Mae Mohammad Asghar wedi cydnabod mai penderfyniad Plaid Cymru i beidio â gadael i’w ferch weithio iddo oedd y prif reswm iddo groesi at y Ceidwadwyr.

Mae wedi dweud hefyd ei fod yn ffyddiog y bydd y Ceidwadwyr yn caniatáu i’w ferch weithio iddo, os yw hi’n gymwys.

Mewn cyfweliad gyda Radio Dinas Casnewydd, fe gadarnhaodd yr AC tros Ddwyrain De Cymru fod Plaid Cymru wedi gwrthod gadael i’w ferch Natasha weithio iddo, yn unol ag argymhellion Adroddiad Roger Jones i safonau.

Dywedodd Mohammad Asghar nad oedd rheolau penodol i wahardd hynny a bod ei ferch yn gymwys. Byddai’n cael gweithio iddo am ddim, gan roi ei thâl i elusen. Dywedodd hefyd y byddai ei wraig, sy’n gweithio iddo yn rhan amser, yn rhoi’r gorau i’w swydd hi.

Dod adref

Y rheswm ei fod am i’w ferch weithio iddo meddai, oedd ei fod am iddi ddod adref o Lundain i Gymru. Honnodd fod arweinydd Plaid Cymru yn y Cynulliad, y Dirprwy Brif Weinidog Ieuan Wyn Jones, wedi cytuno’n wreiddiol, ond ei fod wedi newid ei feddwl.

Mae Plaid Cymru’n dweud eu bod wedi atal merch Mohammad Asghar rhag gweithio iddo yn dilyn argymhellion dau adroddiad a gyhoeddwyd yn dilyn sgandal costau gwleidyddion yn gynharach eleni.

Roedd adroddiad Syr Christopher Kelly yn San Steffan wedi awgrym na ddylai Aelodau Seneddol gyflogi aelodau o’u teuluoedd ac adroddiad Syr Roger Jones yn y Cynulliad wedi dweud na ddylai ACau gyflogi perthnasau o hyn ymlaen.

Addewid gan y Torïaid?

Mae Plaid Cymru’n honni fod Mohammad Asghar wedi cael sicrhad gan y Ceidwadwyr y byddai ei ferch yn cael gweithio iddo petai’n croesi atyn nhw.

Mae’r darpar ymgeisydd yn Nwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, Jonathan Edwards, wedi galw ar arweinydd Torïaid Prydain, David Cameron, a’r llefarydd ar Gymru yn San Steffan, Cheryl Gillan, i egluro os oedden nhw’n ymwybodol o’r fath addewid.

Dywedodd nad oes modd i David Cameron wthio’r bai ar arweinydd y Torïaid yn y Cynulliad, Nick Bourne, gan fod aelod o gabinet yr wrthblaid, Cheryl Gillan, yn y gynhadledd pan gyhoeddwyd y byddai Mohammad Asghar yn newid plaid.