Glesni Edwards yn gobeithio am “brofiad bythgofiadwy” yn ei swydd newydd

 

Rai wythnosau’n ôl ar Golwg 360 cawsom gyfle i ddod i adnabod un aelod o’r tîm a fydd yn gweithio fel Swyddogion Datblygu’r Gymraeg ym Mhatagonia, sef Gwenno Rees. Yr wythnos hon, Glesni Mair Edwards sy’n cael ein sylw – bydd hi’n teithio gyda Gwenno i dde America ym mis Chwefror.

Mae’r swyddi yma wedi bodoli gan y British Council ers 1997, ac mae dau berson wedi teithio o Gymru i ben draw’r byd bob blwyddyn er mwyn hybu’r defnydd o’r Gymraeg yno. Yn ogystal â chynorthwyo gyda’r gwaith dysgu mewn dwy ysgol ddwyieithog – Ysgol Gymraeg y Gaiman ac Ysgol yr Hendre yn Nhrelew – bydd Glesni a Gwenno’n gyfrifol am gynnal sesiynau dysgu Cymraeg i oedolion ac yn cynorthwyo gyda threfnu nifer o ddigwyddiadau a sesiynau cymdeithasol trwy gyfrwng y Gymraeg yn Nyffryn Camwy.

O Ddyffryn Clwyd i Ddyffryn Camwy

“Rwy’n ffodus o fod wedi cael fy magu mewn ardal mor hardd â Dyffryn Clwyd,” meddai Glesni wrth Golwg gan sôn am ei magwraeth yn Llandyrnog. A gan nad yw wedi bod ym Mhatagonia o’r blaen, mae’n edrych ymlaen at weld y gwahaniaeth rhwng y golygfeydd a’r dirwedd ym mro ei mebyd ac yn Nyffryn Camwy.

Er nad yw erioed wedi troedio tir de America o’r blaen, mae ganddi brofiad o weithio dramor. Pan oedd yn ddeunaw oed bu’n cynnal a chadw’r Parciau Cenedlaethol yn Tasmania a Perth yn Awstralia dros gyfnod o 6 mis. Mae’n gobeithio y bydd y profiadau ym maes cadwraeth a’r amgylchedd ym mhen draw’r byd o fudd iddi wrth geisio cynnal a hybu’r defnydd o’r Gymraeg yn y cymunedau yn y Wladfa.

Mae Glesni’n edrych ymlaen yn eiddgar at barhau â’r “gwaith gwych” sydd eisoes wedi’i wneud yn hybu’r iaith, a sicrhau bod nifer y siaradwyr Cymraeg yn parhau i gynyddu. Mae’n cydnabod y “potensial aruthrol” i hybu’r Gymraeg nid yn unig drwy’r ysgolion, ond drwy ffordd o fyw’r trigolion lleol.

Bydd tri Swyddog Datblygu’r Gymraeg yn hedfan i Batagonia ddiwedd Chwefror, ac yn gweithio yno tan ddiwedd 2018.

Cafodd y swydd hon ei hysbysebu ar Golwg 360.

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.

Rheolau Cyfrannu | Nodi Camddefnydd

Rheolau Cyfrannu

Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.

Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.

Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360 yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.

Iawn

Nodi Camddefnydd

Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.

Iawn

Straeon poblogaidd