Tiwtor Ffracsiynol – Prifysgol Aberystwyth

18 Mawrth 2020

Dysgu Cymraeg

Caerfyrddin, Sir Gâr

949 oriau blynyddol

Gradd 6:£28,331 – £33,797 y flwyddyn pro rata

I hyrwyddo gweithlu hyblyg, bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan unigolion sy’n ceisio am swydd gyda threfniadau gweithio llawn amser, rhan amser, rhannu swydd, neu yn ystod y tymor yn unig.

Mae Prifysgol Aberystwyth yn darparu rhaglen o gyrsiau Dysgu Cymraeg yn y gymuned ac yn y gweithle, i tua 2,000 o ddysgwyr ar draws Ceredigion, Powys a Sir Gâr, ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Mae hwn yn gyfle i ymuno â thîm o diwtoriaid i wneud cyfraniad ymarferol i hybu’r iaith Gymraeg mewn cymunedau lleol. Byddwch yn paratoi a dysgu dosbarthiadau ar bob lefel, a bydd gennych rôl allweddol i gefnogi dysgwyr er mwyn eu galluogi i gwblhau eu cyrsiau’n llwyddiannus, a symud ymlaen i’r lefel nesaf. Byddwch yn deall sut i ddysgu ail iaith i oedolion a byddwch yn gallu asesu dysgwyr a rhoi adborth iddynt.

Cyf: DC.20.3144

I ymgeisio: https://jobs.aber.ac.uk/cy/vacancy/tiwtor-ffracsiynol-dysgu-cymraeg-415569.html

Sefydliad Dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sy’n ymroddedig i Gyfle Cyfartal. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd yn Gymraeg neu yn Saesneg a bydd pob cais a gyflwynir yn cael eu trin yn gyfartal.

Dyddiad Cyfweliad: Ebrill 2020

FEL ARFER FE BENODIR I SWYDDI O FEWN 4-8 WYTHNOS WEDI’R DYDDIAD CAU.

Dyddiad cau i ymgeiswyr
31 Mawrth 2020

Cofiwch sôn am adran swyddi Golwg360 wrth ymateb i’r hysbyseb hwn.