Fe fydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn cynnal ymchwiliad statudol i’r ffordd y mae Comisiwn y Cynulliad yn gweithredu ei bolisi iaith.
Mae hyn o ganlyniad i benderfyniad dadleuol gan Comisiwn y Cynulliad ym mis Mai i beidio â chyfieithu Cofnod y Cynulliad o’r Saesneg i’r Gymraeg.
Yn ogystal â chythruddo ymgyrchwyr iaith, cafodd penderfyniad y Comisiwn i beidio a chyfieithu areithiau Saesneg ar gyfer y Cofnod ei feirniadu gan Aelodau Cynulliad o bob plaid.
Yn ol Cadeirydd Bwrdd yr Iaith, Meri Huws, mae amheuon hefyd ynghylch cyfreithlondeb y penderfyniad.
“Uniaith Saesneg oedd trwch y Cofnodion a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf, a chofnod o’r penderfyniadau yn unig a geir yn y Cofnod Cryno dwyieithog,” meddai.
“Ein cred ni fel aelodau’r Bwrdd yw fod y cam hwn nid yn unig yn trin y ddwy iaith yn anghyfartal, a hynny yn ein prif sefydliad democrataidd yng Nghymru, ond rydym hefyd yn meddwl ei bod hi’n bosibl fod Comisiwn y Cynulliad wedi methu â chyflawni ei Gynllun Iaith. Byddwn yn ymchwilio yn unol â’n dyletswyddau o dan Deddf yr Iaith Gymraeg 1993.”
Fodd bynnag, gyda’r Comisiwn yn un o gyrff y Goron nad yw’n atebol i lywodraeth y Cynulliad, nid yw’n glir eto pa gamau y gallai Bwrdd yr Iaith eu cymryd i’w orfodi i gydymffurfio â gofynion y ddeddf.