Mae un o feirdd mwya’ llachar ei genhedlaeth wedi marw’n sydyn yn ei fflat ym Mangor.

Fe ddaeth ffrind o hyd i’r Prifardd Iwan Llwyd yn gynt heddiw ond does dim rhagor o fanylion am yr amgylchiadau ar hyn o bryd. Mae Golwg 360 yn deall nad yw’r heddlu’n credu bod dim amheus.

Fe ddaeth Iwan Llwyd, 52 oed, i amlygrwydd cenedlaethol wrth ennill Coron yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1990, gyda chyfres o gerddi a gafodd ganmoliaeth uchel gan y beirniaid.

Ar ôl hynny, fe gyhoeddodd nifer fawr o gyfrolau, gyda cherddi oedd yn taro tant, yn arbennig ymhlith pobol ifanc. Roedd ei gerddi’n gyson ar y cwricwlwm Cymraeg ac yntau’n siaradwr poblogaidd iawn ar gyrsiau.

Fe ddaliodd elfen fyw o ysbryd cenhedlaeth y 70au, gan dynnu llawer o’i ysbrydoliaeth o fyd roc a’i ddiwylliant.

Roedd hefyd yn gerddor, ac wedi canu’r gitâr fas gyda Steve Eaves a Geraint Lovgreen. Roedd yn deithiwr brwd ac wedi dal naws sawl gwlad a lle yn ei gerddi.

Yn ddiweddar, roedd yn byw ar  ei ben ei hun ac wedi bod yn y fflat yn Stryd Glanrafon, Bangor, ers mis Ebrill. Mae Golwg360 yn deall nad oedd neb wedi ei weld ers rhai dyddiau. Mae’n gadael ei wraig a’u merch 11 oed.

Fe fydd Golwg360 yn cynnwys teyrngedau iddo yn ystod y dyddiau nesa’.