yr adeilad yn aros yn wag ar y safle, mae yna “risg sylweddol” i’r cyngor a’r gymuned leol, meddai datganiad y cyngor.

Trefnwr Sgrech

“Roedd y pafiliwn yng Nghorwen yn lle canolog i Gymru gyfan – yn hwylus i bobol ddod o’r gorllewin, y canolbarth a’r de,” meddai Glyn Tomos o Gaernarfon, a oedd yn gyfrifol am drefnu a chynnal nosweithiau roc yn y pafiliwn, dan nawdd y cylchgrawn Sgrech.

“Roedd hi’n gyrchfan ddelfrydol oedd yn dal dros fil yn bell ac roedd awyrgylch arbennig yno a hanes i’r lle,” meddai Glyn Tomos wrth Golwg360.

“Roedd yn lleoliad ymarferol hefyd hefo digon o lefydd parcio, tafarndai difyr a siop jîps. Ond, fedrai weld bellach nad ydi’r adnoddau yno,” meddai, cyn disgrifio’r pafiliwn pan yn ei anterth fel “lle arbennig iawn”.

Bydd y Cyngor yn cyhoeddi hysbysiad statudol o 6 wythnos o’i fwriad i ddymchwel y Pafiliwn. Mae’r gwaith wedi ei gynllunio ar gyfer dechrau mis.