Camerâu cyflymder – yn y man cywir, ar yr amser cywir, am y rheswm cywir!

Ar y 28 Ionawr 1896, fe gafwyd Walter Arnold o Gaint yn euog o oryrru; y person cyntaf yn y Deyrnas Unedig i gael ei gyhuddo’n llwyddiannus o’r drosedd. Ac yntau’n teithio tua 8 milltir yr awr ar y pryd, roedd e wedi mynd y tu hwnt i’r cyfyngder cyflymder cyfreithiol o 2 filltir yr awr. Fe gafodd Walter Arnold ddirwy o 1 swllt yn ogystal â chostau.

Yn 1903 fe godwyd y cyfyngder cyflymder i 20 milltir yr awr ac yn 1934 fe osodwyd cyfyngder cyflymder cyffredinol o 30 milltir yr awr ar ffyrdd mewn ardaloedd lle’r oedd adeiladau – cyfyngder sydd  yn dal i fod mewn grym heddiw.

Cyflwynwyd y camera cyflymder cyntaf ar ffyrdd y Deyrnas Unedig yn 1992 ac, ers hynny, mae cymunedau wedi dod yn gyfarwydd â gweld camerâu cyflymder sefydlog a symudol ar ffyrdd Cymru. Caiff y camerâu hyn eu gosod lle mae pobl wedi cael eu lladd neu eu hanafu, lle mae cofnod o bobl yn gyrru’n rhy gyflym, mewn mannau lle mae pryderon wedi’u cofnodi gan gymuned neu ar gyfer gweithrediadau arbennig.

Mae camsyniad am y camerâu hyn: eu bod yn cael eu gosod er mwyn gwneud elw neu lle byddant yn dal y mwyaf o droseddwyr. Mewn gwirionedd, y camerâu mwyaf llwyddiannus yng Nghymru yw’r rhai sy’n cofnodi’r nifer LLEIAF o droseddau, nid y mwyaf.

Lle rydym yn gorfodi, mae mwy o bobl yn cydymffurfio â’r cyfyngder cyflymder ac fe hoffen ni weld hyn ar draws y rhwydwaith ffyrdd, nid dim ond mewn nifer fach o fannau.

O’r herwydd, mae GanBwyll yn adnewyddu ein strategaeth o ran gosod camerâu a byddwn yn mynd i fannau allweddol lle mae gwrthdrawiadau traffig ar y ffordd wedi digwydd; hynny er mwyn gweithredu’r gyfraith o ran goryrru, defnyddio ffonau symudol neu beidio â gwisgo gwregysau diogelwch.

Mae rhai modurwyr hefyd yn tybio na all ein camerâu weithredu’n ddilys heb fod arwyddion i rybuddio bod camera cyflymder yno. Dyw hyn ddim yn wir ac rydym yn annog pob modurwr i gymryd yn ganiataol, pan welant arwydd cyfyngder cyflymder neu pan fyddn nhw mewn ardal lle mae goleuadau stryd, y gallai camera gorfodi fod yno hefyd.

Mae GanBwyll ar fin lansio strategaeth newydd o ran gosod  ein camerâu symudol, lle gallwn fod yn unrhyw le ar unrhyw bryd. Ond mae’n bwysig pwyslesio y byddwn yn anelu at fod yn y man cywir, ar yr amser cywir: am y rheswm cywir.

“Gwyddom, lle mae camerâu symudol, bod modurwyr yn cydymffurfio gyda’r cyfyngderau cyflymder ond mai dim ond ar 2% o rwydwaith ffyrdd Cymru y mae ein camerâu ar hyn o bryd. Credwn yn gryf y dylai ein camerâu allu ymestyn eu heffeithiolrwydd ar draws rhan ehangach o’r rhwydwaith ffyrdd.

Nid oes byth angen nac esgus am oryrru ac mae’r strategaeth newydd hon yn anelu at wella cydymffurfiaeth gan fodurwyr ar draws ffyrdd Cymru er diogelwch pawb.”

Teresa Ciano, Rheolwr Partneriaeth GanBwyll

Dydyn ni ddim eisiau eich arian, rydym am wneud ffyrdd Cymru yn fwy diogel, a thrwy’r strategaeth adleoli newydd hon rydym yn gobeithio y bydd lefelau cydymffurfio ar bob ffordd yn cynyddu, gan arwain at daith fwy diogel i bob defnyddiwr ffordd.

Dweud eich dweud