Tu Ȏl i’r Lens

Pan welwch un o faniau gorfodi GanBwyll yn eich hardal, beth ydy’r peth cyntaf rydych yn ei feddwl?

“Dyna nhw eto, yn cuddio i ddal modurwyr!”

“Dyna nhw, yn gwneud mwy o arian allan o fodurwyr!”

“Ydw i’n goryrru? Ydw i wedi cael fy nal yn goryrru?”

Dyma rai o’r pethau mae pobl wedi dweud wrthym ni pan rydym yn ymgysylltu gydag aelodau o’r cyhoedd mewn digwyddiadau ar draws Cymru.

Gydol Y Sioe Frenhinol rai wythnosau yn ôl fe gafodd y cyhoedd y cyfle i weld tu ôl y lens ac i weld tu ôl i ddrysau caeedig y fan gorfodi, sut mae’r camerâu yn gweithio a cyfle i siarad gyda’r swyddogion am yr hyn maen nhw’n ei wneud a pham.

Rydym yn clywed sawl chwedl rhyfeddol am beth sydd yn digwydd y tu ôl i’r lens, gan gynnwys un honiad bod y swyddog yn y fan yn gadael i’r camera recordio pob cerbyd sy’n gyrru heibio’r fan tra bod y swyddog yn eistedd ac yn darllen llyfr.

Mae hi’n wir i ddweud bod y camera yn recordio’n ddi-baid (fel fideo). Ond, mae ein swyddogion profiadol yn beirniadu cyflymder pob cerbyd sy’n gyrru heibio i’r fan cyn bod y camera yn cael ei anelu at wrthrych llyfn, fel y plât rhif , a gwasgu botwm i recordio cyflymder y cerbyd.

Mae’r laser o’r camera yn cofnodi’n gywir cyflymder y cerbyd, gyda’r cyflymder yn ymddangos ar y sgrin. Os ydy’r cerbyd yn gyrru dros y cyfyngder cyfreithiol yna bydd perchennog y cerbyd yn derbyn NIP drwy’r post o fewn 14 diwrnod. Os ydy’r cerbyd yn gyrru o fewn y cyfyngder cyflymder yna ni fydd unrhyw gamau pellach yn erbyn y perchennog.

Mae ein swyddogion wedi cael pwerau penodol dan Ddeddf Diwygio’r Heddlu gan Brif Gwnstabl eu llu heddlu penodol, ac maent yn cyflawni eu dyletswyddau yn unol â ‘ r gyfraith.

Mae llawer o’n Swyddogion Lleihau Anafiadau yn gyn-swyddogion yr Heddlu sydd bellach wedi ymddeol, ac mae ganddynt flynyddoedd o brofiad o blismona’r ffyrdd. Nododd un o’n swyddogion “Does dim byd gwaeth na gorfod dweud wrth rywun eu bod nhw wedi colli anwyliaid” a’i ddymuniad i wella diogelwch yw’r rheswm mae’n gwneud y swydd.  Os bydd ein swyddogion yn dychwelyd o leoliad heb ganfod unrhyw droseddau yna mae hynny’n arwydd o ddiwrnod da gan ei fod yn dangos cydymffurfiaeth â’r terfynau.

Nid ydym ar ffyrdd Cymru i wneud arian, nac i ddal modurwyr – rydym yno i achub bywydau.

Dweud eich dweud