Mae’r AC Mohammad Asghar wedi gadael Plaid Cymru ac ymuno gyda’r blaid Dorïaidd.

Cyhoeddodd ‘Oscar’, sy’n cynrychioli Dwyrain De Cymru, ei fod yn symud i’r wrthblaid mewn cynhadledd i’r wasg bore ‘ma.

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru Ieuan Wyn Jones ei fod wedi ei “siomi a’i synnu” gan y cyhoeddiad.

Mae’n golygu bod nifer ACau Plaid Cymru yn gostwng i 14 a nifer y Ceidwadwyr yn codi i 13.

Croesi’r Siambr

Dyma’r tro cyntaf i Aelod Cynulliad ymuno gyda phlaid arall – er bod Rod Richards, wedi gadael y Ceidwadwyr i fynd yn annibynnol.

Mae Plaid Cymru yn galw ar Mohammad Asghar i ymddiswyddo gan ddweud nad oes ganddo fandad yr etholwyr i’w chadw.

Ond, mae’r ddeddf yn dweud, fel yn achos Rod Richards, bod gan Mohammad Asghar yr hawl i gadw’r sedd.

Ymddiswyddo

“Rydym ni’n galw ar Mohammed Asghar i gymryd y cam anrhydeddus a ymddiswyddo o’i sedd fel AC Plaid Cymru,” meddai Cadeirydd Grwp Plaid Cymru, Dai Lloyd.

Yn ol y rheolau, dim ond trwy farwolaeth neu ymddiswyddiad y bydd AC yn gadael sedd – yn achos sedd ranbarthol, byddai honno wedyn yn mynd i’r person nesa’ ar restr y blaid. Dyna a ddigwyddodd pan ymddiswyddodd Alun Michael a Delyth Evans yn dod yn ei le.

“Doedd pobol rhanbarth Dwyrain De Cymry ddim eisiau ail AC Toriaidd i’w cynrychioli – fe wnaethon nhw ethol AC Plaid Cymru,” meddai Dai Lloyd.

“Does gan Mr Asghar ddim mandad gwleidyddol i eistedd yn y Cynulliad fel aelod y Ceidwadwyr dros y De Ddwyrain.”

Mae’n cau’r bwlch rhwng Plaid Cymru a’r Blaid Dorïaidd, sydd wedi ei gwahanu o un sedd, 13 i 14.

AC Torïaidd

Dywedodd Mohammad Asghar ei fod yn ymuno gyda’r Torïaid am nad oedd yn cytuno gyda pholisïau’r cenedlaetholwyr.

“Rydw i’n credu mewn Cymru gryfach o fewn y Deyrnas Unedig,” meddai. “Rydw i’n edrych ymlaen at chwarae rhan bwysig yn yr wrthblaid a helpu i siapio polisïau cyn etholiadau Cynulliad 2011.”

Y dyn o Peshwar ym Mhacistan yw aelod cyntaf y Cynulliad i fod yn Foslem ac i ddod o leiafrif ethnig.

Dywedodd arweinydd yr wrthblaid Nick Bourne ei fod yn “ddiwrnod gwych i’r Ceidwadwyr Cymreig”.

Mae ei ferch Netasha Asghar, hefyd wedi ymuno gyda’r blaid Geidwadol wedi bod yn un o ymgeiswyr Plaid Cymru mewn etholiadau.

Ymateb Plaid

“Rydym ni’n difaru penderfyniad Mohammad Asghar a mae’n dod fel sioc i grwp Plaid Cymru a’r blaid yn ei gyfanrwydd,” meddai Ieuan Wyn Jones, nad oedd wedi cael gwybod ymlaen llaw. “Roedden ni’n synnu bod y newyddion wedi dod gan y cyfryngau.

“Roedden ni’n falch iawn o’r ffaith ein bod ni wedi sicrhau etholiad yr AC cyntaf o gefndir ethnig drwy ymgyrchu’n galed o blaid Mohammad Asghar.”

Ymateb – blog gan Dylan Iorwerth yn adran Sylwadau