Jest y Job i’r athrawes Catrin Evans

 

Mae Catrin Evans bellach wedi setlo yn ei swydd yn un o ysgolion cynradd Cymraeg y brifddinas…

 

Enw: Catrin Evans

Swydd: Dirprwy Bennaeth Ysgol Gymraeg Melin Gruffydd, Caerdydd

Arwyddair yr ysgol: Cofia ddysgu byw

Un o ble ydych chi?

Cefais fy magu yng Ngheredigion mewn pentref o’r enw Llandysul gan fynychu yr ysgol gynradd yn y pentref. Yna fe es i ymlaen i fynychu Ysgol Gyfun Dyffryn Teifi, Llandysul cyn mynd i’r Brifysgol yng Ngholeg y Drindod Caerfyrddin. Rwyf wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd ers tua wyth mlynedd bellach.

Beth fuoch chi’n ei wneud cyn y swydd hon?

Rwyf wedi derbyn swyddi ym myd addysg ers i mi gymhwyso yn athrawes gan ddechrau fy ngyrfa yn Ysgol Gynradd Aberaeron. Wedi hyn mi wnes i dreulio cyfnod fel Athrawes yn Ysgol Brynonnen ym Mhont-y-pŵl cyn mynd ymlaen i fod yn Ddirprwy Bennaeth yn Ysgol Gymraeg y Ffin, yng Nghil-y-coed.

Beth yw eich hoff air neu ddywediad?

“Mae popeth yn digwydd am reswm.”

Dwi’n gredwr cryf mewn ffawd ac yn teimlo bod yna wers i bopeth sydd yn digwydd mewn bywyd. Dwi’n ceisio byw bywyd i’r eithaf oherwydd mae’n llawer rhy fyr i beidio mwynhau bob munud!

Beth yw’r wers orau i chi ei dysgu mewn bywyd?

Es i allan i Lesotho yn Ne Affrica i ymweld ag ysgol ac i aros mewn cartref gyda theulu tlawd. Y wers fwyaf nes i ei dysgu oedd i fod yn ddiolchgar am bopeth sydd gen i yn fy mywyd – rydym ni mor lwcus yn y wlad yma o gymharu â Lesotho!  Roedd yr ardal mor dlawd ond roedd y plant mor hapus. Mae angen gwerthfawrogi’r profiadau a’r pethau bach sy’n digwydd mewn bywyd.

Eich hoff gân?

Mae sawl cân yn dod â llwyth o atgofion hapus i mi. Dwi wrth fy modd yn teithio’r byd ac un gân yn enwedig sydd wedi aros gyda fi yw Mumford and Sons “Lion Man”– atgofion o wyliau braf yn teithio mewn llong hwylio ar draws y Whitsundays yn Awstralia. Roedd yr haul yn gwenu’n braf a’r gwynt yn chwythu yn fy ngwallt. Wrth edrych o gwmpas roedd traethau gwyn a’r môr yn disgleirio! Teimlad o fod mewn paradwys llwyr!

Sut ydych chi’n hoffi eich paned?

Yn boeth! Erbyn i mi gael amser i’w yfed yn y dydd mae fel arfer wedi troi’n oer! Dwi’n yfed fy nghoffi yn ddu ac mae fy nhe fel arfer yn un mintys.

 

Cafodd y swydd hon ei hysbysebu yn Golwg

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.

Rheolau Cyfrannu | Nodi Camddefnydd

Rheolau Cyfrannu

Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.

Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.

Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360 yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.

Iawn

Nodi Camddefnydd

Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.

Iawn

Straeon poblogaidd