Mae dau actor o Gymru wedi ennill Gwobrau Laurence Olivier am eu rhannau mewn sioe gerdd newydd.

Fe enillodd Aneurin Barnard o Ddyffryn Ogwr, wobr yr actor gorau mewn sioe gerdd neu adloniant, am ei ran yn Spring Awakening.

Fe gafodd ei gyd-Gymro, Iwan Rheon o Gaerdydd, ei ddyfarnu’n actor ategol gorau mewn sioe gerdd neu adloniant.

Canmoliaeth

Mae sioe gerdd Spring Awakening wedi derbyn canmoliaeth fawr gan y beirniaid. Mae’n adrodd stori pobol ifanc sy’n trio torri’n rhydd o ormes eu rhieni.

Dyma oedd perfformiadau proffesiynol cyntaf y ddau actor mewn sioe gerdd, ond maen nhw ill dau wedi ymddangos ar raglenni teledu.

Mae Aneurin Barnard wedi ymddangos ar gyfresi Doctors, Casualty, Shameless a Y Pris ar S4C. Mae ar hyn o bryd yn ffilmio Ironclad gyda Paul Giamatti a Derek Jacobi.

Mae Iwan Rheon yn wyneb adnabyddus yn dilyn ymddangosiadau ar Pobl y Cwm a Misfits.