Mae’r arlunydd Michael Gustavius Payne a’r bardd Mike Jenkins wedi dod at ei gilydd i greu arddangosfa unigryw o gerddi a lluniau.

Y thema a fydd yn eu huno yw rhai o’r idiomau Cymraeg sydd wedi’u hysbrydoli wrth iddyn nhw fynd ati i ddysgu’r iaith.

“Daeth yn amlwg iawn wrth glywed y Gymraeg mwy a mwy,” meddai Michael Gustavius Payne, sy’n cael gwersi Cymraeg yng Nghanolfan Soar, Merthyr, “bod nifer fawr o ddywediadau lliwgar a deniadol yn yr iaith. Roedd hynny wedi dechrau ysbrydoli fy nghelf i wedyn.

“Fe ddechreuodd y ddau ohonom ni drafod yr idiomau oedd wedi cydio yn y ddau ohonom ni. A dyna fe mewn gwirionedd, roedd cynllun newydd wedi ei eni.”

Dydyn nhw ddim yn gweithio gyda’i gilydd a dyw un ddim yn gweld gwaith y llall wrth greu darn unigol. O ganlyniad mae un idiom yn gallu creu dau ymateb cwbl wahanol.

“Mae hynny wedi bod yn rhan gyffrous o greu’r gwaith,” medd Gus Payne, swyddog datblygu’r celfyddydau i Gyngor Bwrdeistref Merthyr wrth ei waith bob dydd,

“Yr unig beth sy’n gwbl gyffredin mewn gwirionedd yw’r idiom wreiddiol ac mae’n ddifyr iawn i’r ddau ohonom ni weld siwd mae’r llall wedi dehongli’r un dywediad.”

Darllenwch weddill y stori yng nghylchgrawn Golwg, 7 Hydref