Carreg Filltir – dechrau gyrru

Casgliad o fathodynnau ar ffurf arwyddion cyflymder 30, 40 a 50

Llun: GanBwyll

Mae dathlu pen-blwydd yn 17 mlwydd oed yn ddiwrnod mawr, oherwydd bod y gyfraith yn caniatáu ichi ddechrau dysgu gyrru – un o gerrig filltir mawr ein bywydau. Gyda’r gallu i yrru car mae’r drws yn agor i fwy o ryddid ac annibyniaeth i’r gyrrwr, a phennod newydd ar daith bywyd.

Mae gyrwyr ifanc yn dueddol o fod â sgiliau da wrth reoli cerbyd, oherwydd eu bod newydd gael gwersi gyrru. Tuedda gyrwyr ifanc hefyd i fod â gallu i ymateb ynghynt.

Ar y llaw arall, dydyn nhw ddim yn “darllen” y ffordd nac yn gweld peryglon posib mewn da bryd. Mae defnyddio arsylwadau a dehongli’r hyn yr ydych yn ei weld yn sgil y mae angen ei ymarfer.

Mae’r awydd i “greu argraff” ar ffrindiau’n llawer cryfach yn y categori oedran iau na chyda gyrwyr mwy profiadol. Gall yr awydd hwn, ynghyd â diffyg profiad, olygu gyrru’n rhy gyflym ar gyfer amgylchiadau’r ffordd, cymryd risgiau diangen a brolio’n gyffredinol, sy’n aml yn arwain at ganlyniadau trasig.

Gyda natur technoleg ffonau symudol, mae gyrwyr ifanc yn meddu ar y modelau diweddaraf yn gynnar a byddai’r rhan fwyaf o bobl ifanc yn methu ag ymdopi pe bai eu ffonau symudol yn cael eu tynnu oddi arnyn nhw neu hyd yn oed  yn cael eu diffodd. Dyw ffonau symudol a gyrru ddim yn cymysgu a gall chwarae cerddoriaeth uchel dynnu sylw ac effeithio ar allu’r gyrrwr i ganolbwyntio.

Yn 2015 dim ond 7% o ddalwyr trwydded yrru lawn yn y Deyrnas Unedig oedd rhwng 17-24 mlwydd oed ond, yn anffodus, gyrwyr ifanc oedd mewn 22% o’r damweiniau marwol neu difrifol ar y ffyrdd yn yr un flwyddyn.

Mae GanBwyll yn awyddus i addysgu ac i newid agweddau gyrwyr ifanc tuag at ddiogelwch y ffordd. Gallwn ni gyd gyfrannu at ddiogelwch y ffordd a lleihau y nifer o ddamweiniau difrifol a marwol sydd ar ffyrdd Cymru bob blwyddyn.

  • Gwisgwch eich gwregys diogelwch – chi a’ch teithwyr
  • Gyrrwch o fewn y terfynau cyflymder – maen nhw yno i achub bywydau
  • Peidiwch â gyrru pan ydych yn flinedig; cymerwch seibiant ar deithiau hir
  • Peidiwch â gyrru wedi i chi fod yn yfed na chwaith o dan ddylanwad cyffuriau
  • Gwyliwch am gerddwyr, beicwyr, ceffylau ac eraill sy’n defnyddio’r ffyrdd
  • Peidiwch â gofidio pan fydd defnyddwyr eraill y ffordd yn gwneud camgymeriadau, pwyllwch a chadwch eich pellter.
  • Cymerwch ofal ychwanegol gyda’r hwyr ac mewn tywydd garw
  • Peidiwch â defnyddio eich ffôn symudol wrth yrru

Dewch i’n gweld

 Os ydych mynd i Eisteddfod Yr Urdd yng Nghaerdydd yr wythnos hon, cofiwch alw draw i stondin GanBwyll i ddysgu mwy am ein gwaith i gadw ffyrdd Cymru’n fwy diogel.

Bydd cyfle i chi:

  • Holi ein swyddogion am ddiogelwch y ffyrdd
  • Dysgu mwy am sut mae ein camerâu yn gweithio
  • Dysgu mwy am ein ymgyrchoedd
  • Cymryd rhan yn ein harolwg
  • Tynnu hunlun gyda’n ffrâm hunlun arbennig

Ddydd Iau, 30 Mai, bydd cyfle i chi holi Osian Pryce, y raliwr o Fachynlleth am ei yrfa ym myd ralio.

 Gallwn ni i gyd gyfrannu at ddiogelwch y ffordd!

 

Dweud eich dweud