Arafwch er Diogelwch Eich Tref

Mae chwe wythnos o wyliau Haf bellach wedi dirwy i ben ac mae’n bryd dychwelyd i’r ysgol am dymor arall. Bydd y ffyrdd yn prysuro a’r palmentydd o amgylch ysgolion yn llenwi wrth i rieni fynd a’u plant i’r ysgol yn y bore a’u casglu yn y prynhawn.

Rhwng y 9 – 13 Medi bydd GanBwyll yn rhedeg ymgyrch gorfodi 20mya tu allan i Ysgolion Cynradd ledled Cymru gyda’r nod o orfodi’r cyfyngder cyflymder sydd wedi ei osod yn yr ardaloedd yma i ddiogelu plant ysgol a’u rhieni.

Mae’r cyfyngder hwn yn ei le er mwyn lleihau’r risg o wrthdrawiad a allai achosi anaf neu niwed i blentyn, ond eto mae rhai modurwyr yn parhau i oryrru.

Bydd ein swyddogion lleihau anafiadau yn bresennol tu allan i ysgolion ar draws Cymru yn ystod y bore a’r prynhawn trwy gydol yr wythnos i hybu gyrru cyfrifol ac i orfodi’r cyfyngder cyflymder.

Ein gobaith yw gallu adrodd na ddaliwyd yr un modurwr yn goryrru yn yr ardaloedd yma erbyn diwedd yr wythnos.

Dydyn ni ddim eisiau arian modurwyr, rydym ni eisiau gweld ffyrdd Cymru’n fwy diogel i bawb. Felly, os na ddalier modurwr yn goryrru yna mae ein gwaith gorfodi yn gweithio ac mae’r nod o weld y ffyrdd yn fwy diogel yn gweithio.

Gydol yr wythnos yna ym mis Medi, os gwelwch fan gorfodi tu allan i Ysgol Gynradd eich plentyn neu yn eich cymuned, cofiwch ein bod yno i ddiogelu’r plant a’r rhieni wrth iddynt fynd i’r ysgol a gadael ar ddiwedd y dydd.

Arafwch er diogelwch eich tref.

Byddwch yn ofalus. Byddwch wyliadwrus.

GanBwyll

 

 

Dweud eich dweud