Prif Swyddog Gweithredol – CBAC

c.£135,000 a phensiwn
Caerdydd
Mae CBAC yn un o’r prif gyrff dyfarnu sy’n hynod effeithlon ac uchel ei barch, sy’n darparu cymwysterau TGAU, UG, Safon Uwch a galwedigaethol rhyngwladol i ysgolion a cholegau yn y DU. Hoffai’r Bwrdd benodi unigolyn eithriadol i arwain y sefydliad wrth iddo weithredu mewn marchnad sy’n parhau i newid ac yn fwyfwy cystadleuol. Mae angen i’r sawl a benodir fod yn unigolyn â gweledigaeth sy’n gallu ysbrydoli. Dylai allu cyfathrebu ac ymgysylltu’n rhagorol â rhanddeiliaid, gan sicrhau bod CBAC yn parhau i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel sy’n canolbwyntio ar y cwsmer, gan archwilio ffyrdd i’r sefydliad allu arloesi mewn modd priodol.
Gan weithio gyda’n Bwrdd a’r Tîm Arwain Gweithredol i ddatblygu, cynllunio a gweithredu strategaeth CBAC, byddwch yn ysgogi gweddnewid yng nghyd-destun polisïau addysg penodol a gwahanol rhwng llywodraethau’r DU gyda’r nod o sicrhau bod CBAC yn parhau i fod ar flaen y gad yn y byd addysg.
Dyma rôl arwain ar lefel uwch sy’n gyffrous ac allweddol gan gynnig cyfle i ddylanwadu ar y byd addysg yng Nghymru a Lloegr yn ystod cyfnod o newid mawr, gan gynnwys ymgorffori’r cymwysterau diwygiedig a chyflwyno Cwricwlwm i Gymru 2022.
Y Rôl
- Yn atebol i’r Cadeirydd a’r Bwrdd, ac yn rheoli tîm arwain gweithredol o 7 yn uniongyrchol, byddwch yn arwain ar ddatblygu egwyddorion a swyddogaethau CBAC, gan sicrhau bod systemau llywodraethu priodol ar waith.
- Gan ysgogi ymrwymiad trwy ddatblygu perthnasoedd strategol gyda phartneriaid a rhanddeiliaid, a thrwy eich safle ar Fwrdd Cyfarwyddwyr y Cydgyngor Cymwysterau, byddwch yn llywio ac yn gyrru strategaeth CBAC er mwyn gwella a chryfhau ein sefyllfa fel y darparwr mwyaf yng Nghymru ac yn un o brif ddarparwyr Lloegr a Gogledd Iwerddon.
- Byddwch yn arweinydd ysbrydoledig, sy’n dangos gweledigaeth a chyfeiriad strategol i lywio a gyrru strategaeth CBAC yn ei blaen; gan godi proffil CBAC, ei uchelgais a’i botensial aruthrol i dyfu, a sicrhau bod y sefydliad yn cymhwyso’i werthoedd craidd ym mhopeth mae’n ei wneud.
- Yn atebol am berfformiad ariannol a threfniadol y sefydliad, yn gyfrifol am sefydliad sy’n cyflogi 400 o weithwyr a throsiant o £48m, bydd disgwyl i chi hyrwyddo’r defnydd effeithiol o adnoddau; gan gyflawni gwerth am arian heb amharu ar ansawdd.
- Mae CBAC yn ganolog yn y byd addysg yng Nghymru fel y darparwr cymwysterau mwyaf. Byddwch yn adeiladu cynghreiriau strategol gyda phartneriaid yn Llywodraeth Cymru, rheoleiddwyr, CLlLC, consortia ac awdurdodau lleol; gan sicrhau bod CBAC yn parhau i gefnogi ymrwymiad Cymru i system addysg ddwyieithog ac yn annog a hyrwyddo’r Gymraeg.
Yr Unigolyn
- Yn arweinydd cadarn, ysbrydoledig â llwyddiant blaenorol wrth arwain newid sefydliadol a newid gwasanaethau, byddwch wedi gweithio mewn sefydliadau cymhleth, mewn diwydiannau a reoleiddir os oes modd. Mae profiad ym maes addysg yn fanteisiol, ond nid yn hanfodol.
- Trwy eich dealltwriaeth o’r hyn sy’n digwydd yn y byd addysg yn Lloegr, Cymru, Gogledd Iwerddon a rhanbarthau annibynnol y mae CBAC yn gweithredu ynddynt byddwch yn arwain y sefydliad mewn modd credadwy.
- Yn gyfathrebwr eithriadol, yn gallu cynrychioli’r sefydliad a dylanwadu ar amrywiol elfennau cenedlaethol y byd addysg y mae CBAC yn gweithredu ynddynt, byddwch yn ennyn ymddiriedaeth, parch a hyder amrywiaeth eang o randdeiliaid, yn cynnwys awdurdodau rheoleiddio a llywodraethau.
- Bydd gennych brofiad o weithio’n effeithiol gyda Chadeirydd a Bwrdd Cyfarwyddwyr yn ogystal â phrofiad masnachol cadarn gyda hanes blaenorol o nodi ac archwilio cyfleoedd marchnad newydd amrywiol.
- Yn wirioneddol werthfawrogol o ddiwylliant Cymru, byddwch yn eiriolwr y Gymraeg; byddai sgiliau Cymraeg yn fanteisiol, a bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus ddod i fedru’r Gymraeg yn gyflym.
I gael trafodaeth anffurfiol a chopi o’r briff i ymgeiswyr, cysylltwch â:
Siân Goodson, Rheolwr Gyfarwyddwr:sian@goodsonthomas.com / 02921 674 422 / 07545 850813
Juliet Jukes, Prif Ymgynghorydd: juliet@goodsonthomas.com / 02921 674 422 / 07387 094 078
Sam Smith, Uwch Ymgynghorydd: sam@goodsonthomas.com / 02921 674 422 / 07958 580 220
I wneud cais, cyflwynwch eich CV a llythyr eglurhaol erbyn dydd Gwener 10 Ionawr 2020 trwy https://www.goodsonthomas.com/vacancies/, gan ddyfynnu GT_0209_WJEC yn y llinell ‘pwnc’.
Cydnabyddir pob cais.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 12 o’r gloch canol dydd, dydd Gwener 10 Ionawr 2020
Cyfweliadau ac Asesiad: w/d 27 Ionawr a’r w/d 3 Chwefror 2020
Cyfweliad Panel Terfynol: Dydd Mawrth 10 a dydd Mercher 11 Mawrth 2020
- Dyddiad cau i ymgeiswyr
- 10 Ionawr 2020
Cofiwch sôn am adran swyddi Golwg360 wrth ymateb i’r hysbyseb hwn.