Mae asiantaeth Gristnogol newydd yn gobeithio cynnig cymorth i gyn-garcharorion a’u teuluoedd.

Bydd BARA yn lansio heddiw yn Llandudno er mwyn helpu cyn-garcharorion o ogledd Cymru “i ail-ddechrau byw”.

Mae ugain o wirfoddolwyr o eglwysi Caernarfon eisoes wedi eu hyfforddi i gefnogi cyn-droseddwyr a’u teuluoedd sydd angen help.
“Un o anghenion mwyaf ein cymdeithas ni heddiw yw lleihau ail-droseddu a chynnig pwrpas amgenach i droseddwyr a’u teuluoedd,” meddai Nan Powell-Davies, Caplan yng ngharchar Altcourse Lerpwl.
Mae cefn gwlad Cymru “yn dioddef yn enbyd” wrth i ysgolion, siop y pentref a hyd yn oed y dafarn gau,” meddai.
“Rhaid i’r cyn-droseddwr a’r dioddefwr allu cyd-fyw yn y cymunedau hyn.”
“Mae unrhyw un sydd yn gweithio ym maes trosedd yn cydnabod bod angen help ymarferol i droseddwyr i ail-gysylltu â chymdeithas,” meddai Michael Farmer sy’n Gwnselydd y Frenhines a chadeirydd grwp hybu BARA.