Wrth i Swyddfa Archwilio Cymru gynnal ymchwiliad i ofal iechyd meddwl, mae cleifion, gweithwyr iechyd ac arbenigwyr yn y maes yn galw am fyw o ddarpariaeth Gymraeg.

Yn ôl yr awdures ac ymgyrchydd iaith, Angharad Tomos, mae angen gwneud mwy dros gleifion Cymraeg yn y gwasanaeth iechyd meddwl.

Mewn cyfweliad arbennig â Golwg, mae’n trafod ei phrofiad o ddioddef o iselder ar ôl genedigaeth ei phlentyn. Er ei bod yn ymgyrchydd iaith amlwg, roedd yn ei chael yn anodd iawn brwydro dros ei hawliau ei hun.

“Iselder ôl-genedigaeth ges i, post natal depression,” eglura Angharad Tomos am ei phrofiad ddwy flynedd yn ôl.

“Roedd yr ymwelydd iechyd ges i yn Gymraeg. Ond unwaith ges i fy nadansoddi bod gynna fi broblem iselder roedd pob cam yn y gwasanaeth yn Saesneg.

“Ges i ymwelydd i ddod i ‘ngweld i yn y cartref, roedd hi’n Saesneg ei hiaith. Ces i fy nhrosglwyddo i Hergest – adran iechyd meddwl ysbyty Gwynedd – i weld seicolegydd, oedd o’n Saesneg ei iaith.”

Yn ôl yr awdures sydd wedi sgrifennu nofel bwerus yn trafod salwch meddwl, ‘Wrth fy Nagrau i’, mae mynegi’ch hunan mewn ail-iaith pan yn isel eich ysbryd yn hynod o anodd.

“Dw i’n cael trafferth pan yn iach i fynegi’n hun yn Saesneg ond oedd trio siarad am eich teimladau mewn iaith arall yn amhosibl [gydag iselder],” meddai.

“Dyna beth wnes i, gwneud cais am seicolegydd Cymraeg ei iaith. Wnaethon nhw ddweud basan nhw’n trio ffeindio un ond doedd o ddim yn bosib. Wedyn ges i ddwy flynedd o fynd at seicolegydd a thrafod yn Saesneg.”

“Gallech chi gael cam-ddeiagnosis i ddechrau”

Yn ôl arbenigwr ym maes iechyd meddwl, gall diffyg dealltwriaeth o iaith y claf, achosi problemau difrifol. Dywed Dr Elin Walker Jones, sy’n seicolegydd clinigol yn ardal Conwy, bod angen denu mwy o siaradwyr Cymraeg i weithio ym myd iechyd meddwl.

“Mae 19% o seicolegwyr clinigol gogledd Cymru yn medru cynnal gwasanaeth clinigol llafar trwy gyfrwng y Gymraeg ond does neb ar hyn o bryd yn gweithio mewn iechyd meddwl,” meddai.

“Mae seicolegwyr yn tueddu i weithio ym maes anabledd dysgu neu faes plant. Mae’r sefyllfa wedi gwella yn helaeth yn enwedig ym maes plant ond wrth gwrs mae diffyg darpariaeth echrydus o hyd.”

Cewch ddarllen mwy yn Golwg, Awst 27