Mae un o’r arbenigwyr pennaf ar yr iaith Gymraeg wedi dweud bod rhaid i arweinwyr gwleidyddol wneud mwy i uno’r genedl.

Mae’r Athro Harold Carter eisiau gweld gwleidyddion yn arwain y ffordd i gael gwared ar y rhaniadau yn syniadau’r Cymru am eu cenedl a’u diwylliant.

Mae hefyd eisiau gweld Caerdydd yn cymryd ei chyfrifoldeb yn brifddinas ar gyfer y wlad i gyd, yn hytrach na thrio gwneud marc yn ehangach.

“Mae angen arweiniad gan elfennau diwylliannol yn y Cynulliad i sicrhau unoliaeth y genedl,” meddai’r academydd yn ei lyfr newydd, Against the Odds: The Survival of Welsh Identity.

“Mae angen i Gaerdydd ddarbwyllo’r Cymry ei bod yn ganolfan sy’n cynrychioli Cymru gyfan yn hytrach na cheisio bod yn brifddinas ryngwladol”

Ac yntau’n gyfrifol – ar y cyd gyda John Aitchison – am gyfres o lyfrau yn mapio hynt a helynt yr iaith, mae’r Athro Carter yn dweud fod Cymru’n dal i fod wedi ei hollti bob ffordd tros hunaniaeth.

Tri chyflwr i Gymro

Yn y llyfr, mae’r cyn ddarlithydd ym Mhrifysgol Aberystwyth yn dweud fod yna dair prif farn ynglŷn â beth sy’n gwneud Cymro:

• Y gallu i siarad yr iaith Gymraeg, a bod pawb sydd heb y gallu yn Gymro eilradd

• Y di-Gymraeg sy’n gwrthod derbyn mai’r iaith yw’r prif beth sy’n gwneud Cymro – maen nhw’n creu eu hunaniaeth o amgylch sefydliadau fel y Cynulliad Cenedlaethol

• Unrhyw un un sydd wedi ei eni yng Nghymru ac sy’n eu hystyried eu hunain yn Gymry am nad oes ganddyn nhw unrhyw gysylltiadau eraill.

RHAGOR AM DDADLEUON YR ATHRO

‘Amrywiaeth mawr’

“Mae yna amrywiaeth mawr yn yr hunaniaeth Gymreig,” meddai Harold Carter. “Mae gwaith Edward I a’r Ddeddf Uno yn dal i fod yn llwyddiannus am ei fod o wedi disodli undod Cymru gyda gwrthdaro a chasineb.

“Dyw’r genedl ddim yn gwbl ranedig erbyn hyn, ond mae yna raniadau tros elfennau megis yr iaith Gymraeg. Er hynny rwy’n teimlo bod y rhaniadau yn cael eu gorliwio yn fawr,” meddai’r Athro Harold Carter.

“Does dim amheuaeth bod yr iaith Gymraeg yn bwysig iawn i ddiwylliant Cymru ac fe fyddai yna fwlch mawr hebddi. Mae wedi bod yn edau allweddol dros y blynyddoedd.”

‘Angen arweiniad’

Mae’r Athro’n credu bod rhaid i’r Cynulliad ddangos arweiniad i uno’r genedl Gymreig.

“Mae angen perswadio’r gwahanol ochrau – gyda’u hamrywiaeth barn am yr hunaniaeth Gymreig – i beidio â gwrthwynebu ei gilydd,” meddai.

Mae’r cyn Athro Daearyddiaeth yn credu y bydd modd uno’r uno’r genedl yn y dyfodol: “Mae’r holl dueddiadau’n awgrymu y gallai’r Cymry gymodi ac uno fel cenedl”

Hanes Cymru

Mae’r llyfr yn amlinellu hanes Cymru ers y Rhufeiniaid gan ddweud bod arfer Cymry’r Canol Oesoedd o rannu tir ymysg yr holl feibion yn gyfrifol am y diffyg undod yn y wlad.
Roedd diffyg tir amaethyddol Cymru hefyd wedi arwain at dlodi ac, yn sgil hynny, at boblogaeth wasgaredig.

Dim ond ar ôl dechrau’r Chwyldro Diwydiannol y tyfodd poblogaeth Cymru ac y cafodd sefydliadau cenedlaethol eu creu. Ar y dechrau oddi mewn i Gymru y daeth y mewnfudwyr i’r ardaloedd diwydiannol.

Yn y llyfr, sy’n cael ei gyhoeddi gan y Sefydliad Materion Cymreig, mae Harold Carter yn dweud bod mewnfudo i Gymru wedi gwanhau’r iaith, ond bod mudo gan Gymry Cymraeg ifanc i ddinasoedd fel Caerdydd wedi cryfhau’r iaith mewn ardaloedd ble’r oedd hi’n wan.

Against the Odds. The Survival of Welsh Identity , IWA, 150pp £9.99. (Llun:IWA)