Mae o leia’ 15 o bobol wedi marw yn Iràc ar ôl i ddynion arfog geisio torri i mewn i fanc yn y brifddinas, Baghdad.

Yn ôl adroddiadau, roedd ffrwydrad wedi digwydd gerllaw’r banc yn union cyn yr ymosodiad, ac roedd dau berson wedi’u ffrwydro eu hunain wrth y brif fynedfa.

Roedd y dynion wedi ceisio mynd i mewn trwy ddwy fynedfa, ac wedi saethu at luoedd diogelwch.

Ond mae’r awdurdodau wedi dweud bod y lluoedd diogelwch wedi dal eu tir, a bod dim arian wedi cael ei ddwyn.

Mae’r awdurdodau wedi beio al-Qaida am yr ymosodiad.